bod wedi clywed tri ergyd mawr a'r rymbylau, ond heb weld dim. Yr oedd yr atebion hyn yn cadarn- hau'r hyn a glywyd bore Ebrill 14, 1931. Nesaf, daeth atebion o Eifionnydd. Yn ardal Llwyngwril dywedai dynion fod drysau a oedd ar agor yn cau, y ffenestri yn rhoddi dwy ysgytwad dwbl i'w ganlyn gan rwmbwl yn yr awyr tebyg i swn trên yn mynd dros bont-yna ergyd mawr eto i ganlyn gan rwmbwl tebyg i swn trên yn mynd dros bont. Felly, dau ergyd oedd yn Eifionnydd a Llwyngwril. Yr oedd hyn yn gyson â'r peth a ddisgwyliwn. Ni welsant ddim yn yr awyr. Wedyn daeth atebion o Arfon lle yr oeddynt wedi clywed un ergyd llym iawn i'w ganlyn gan rwmbwl maith o'r lleoedd canlynol-Cricieth, Chwilog, Pwllheli, Nefyn, Pontllyfni, Caernarfon, Llanwnda, Taly- sarn, Nantlle, Llanberis, Waenfawr, Bethesda, Llanllyfni a Phenygroes. Nid oedd neb wedi gweld dim o'r lleoedd hyn. Yr oedd yr atebion hyn yn gywir ac ni ddisgwyliwn iddynt fod yn wahanol. Tua chanol Ebrill 'roedd ffermwyr Arfon, fel Ceredigion, yn brysur ar y tir. Ar fferm Coch-y-Bug sydd rhwng Penygroes a Phontllyfni lle disgynnodd y dernyn Comed dan sylw, yr oeddynt yn paratoi gogyfer a phlannu tatws, ac wedi mynd â'r drol a'i llond o dail i'w roddi mewn rhychiau. Wrth ddychwelyd â'r drol wâg â'r ceffylau, clywsant un ergyd llym iawn i'w ganlyn gan rwmbwl maith- yr hyn wnaeth ddychryn y ceffylau nes iddynt ddianc â'r drol i'r buarth. Eto clywsant lawer o ergydion llai. Arwydda hyn ei bod wedi ffrwydro, a'r ergydion llai oedd darnau o'r prif ddernyn yn mynd trwy'r awyrgylch eto yn gyflymach na thonnau swn. Arwydda yr ergyd mawr fod y prif ddernyn yn dyfod i fewn a mynd trwy'r awyrgylch laweroedd o weithiau yn gyflymach na'r tonnau swn. Nesaf, rhyw funud yn ddiweddarach, clywsant swn chwibanu uchel yn dyfod o'r gogledd i'r de. Arwydda y chwibanu fod y dernyn Comed yn teithio yn fwy araf na thonnau swn. Daeth y chwibanu yn gyntaf, sef tonnau swn i'w canlyn gan y dernyn Comed, yr hwn wnaeth daro y Ddaear gan chwalu'r pridd. Disgynnodd bedwar cam o'r lle yr oedd gwr y fferm, y diweddar John Lloyd Jones a'i fab John Aneuryn Jones, yn sefyll, ac fe suddodd droedfedd mewn daear galed. Pan dyn- nwyd ef allan o'r twll yr oedd yn gynnes ac o liw llwyd-glas. Yn yr eangderau nid oes awyr ac fe ddeil y cyrff nefol eu lliwiau cyntefig. Yr oedd olion toddi arno oherwydd poethder y gwrthdrawiad â'r awyr. Fe drodd yr ochr allanol iddo yn lliw mwy du yn ddiweddarach o ganlyniad i gyffyrddiad ag awyr (ocsideiddiad) ond bu'r ochr fewnol-lle torrodd i ffwrdd yn y ffrwydrad oddi wrth ddernyn mwy yn ei liw glas-lwyd cyntefig. Yn erbyn y cefndir glas-lwyd yr oedd ysmotiau a brychau melyn. Arwydda ysmotiau melyn mae aloion o nicel-haearn oeddynt a bod presenoldeb nicel-haearn ynddo. Pwysau'r dernyn hwn oedd 146 gram. Rhoddwyd y dernyn Comed mewn cas gwydr i gau allan awyr. Gan fod fferm arall o'r enw Bryncroes yn nes at Pontllyfni ac yn y llwybr disgyniad o'r uchelderau, euthum yno. Clywsant ergyd llym iawn i'w ganlyn gan rwmbwl maith. Ar ôl hyn bu ergydion llai. Dengys yr ergydion llai eu bod wedi ffrwydro, ond methwyd â chael amser i chwilio yn ddigon manwl am dyllau yng nghaeau'r fferm a'r ffermydd cyfagos i ddod o hyd i ddarnau eraill ac efallai mwy eu maint. Bu'r dernyn Comed gennyf am flynyddoedd mewn câs gwydr i gau allan awyr. Pan yn Llundain yn ystod yr haf 1975, rhoddwyd ef yn anrheg i Amgueddfa Brydeinig (Adran Hanes Naturiaeth) South Ken- sington, Llundain-ei Ie priodol. Trosglwyddyd ef i Dr. Claringbull, D.Sc., F.R.S., Cyfarwyddwr yr Amgueddfa Brydeinig-hefyd yn bresennol oedd Dr. M. H. Hey a Dr. Cambell Smith (Cyn- archwilwyr i'r Amgueddfa) a Dr. Robert Hutchinson a Dr. Graham. Dywedodd y Cyfar- wyddwr y bwriadent yn gyntaf, cyn ei archwilio, wneud tri neu bedwar model ohono, a byddai'n anfon un model i mi. Felly cefais fodel ohono yn ddiweddarach. Rhai misoedd yn nes ymlaen ysgrifenwyd ataf gan y Cyfarwyddwr a Dr. Robert Hutchinson i ddweud eu bod wedi anfon peth ohono i Amgueddfa Chicago, Amerig am nad oedd pethau ganddynt ym Mhrydain i'w archwilio ymhellach a hefyd i gael gweld a oedd argoelion bywyd ynddo yn yr elfennau anfetelaidd. Yn ôl Dr. Hutchinson dim ond 4 o'i debyg sydd ar gael yn y byd. Fe gynnwys y darn Comed hwn nicel, haearn, sylffur, olifin, troilit, pyrocsen ac elfennau eraill.