Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

I Ysgolion Hyd yma o dan olygyddiaeth Melfyn Williams rydym wedi canolbwyntio ar Nodiadau Bioleg i ysgolion. Deallwn gyda phleser fod cemeg hefyd bellach yn bwnc sydd yn cael ei ddysgu drwy'r Gymraeg mewn rhai ysgolion. Yr anhawster pennaf yw cael defnydd addas y gellir ei ddefnyddio yn y dosbarth. I helpu yn hyn o beth fe fyddwn yn cyhoeddi Nodiadau Cemeg. Bydd yr adran yma o dan ofal Gareth R. Williams, athro Cemeg yn Ysgol Morgan Llwyd, Wrecsam. Mae Mr. Williams wedi paratoi eisoes at arholiad y lefel 'A' mewn cemeg drwy'r Gymraeg a bydd ffrwyth ei lafur ef bellach at wasanaeth cynulleidfa ehangach. Mae'r nodiadau cyntaf hyn yn addas at waith dechreuol mewn cemeg yn y flwyddyn gyntaf mewn ysgol uwchradd. Mae wedi ei seilio ar egwyddorion cwrs cemeg Nuffield, a gellir defnyddio eu lwpiau ffilm yn gyfatebol â'r gwaith yma. Mae'r nodiadau y tro yma yn cynnwys ychydig o RHAN I-Y LLOSGWR BUNSEN Dyfeisiwyd y llosgwr yma gan Almaenwr o'r enw Bunsen yn y ganrif ddiwethaf. Defnyddir y llosgwr bunsen i gynhesu pethau yn y labordy. waith syml iawn ar y L/osgwr Bunsen — er mwyn cyflwyno'r pwnc a hefyd ymarfer y plentyn i edrych, sylweddoli a rhesymu adroddiad o'r hyn a welodd. Ar ôl hyn, cyflwynir y testun Cael syl- weddau pur o'r byd o'n cwmpas, a diben y gyfres yma o arbrofion yw i (i) wahaniaethu rhwng sylweddau pur a chym- ysgedd; (ii) gyfarfod ac ymdrin â dulliau ffisegol o rannu sylweddau; (iii) bontio'r agendor rhwng y labordy a diwyd- iant (gyda chymorth lwpiau a ffilmiau addas). Mae'r drydedd ran yn ymdrin yn helaeth ag Effaith cynhesu sylweddau, gan sylwi'n arbennig ar newid mas a lliw a'r nwyau a gynhyrchir yn y broses. Mae'r rhan olaf yn arwain y plentyn, trwy arbrofion a fformwlâu, i Ddarganfod mwy am aer. GOL. CEMEG Arbrawf i weld pa fflam sydd boethaf. Offer: Llosgwr bunsen a sgwâr asbestos, stand drithroed, rhwyllen, bicer, oriawr-atal. Sylwedd: Dwr. Dull: (1) Rhoi 100 cm3 o ddwr mewn bicer a'i osod ar y stand drithroed.