Golygyddol SEFYDLWYD y Ganolfan Ymchwil i Heddwch Rhyngwladol yn Stockholm ym 1966. Mae yn sefydliad cwbl annibynnol a'i bwrpas yw casglu a lledaenu ffeithiau am y farchnad arfau drwy'r byd, sy'n peryglu gymaint ar y berthynas heddychol rhwng gwledydd â'i gilydd, a rhwng gwahanol ddosbarthiadau o fewn y gwledydd. Yr anhawster oedd fod cynnyrch yr ymchwil yma yn ymddangos mewn cylchgronau arbenigol, ac fel arfer allan o gyrraedd y darllenwr cyffredin. Bellach mae holl gynnyrch 10 mlynedd o waith wedi'i gasglu (Armaments and Disarmament in the Nuclear Age, A Handbook (1977), Gol. M. Thee, Almgvist a Wiksell, Stockholm). Ers diwedd y rhyfel diwethaf nid oes yr un diwydiant wedi bod more llewyrchus na mor gynhyrchiol â chynhyrchu arfau. Ym 1975 fe wariwyd 280 biliwn o ddoleri ar arfau drwy'r byd. Gan gynnwys 1975, ers diwedd rhyfel 1939-45 gwariwyd 4,500 biliwn o ddoleri ar arfogi. Fel mae'r gwario yn Ewrop ac America wedi arafu rhyw ychydig yn ystod y bum mlynedd diwethaf, mae Tseina a gwledydd y trydydd byd wedi cyflymu eu harfogi, a gwneud y ras arfau yn ffenomen byd-eang. Y bedair gwlad sy'n arwain o hyd yw America, Rwsia, Prydain a Ffrainc. Hwy sydd yn gofalu bod digon o arfau i'w prynu gan wledydd y Dwyrain Canol, Affrica a De America. YBil I osod y gwario mewn persbectif, amcangyfrifir bod bil arfau'r byd cymaint ag (a) holl gyfoeth y 65 gwlad yn Affrica a De America; (b) yr holl wario ar addysg drwy'r byd; (c) dwy waith gymaint ag a werir ar iechyd y byd neu (ch) 15 gwaith mwy na'r cymorth swyddogol a ddosberthir i wledydd tlawd y byd. Nid y gost o gynnal byddinoedd mwy sydd yn gyfrifol am y cynnydd aruthrol yn y gwario, ond yr ymchwil ar arfau technolegol newydd a'u datblygiad. Ar ddiwedd y rhyfel ym 1945, pum gwlad yn unig oedd â'r adnoddau i gynhyrchu'r arfau diweddaraf (America, Rwsia, Prydain, Canada a Sweden). Ym 1973 mae 30 gwlad yn gweithredu'n annibynnol yn y maes yma, ac eraill yn eu cynhyrchu mewn cydweithrediad â'r prif gynhyrchwyr, gan gynnwys Ffrainc. Mae gwledydd y Trydydd Byd hefyd yn talu o'u hadnoddau prin am gynhyrchu arfau. Mae yn Israel, India a'r Ariannin ffatrïoedd i adeiladu awyrennau ymosod. Mae Brazil, India, Israel, De Affrica a Taiwan yn datblygu neu'n cynhyrchu rocedi saethu o wahanol fathau. Ym 1975 llwyddodd Israel i adeiladu awyren sy'n medru teithio'n gyflymach na swn (Kfir); y cyntaf o'r gwledydd bach i wneud hynny. Ac fel canlyniad mae'r gwledydd Arabaidd o'i hamgylch wedi dechrau ar yr un gwaith. Oherwydd y pwyslais ar arfau niwclear, mae'r cynnydd sylweddol yn lledaeniad yr arfau confensiynol newydd yn cael ei anwybyddu. Eto dyma a allai fod y fflach a ddechreuai ryfel rhwng y gwledydd niwclear. Mae'n syndod meddwl fod mwy o arian yn cael ei wario ar yr arfau hyn nag ar arfau niwclear. Rheoli'r Tywydd Datblygiad arall am trawodd i, yn fwy brawychus hyd yn oed na'r cynnydd yma, yw'r adnoddau aruthrol sydd bellach yn cael eu gwario ar arfau ecolegol ac amgylcheddol. Byddai'n fantais i fyddin pe bai modd rheoli'r tywydd, medru creu niwl, neu law neu eira fel bo'r gofyn. Gall mellten hefyd, pe gellid ei chyfeirio'n iawn, fod yn erfyn pur effeithiol. Nid oedd yr Unol Daleithiau mor llwydd- iannus ag y carent yn Fiet-Nam gyda'r dulliau hyn, ond 'roedd y cyfle i arbrofi yn dra manteisiol sddynt. Mae cymaint â 1,000 megatwn o TNT o ynni mewn corwynt, a byddai cyfeirio hwn at y gelyn yn bur effeithiol. Ar y llaw arall byddai effeithiau newid hinsawdd gwlad y gelyn dros gyfnod hir yn fwy llechwraidd, a gellid sefyll o'r neilltu i'w wylio'n dioddef heb i neb eich amau. Byddai torri twll yn yr haen amddiffynnol o amgylch y ddaear, wedyn, yn medru llosgi pobl a thir imaethyddol y gelyn yn golsyn, eto heb i neb eich drwgdybio a chodi'r perygl o wrthdrawiad.