Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

PALINDROMAU: Cystadleuaeth Rhifyn Mis Mehefin (Rhif 8) Yn rhifyn mis Mehefin gosodwyd cystadleuaeth yn gwahodd darllenwyr i gyfansoddi palindrôm, sef brawddeg nad yw'n newid o'i darllen o'r dde i'r chwith. Mentrodd pump i'r gystadleuaeth a chynigiwyd cymaint â deugain o balindromau. Mae cryn gamp ar y goreuon a gallwn ymfalchïo fod y gystadleuaeth wedi esgor ar ddeg neu ragor o frawddegau crefftus a chofiadwy, llawn cystal ag unrhyw beth sydd wedi'i gofnodi mewn ieithoedd eraill. Wrth bwyso a mesur y cyfansoddiadau unigol, a nodi eu rhinweddau, ceisiais ateb y cwestiynau canlynol: Beth yw hyd y palindrôm? A oes ystyr yn perthyn iddo? A yw'r frawddeg yn esbonio'i hun, ynteu a oes angen rhagymadroddi cyn y gwelir ei hergyd? A yw'n darllen yn naturiol a rhwydd, ynteu a yw'n glogyrnaidd neu'n stacato? A oes nodweddion perthnasol eraill fel, er enghraifft, rhyw ddimensiwn Cymreig o safbwynt ystyr neu wneuthuriad y palindrôm ? Beth, felly, am y cystadleuwyr? Tebyg iawn i'w gilydd o ran cynllun yw cynigion lluosog Mrs. Jane Williams, Llanrug, a anfonodd un ar ddeg o balindromau, a Mrs. Eluned Davies, Crymych, a gyfansoddodd dri ar ddeg. Cefais flas arbennig wrth ddarllen y canlynol: Mrs. Jane Williams: Bara i arab. I Len-Madam Neli Mrs. Eluned Davies: Naw mam wan. Soffa Adda, a ffos. Sais yn byw ym Mryste ac wedi dysgu Cymraeg yw Mr. A. M. Eyres. Mae ei bedwar palindrôm yn arbennig o gywrain o safbwynt eu hyd a'r modd y llwyddir i wau geiriau lluosill i'r patrwm. Yn anffodus, nid yw ystyr y palindromau yn hollol eglur bob tro. Serch hynny, mae eu gwneuthuriad yn grefftus iawn ac mae'r tri canlynol yn haeddu cymeradwyaeth: 'Stôr ŷd?', eb mam, 'Be dy'r ots?' Wyneb di-wên i newid benyw. A dyma'r addewid diweddar am y da. Mae'n fraint cael croesawu prifardd i golofnau cylchgrawn gwyddonol ac, fel y byddech yn disgwyl, mae'r Parchedig Eirian Davies wedi llwyddo i lunio palindrôm ar ffurf llinell gynganeddol saith sillaf. 'Ymson tramp' yw ei bennawd ar y palindrôm hwn: Od nad wyf i fyw dan do. Ei hunig wendid yw nad yw'n llinell hunan-esboniadol rhaid cynnwys y pennawd cyn iddi fod yn gwbl glir. Ar wahân i hynny mae cyfansoddiad sy'n llwyddo i ddilyn rheolau'r gynghanedd o fewn cynllun caeth palindrôm yn haeddu canmoliaeth- chwe marc Meurynaidd iddo! Dr. Tom Davies, Abertawe, yw'r pumed cystadleuydd ac mae gemau disglair yn britho ei gasgliad o un ar ddeg o balindromau. Er enghraifft: Dewin-gwr drwg-niwed! Asen-wyneb godidog-benyw nesa'. Nia'n yfed o de fy nain. Ond mae un o waith Dr. Davies yn mynnu glynu yn y cof a hynny, mi dybiwn, oherwydd ei fod yn llifo'n rhwydd a naturiol, sef: Nia, ni lefara'n ara' fel 'i nain. Diolch i bawb a fu wrthi mor ddygn yn naddu'r enghreifftiau hyn i gyd. Mae'n amlwg fod pob cystadleuydd wedi mwynhau'r dasg a osodwyd ac wedi cael blas ar