Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Debygwn i 0. E. Roberts YSGRIFENNU AR FEDDYGAETH MENTRODD y Gymdeithas Feddygol ddechrau cyhoeddi cylchgrawn o'r enw Cennad fis Mehefin eleni (1980), hwnnw i ymddangos o leiaf ddwywaith y flwyddyn ond yn gyfyngedig ei gylchrediad. Dr. Ieuan Parri, Penrhyndeudraeth, un â phrofiad mewn bathu termau Cymraeg ar gyfer geirfa feddygol, yw'r golygydd ac fe hoffai ef gynnwys yn y cylchgrawn waith gwreiddiol, megis canlyniadau ymchwil. Gan fod lle amlwg i gamau breision meddygaeth y dyddiau hyn ar radio a theledu mae ar bobl eisiau gwybod rhagor am weithgareddau meddygon ac oherwydd y galwad wele gyfle i ymateb mewn erthyglau Cymraeg darllenadwy yn hytrach na chyfyngu'r cylchgrawn i feddygon yn unig. Ond pob hwyl i'r fenter, gan hyderu y daw Cennad maes o law yn gydymaith teilwng i Y GWYDDONYDD, sy'n sicr wedi ennill lle arbennig ym myd cyhoeddi Cymraeg. Y doctoriaid Emyr Wyn Jones, Glyn Penrhyn Jones a Huw Edwards a gyfrannodd fwyaf i'n llenyddiaeth feddygol yn ystod yr ugain mlynedd diwethaf, er y cyhoeddwyd nifer o lyfrau cyn hynny, o tua 1750 ymlaen.* Nid anwybyddwyd pynciau meddygol yng nghylchgronau'r ganrif ddiwethaf ychwaith. Bu erthygl ar awyriad addoldai yn Y Drysorfa ym 1835 a thrachefn yn yr un cylchgrawn ym 1894. Yn yr un cylchgrawn, eto ym 1835, ymborth dyn oedd y testun ac wele adroddiad ynddo hefyd o ddarlith, adroddiad gweddol faith: 'Traddododd y Dr. Moor, Phisygwr rhagorol yn Nghaerlleon, araeth gyn- nwysfawr iawn, yn ddiweddar, yn Sefydliad y Llawgelfyddwyr, allan o'r hwn y dyfynwyd yr ychydig bethau nodedig a ganlyn:— Am ddyn wedi boddi dylid arfer moddion i geisio adferyd bywyd drwy ymgais am adferiad rhediad y gwaed, chwythad y ffroenau, ac agoriad y chwys dyllau, er y byddai dyn wedi bod dan ddwfr am ddwy awr neu dair Pan y byddo dyn wedi ei grogi yn erbyn ei wddf, mae marwolaeth yn dyfod yn yr un modd a phe bai y dyn yn boddi, hynny yw, mae y gwaed oherwydd diffyg anadl bywiol neu yr oxygen gas i'r cylla, y mae yn troi yn wenwyn i'r ymenydd ac i holl ansawdd y gewynau, ac felly yn lladd y dyn. Mellt. Os bydd dyn newydd gael ei ladd gan fellten, symmudwch y corph i awyr oer ac iachus, chwyrn-deflwch gryciad o ddwfr oer arno, rhwb- iwch y corff yn dda, chwythwch awyr i'w gylla, a defnyddiwch wefr-dyniad (Electricity) araf.' Ambell bwt hefyd, megis ymysg nodiadau fel 'Amrywion' Y Dysgedydd (Ionawr, 1845): 'Dywedir mewn amryw Newyddiaduron fod un o'r Rwsiaid wedi cael allan ffordd i wella y gynddaredd. Y mae hefyd un o'r Ffrancod yn Paris wedi bod yn cynnyg ei gyffyr i athrofa feddygol, a arferwyd yn ei deulu ef am lawer o flynyddoedd. Dywedir iddo feddyginiaethu dros 800 o ddynion ac anifeiliaid.' Eto (1847), 'Y mae y typhus ferer yn gwneud anrhaith dychrynadwy yn Cork yn y dyddiau presenol. Bu 146 farw mewn un wythnos yn y tyloty yno.' Gwelai awdur erthygl ar fellt yn Y Dysgedydd yn y pumdegau fendithion o astudio trydaneg. Y mae dybenion meddygol i gael eu hateb drwyddynt. Y mae doniau gwyddor a chelfyddyd wedi eu rhoddi er lleihau dyoddefiadau, ac ychwanegu cysuron dynolryw Gwyddir fod gwefryddiaeth wedi bod yn foddion i wella y parlys, y gewyneg, a llawer o anhwylderau eraill Y mae y mellt wedi bod yn foddion i adferu golwg deillion am beth amser Ni wyddir gan hynny pa nifer o feddyginiaethau gwerthfawr a ellir eu gwneud ond deall yn iawn pa fodd i'w cymhwyso.' Bu tro ar fyd mewn newyddiaduraeth feddygol Saesneg yn y blynyddoedd diwethaf hyn. Dyna'r stwr a wnaeth y papurau wrth gyhoeddi hanes trawsblannu'r galon ddynol gyntaf yn Capetown, rhyw bymtheng mlynedd yn ôl. Yn ymddangos yn wyrthiol i'r cyhoedd, nid oedd neb yn fodlon ystyried mai arbrawf, nid gwyrth, ydoedd ac mai'r canlyniad llwyddiannus mewn cyfnod o amser oedd yn bwysig. Nid oedd trawsblannu calon yn beth hollol newydd gan i Alexis Carrell drawsblannu calon ci ym 1905 ac i lawfeddygon arbrofi ar yr un llinellau cyn i Barnard drawsblannu calon ddynol. I lawfeddyg, nid oedd gwahaniaeth dirfawr rhwng yr arbrawf ar anifail a'r un ar ddyn. Yr oedd cyhoeddi'r hyn a wnaeth Barnard yn groes i'r arferiad cyffredin cyn hynny, sef feddygon ddisgwyl llwyddiant i arbrawf cyn cyhoeddi