Debygwn i AR WYDDONIAETH HEDDIW Owain Owain Y MEDDWL rhagfarnllyd, debygwn i, yw antithesis y meddwl gwyddonol. Proses hanfodol y meddwl gwyddonol yw dod i benderfyniad-penderfyniad amodol, fel arfer-ar ôl ceisio pob tystiolaeth sydd ar gael, a phwyso a mesur y dystiolaeth a geir. Ond yr elfen amlycaf ym mhroses y meddwl rhagfarnllyd yw dod i benderfyniad-diamod a dieithriad­-cyn ceisio tystiolaeth, neu cyn ystyried pa dystiolaeth bynnag sydd ar gael. Ebe'r meddwl gwyddonol: "Does dim tystiolaeth fod hwn yn bod, nac unrhyw dystiolaeth nad yw hwn ddim yn bod. Gan hynny, fy mhenderfyniad yw: mae'n bosib'. Ond ebe'r meddwl rhagfarnllyd: "Does dim tystiolaeth fod hwn yn bod. Gan hynny, fy mhenderfyniad yw: nid yw'n bod'. Neu (gan fod i bob rhagfarn ei gwrth-ragfarn): "Does dim tystiolaeth nad yw hwn ddim yn bod. Gan hynny, fy mhenderfyniad yw: mae'n bod'. Anfynych y ceir diffyg tystiolaeth mor eithafol ag a nodir yn y paragraff uchod. Fynychaf, tystiolaeth amhendant, anghyflawn, anghyson sydd ar gael, yn arwain y meddwl gwyddonol i ddatgan 'Mae'n bosib', ond yn arwain y meddwl rhagfarnllyd i ddatgan yn groyw ac yn bendant 'Mae'n bod' neu, yn ôl natur y rhagfarn, 'Nid yw'n bod'. Y ffordd wyddonol o feddwl yw'r broses feddyliol neilltuol sy'n sail i'r ddisgyblaeth o wyddoniaeth, sy'n nodweddiadol o bopeth gwyddonol, ac sy'n anhepgor ac yn waelodol yng nghyfansoddiad y gwyddonydd. O geisio diffinio termau megis 'gwyddoniaeth', 'gwyddonol' a 'gwyddonydd', fe'n gorfodir bob amser i ddiffinio, yn gyntaf, y ffordd wyddonol o feddwl. Perchennog y meddwl gwydd- onol yw gwyddonydd, cynnyrch y meddwl gwyddonol yw gwyddoniaeth, a'r hyn sy'n gydnaws â theithi'r meddwl gwyddonol-a dim arall-yw'r hyn sy'n haeddu'r ansoddair 'gwyddonol'. Ond mwyach, yn ein hiaith gyffredin ac yn ein bywyd beunyddiol, rydym wedi ysgaru ein diffin- iadau o 'gwyddoniaeth', 'gwyddonydd' a 'gwydd- onol' oddi wrth elfen anhepgor, waelodol y diffiniadau­-oddi wrth y ffordd neilltuol ac arben- nig o feddwl a wna'r diffiniadau yn benodol ac yn ystyrlawn. Bellach, 'gwyddonydd' yw'r dyn sy'n SAFBWYNT PERSONOL ymwneud â gwyddoniaeth (boed bur neu gym- hwysol), 'gwyddoniaeth' yw'r hyn sy'n ymwneud â thechnoleg (boed hynny'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol), a 'gwyddonol' yw'r hyn sy'n gydnaws â'r diffiniadau uchod o 'wyddonydd' ac o 'wyddoniaeth'. Swm a sylwedd hyn i gyd-canlyniad ysgaru'r diffiniadau oddi wrth yr elfen waelodol-yw rhoi i ni wyddonwyr sy'n rhagfarnllyd a gwyddoniaeth sy'n cynnwys rhagfarn. Ceir cymhlethdod arall Oherwydd cyfeiriad ei datblygiad yn hanesyddol-drwy hir arfer-tystiol- aeth o'r materol, neu o'r hyn a ddeillia o'r materol, yw'r unig dystiolaeth a dderbynnir gan wyddon- iaeth; ac o dderbyn y dystiolaeth, rhesymeg yw'r unig erfyn a ddefnyddir i droi tystiolaeth yn benderfyniad. Gan hynny, y mae gwyddoniaeth wedi dewis cyfyngu'i hun i draethu datganiad rhesymegol o'r hyn a rydd dystiolaeth faterol-a hynny'n unig. Ond unwaith eto, fe anghofiwyd y cyfyngu dewisol, gyda'r canlyniad y ceir gwyddonwyr, yn enw gwyddoniaeth, yn traethu barn resymegol, ar sail tystiolaeth o'r materol, mewn meysydd nad oes a wnelont â'r materol nac a lyffetheiriwyd i reolau rhesymeg. Mae effeithiau gwrthnysig i'r ddau beth hyn: (1) I'r cam-ddiffinio­-a'r rhagfarn a wneir yn bosib drwy hynny-y gellir priodoli'r cre- bachu a geir heddiw ar wir wyddoniaeth (yn gyfochrog, bid siwr, â'r chwyddiant tech- nolegol arswydus); y mae meysydd toreithiog, addas i'w trin gan wyddoniaeth, nas cynaeafir o gwbl, cryfed yw'r muriau gwarchodol a godwyd gan ragfarn. (2) I'r angof o'r cyfyngiadau dewisol y gellir priodoli ffolineb gwyddoniaeth heddiw; nid yw bob maes yn addas i wyddoniaeth, ac anaddas yw'r offer gwyddonol-materol a rhesymegol-i drin rhai meysydd. I aralleirio'r ddeubeth uchod: mae gwyddonwyr heddiw yn euog ar ddau gyfri eu pechod (diffygiol) o beidio â gwneud yr hyn a allasent ei