Un o Hen Elynion Dynolryw 'A PHAN ddaeth y bore, gwynt y dwyrain a ddug locustiaid. A'r locustiaid a aethant i fyny dros holl wlad yr Aifft ni bu y fath locustiaid o'u blaen hwynt, ac ar eu hol ni bydd y cyffelyb. Canys toisant wyneb yr holl dir, a thywyllodd y wlad; a hwy a ysasant holl lysiau y ddaear, a holl ffrwythau y coed, yr hyn a weddillasai y cenllysg: ac ni adawyd dim gwyrddlesni ar goed, nac ar lysiau y maes, o fewn holl wlad yr Aifft', (Exodus, x: 13-15). Hanes Fel y dengys y disgrifiad uchod o'r pla o locust- iaid a oddiweddodd yr Aifft, y mae'r locust, yn wir, yn un o hen elynion y ddynoliaeth. Y mae'r disgrifiad enwog a roddir yn Exodus o sut y mae haid o locustiaid yn ymddwyn yn rhyfeddol o fanwl a chywir. Ceir nifer o ddisgrifiadau tebyg yn yr Hen Destament ac y mae'n demtasiwn arw i ddyfynnu'n llawn y disgrifiad byw, llawn delweddau dramatig, a rydd y proffwyd Joel (ii: 3-9); ond bodlonaf ar ddwy adnod yn unig: 'Mae y wlad o'u blaen fel gardd baradwys, ac ar eu hol yn ddiffeith- wch anrheithiedig; a hefyd ni ddianc dim ganddynt. Yr olwg arnynt sydd megis golwg o feirch; ac fel marchogion, felly y rhedant', (ii: 3-4). Yn ôl y disgrifiad a rydd Sant Awstin o Hippo (354- 430 o.c.) yn 'Dinas Duw', o'r pla o locustiaid a oddiweddodd drefedigaethau Rhufain yng Ngog- ledd Affrica, 'roedd heintiau yn dilyn y pla. O ganlyniad, meddai, i'r ffaith fod yr aer wedi'i lygru gan gyrff y locustiaid a foddwyd yn y môr, ac a oedd yn awr yn pydru'n bentyrrau ar hyd y traeth, bu farw 800,000 o bobl. Y mae'r gwynt yn aml yn chwythu heidiau o locustiaid allan i'r môr i foddi. Mae'r tonnau wedyn yn dod â'r cyrff yn ôl i'r lan ac yn eu pentyrru ar hyd yr arfordir am filltiroedd. Gwelwyd hyn ar arfordir y Môr Coch yn gymharol ddiweddar. Er yr ymddengys nifer y marwolaethau yn ôl Awstin yn uchel, nid yw o angenrheidrwydd yn eithafol neu'n afresymol o uchel hyd yn oed o'i gymharu â ffigurau modern am ganlyniadau newyn. Y tebygolrwydd yw mai gwir achos y marwolaethau oedd teiffws yn dilyn newyn. Gwelwyd pla o locustiaid yn y Camargue, Ffrainc ym 1613. Bwytawyd digon o borfa ar gyfer 3-4,000 o wartheg mewn wyth awr a'r un oedd hanes y caeau llafur. Pan nad oedd dim byd HUW EDWARDS gwyrdd ar ôl, symudodd y locustiaid i fyny dyffryn y Rhôn i Tarascon ac y tu hwnt gan fwyta a dinistrio popeth. Dilynwyd y pla hwn gan Haint y Nodau (y pla bwbonig). Tir bridio'r locust Ond peidied neb â chredu mai rhywbeth yn perthyn i hen hen hanes yn unig yw pla o locustiaid. Y mae hwn hefyd yn broblem fodern iawn-yn wir, dechreuodd y pla diweddaraf yn Ne Arabia ddwy flynedd yn ôl. Locust y diffeithwch, Schistocerca gregaria, yw un o'r creaduriaid mwyaf anorchfygol yn y byd. Y mae'n byw yn yr anialwch sy'n ymestyn o'r Sahara i Afon Nil ac o'r Nil i Somalia, Ethiopia a'r Môr Coch, wedyn ar draws Arabia i Iran, Affganistan, Pacistan a Gogledd India. Bu'r locust yn llechu ers canrifoedd yn y diffeithwch hwn o dywod, creigiau a mynyddoedd, gydag ambell werddon unig ac ynddi borfa gwrs a choeden neu ddwy. Prin fod hyd yn oed y locust yn medru byw mewn tiriogaeth mor arw a digroeso. Ond rhywsut y mae'n llwyddo i oroesi'r hafau mwyaf sych ac i aros ei gyfle nes y daw amgylchiadau ffafriol. Nid oes angen mwy na thair blynedd gymharol wlyb i drawsffurfio'r sefyllfa. Gwyddys yn awr bod ychydig o gynnydd yn lefel y gwlybaniaeth yn y pridd yn caniatáu i wyau'r locust oroesi a datblygu'n gyflym. O fewn blwyddyn ar ôl un tymor gwlyb bydd y boblogaeth wreiddiol Ymddengys mai mater 0 gyfarfyddiad siawns yw cyplysu ymhlith locustiaid; fel arall bydd y rhan fwyaf 0 íocustiaid y diffeithwch yn tueddu adlamu oddi wrth ei gilydd. Pan fyddant yn heidio byddant yn newid lliw o bine a choch felyn llachar