Nodion o'r Colegau ATHROFA GOGLEDD-DD CYMRU Nid yn aml mae cynhadledd ryng- wladol yn dewis Cymru fel man cyfarfod, ond dyna yn union a wnaeth Y Gym- deithas Ymchwil i Ymbelydredd ('The Association for Radiation Research'), yn nechrau Ionawr eleni. I'r gynhadledd hon yng Ngholeg Cartrefle daeth tros gant a hanner o feddygon, gwyddonwyr, darlithwyr a diwydianwyr o dros ugain o wledydd i wrando ar ddarlithcedd ac i drafod, mewn grwpiau llai, wahanol agweddau o'r ymchwil sy'n cael ei wneud drwy ddefnyddio ymbelydredd. Yr oedd y gynhadledd hefyd yn anrhydeddu dau o arloeswyr y maes- y Dr. Michael Ebert a'r Dr. Alma Howard o Labordai Paterson, Ysbyty Christie, Manceinion. Erbyn hyn mae'r pâr priod hwn wedi ymddeol ond bydd eu cyfraniad i ymchwil ffwndamental a'r ffyrdd o gymhwyso'r wybodaeth i drin y cancr yn parhau am flynyddoedd i ddod. Ysbyty'r Christie, canolfan fyd- enwog yn y maes, a gipiodd Goron Driphlyg yn y gynhadledd gan i'r Dr. John Keene dderbyn medal Weiss y Gymdeithas am ei gyfraniad i ddatblyg- iad cyflymydd ('accelerator') Linac. Yn ystod y gynhadledd cafwyd arddangosfa ddiwydiannol o Ganada ynghyd â Siop Lyfrau a Chrefftau Cymreig. Ar yr ochr gymdeithasol uchafbwynt y gynhad- ledd yn ddiau oedd cyngerdd cofiadwy gan Gôr Meibion Rhosllanerchrugog o dan arweiniad Mr. Colin Jones o Adran Gerddoriaeth yr Athrofa. Pur anaml mae unrhyw gymdeithas wyddonol yn cynnal darlith lie mae mwyafrif llethol y gynulleidfa yn bobl leyg, ond dyna fu hanes cyfarfod Mis Ionawr o Gymdeithas Wyddonol Clwyd. Mewn cyfarfod yn Ysgol Glan Clwyd daeth y milfeddyg adnabyddus Mr. Gwyn Llywelyn i roi darlith ar 'Ffrwyth- londeb y Fuches Laeth'. Cafwyd cip ar y wybodaeth fanwl o fiocemeg, cylch- oedd oestrus buwch a'r pwysigrwydd i'r amaethwr o ddeall a defnyddio y newid- iadau yn lefelau hormonau arbennig. 'Roedd y cyfarfod o dan gadeiryddiaeth Prifathro Ysgol Glan Clwyd, Mr. Desmond Healy. Ers blynyddoedd mae nifer o staff ymchwil yr Athrofa wedi bod yn cyd- weithio gyda gwyddonwyr yn Labordai (O'r chwith i'r dde) Yr Athro L. G. Lajtha, Cyfarwyddwr Labordy Paterson; y Dr. Alma Howard; y Dr. Michael Ebert a'r Dr. Glyn O. Phillips, Prifathro yr Athrofa Paterson yn Ysbyty'r Christie, Man- ceinion. Ar ddechrau'r flwyddyn daeth yn amser i un o brif wyddonwyr y Labordy ymddeol a teg yw nodi y ffaith yn Y GWYDDONYDD. Brodor o Glas- bury ger Y Gelli yn yr hen Sir Faesyfed yw'r Dr. J. Vernon Davies. O'r cefndir amaethyddol hwn yr aeth i Goleg Aber- ystwyth ac wedyn i Brifysgol Llundain. Ar ôl cyfnod byr mewn diwydiant treuliodd ei oes yn gwneud gwaith ymchwil yn Ysbyty'r Christie. Bu'r Dr. Davies a'r Dr. Glyn O. Phillips yn cydweithio'n agos iawn mewn agweddau arbennig o fiocemeg ac ymbelydredd. Addas felly yw i ni yn Y GWYDDONYDD yn Nodion yr Athrofa ddymuno'n dda i'r Cymro dirodres a didwyll hwn wrth i'w wraig ac yntau adael Manceinion a dychwelyd i ymddeol i'w filltir sgwâr ar y Gororau. Derbyniodd cwmni lleol Palmer Res- earch Ltd., Mostyn fuddsoddiad gwerth £ 250,000 gan Fwrdd Datblygu Cymru. Bydd y buddsoddiad yn galluogi y Cwmni i gynhyrchu o dan drwydded gyffur arbennig sy'n cael ei ddefnyddio i wella liwcimia. Datblygwyd y cyffur arbennig hwn yn Uned Ymchwil Fiocemeg yr Athrofa ac mewn ardal sydd â diweithdra mor uchel peth braf yw gweld ymchwil wyddonol yn hybu'r economi lleol yn y darn hwn o Glwyd. H.E.E. BANGOR Mewn canlyniad i drafodaeth a fu yn Llys y Coleg ym mis Rhagfyr, pender- fynodd Cyngor y Coleg sefydlu pwyllgor i ystyried a ddylai'r Coleg ddal i ehangu. Ar hyn o bryd mae tua tair mil 0 fyfyrwyr, a bu cynlluniau i chwyddo gan tua thri chant dros y ddwy neu dair blynedd nesaf. Mae cryn anghytundeb ynglyn â hyn. Myn rhai fod ehangu yn cael effaith gymdeithasol ddrwg ar yr ardaloedd cyfagos, tra bo eraill yn ystyried mae bendith ydyw oherwydd y diffyg gwaith cyffredinol yng Ngwynedd. Mae amryw yn dymuno ehangu er mwyn cael mwy o offer costus i labordai tra bo eraill yn teimlo bod ansawdd y myfyrwyr a gafwyd dros y blynyddoedd olaf wedi dirywio ac y dylid, yn hytrach, ostwng y nifer gan nad yw llawer o'r myfyrwyr presennol yn addas i addysg prifysgol. Mae'n broblem ddyrys a gobeithio y bydd yn cael ei thrafod