is-rywogaeth arall? Erbyn hyn fe wyddom fod amser yn chwarae rhan bwysig yn y newid yma. Os yw'r ddau is-rywogaeth wedi eu gwahanu am amser byr yn unig, y tebygrwydd yw y byddai rhyngfridio yn dal i ddigwydd. Wedi amser hir, fodd bynnag, fe fyddai mwtantiad wedi achosi newid o fewn genynnau'r unigolion i wneud rhyng- fridio yn amhosibl, neu o leiaf i achosi ffurfio epil gwan. Fel canlyniad fe fyddai Detholiad Naturiol yn gwneud yr agendor rhyngddynt yn fwy gan achosi ffurfio dwy rywogaeth ar wahân yn y pen draw. Credaf hyn fod yn amlwg yn yr enghreifftiau a ganlyn. Edrychwn ar yr adar pryfysol yn y cyswllt yma. Ar yr ynys fwyaf deheuol mae aderyn tywyll â phig byr ganddo, ar ynys i'r gogledd-orllewin ceir aderyn sydd ychydig yn fwy ond yn weddol dywyll ei liw, ac yn yr ynysoedd canol fe gawn aderyn llawer goleuach ei liw, yn fwy o ran maint achefyd yn meddu ar big mwy. Tebyg iawn i big parot. Mae'n amlwg i'r tri math ddod o'r un stoc gwreiddiol ac ni fyddai y gwahaniaeth rhyngddynt yn ddigon i'w gosod mewn rhywogaethau gwahanol oni bai am y ffaith bwysig fod y lleiaf a'r mwyaf yn cyd-fyw ar yr ynys ddeheuol heb ryngfridio. Dyma enghraifft dda o sylfaenu rhywogaeth newydd. Os yw'r rhywogaethau i barhau ar wahân rhaid (a) osgoi rhyngfridio. Gwelir fel rheol i ym- ddangosiad a chanu adar rwystro hyn. Yn yr adar arbennig yma ymddengys i ffurf y pig fod yn holl bwysig, mae'n amlwg mae ffurf y pig yw'r prif atyniad rhwng y gwryw a'r benyw o fewn un rhywogaeth. (b) osgoi cystadleuaeth rhwng y gwahanol rywog- aethau am fwyd. Heb os mae'r adar yma yn dangos effeithiolrwydd mawr i'r cyfeiriad CHWYDDIANT YN CHWYDDO'R PRIS O'r diwedd, ar ôl 14 mlynedd, bu'n rhaid codi pris Y GWYDDONYDD. Eto bydd Gwasg Prifysgol Cymru yn rhoi cynhaliaeth sylweddol iddo, ond oherwydd y chwyddiant aruthrol diweddar ym mhrisiau cyhoeddi, mae'n rhaid gofyn i'n darllenwyr ffyddlon gyfrannu tipyn yn rhagor tuag at y gost o'i gynhyrchu. Mae'n eithriadol rad o hyd. Tybed a allwn apelio yma at ysgolion yn arbennig i brynu'r cylchgrawn, a gwneud defnydd ohono nid yn unig mewn gwersi gwyddonol ond hefyd pan fo angen defnydd i'w gyfieithu, i'w ddarllen ac yn wir fel llenyddiaeth yn gyffredinol. Byddai cefnogaeth cyffredinol ysgolion Cymru yn galondid mawr i Fwrdd y Wasg sydd wedi bod mor hael a chyson ei gefnogaeth i'r fenter dros bymtheng mlynedd bellach.— Gol. yma. Dyma heb unrhyw amheuaeth yw cyfrinach eu llwyddiant. A'r holl dystiolaeth yma wrth law, pwy all wadu'r ffaith fod newid yn rheol bywyd, newid sydd yn ganlyniad i dri math o arunigedd (isolation). (a) Arunigedd daearyddol lie y gwahenir dwy boblogaeth gan ffactorau ffisegol fel mynydd- oedd a moroedd. (b) Arunigedd ecolegol yn dibynnu ar wahan- iaethau yn nulliau byw, e.e. bwydo, nythu, etc. (c) Arunigedd geneteg fel canlyniad i fwtantiad. Nid oes bellach sail i'r gred fod bywyd yn statig ac ni ellir mwyach gysidro unrhyw rywogaeth yn garreg filltir statig yn y broses o Esblygiad. Yng ngeiriau Darwin ei hun: 'On the principle of multiplication and gradual divergence in character of the species from a common parent, together with their retention by inheritance of some characters in common, we can understand the excessively complex and radiating affinities by which all the members of the same family or higher group are connected together.' Dyma hanfod y Theori o Esblygiad. LLYFRYDDIAETH Darwin's Einch?s, David Lack. Scisntiíìc Am;rican, 1953. The Origin of Species, Charles Darwin. Mentor Books 1958. Darwins Finches, David Lack. Harper Torchbooks, 1961. Adaptation, Wallace and Son. Foundations of Modern Biology, 1961. EYolution, Gavin de Beer. British Museum (Natural History), 1970. Genetic Diiersitr and Natural Selsction, Murray. Oliver and Boyd, 1972. The Atlas of Worìd Wild Life. Time-Life Books, 1974.