Y Prifathro Elfyn Richards yn sgwrsio ag Aneurin Evans A.E. Cawsoch eich addysg eilradd yn Ysgol Ramadeg Y Barri, sydd wedi magu rhai o Gymry amlycaf y ganrif hon. Beth yn eich barn chwi oedd yn gyfrifol am safon uchelradd yr ysgol ? E.R. Credaf mai dylanwad y prifathro, Major Edgar Jones, ar y staff oedd y ffactor mwyaf. Yn y dosbarth 'roeddym yn teimlo fod yr athrawon yn benderfynol o roi addysg eithriadol o dda i ni; ni chaf fi fyth gwell hyfforddiant nag a gefais gan yr athrawon mathemateg yno. Teimlaf nad yw'r un ysbrydoliaeth i'w chael mewn ysgolion modern. Wedi ymadael, 'rwyf wedi ymweld â'r ysgol unwaith, ond mae wedi newid cymaint; ni chefais fwynhad o'r profiad o gwbl. Efallai na ddylech chwi fynd yn ôl i'r gorffennol. A.E. Wrth gwrs, un o'ch cyd-ddisgyblion yn yr ysgol oedd Gwynfor Evans; oedd yna unrhyw arwydd y pryd hynny o'i yrfa wleidyddol? E.R. Nac oedd yn wir! 'Roeddym yn byw yn yr un stryd yn Y Barri ac 'roedd ei frawd ieuangaf a minnau yn cael reid ar lori ei dad yn aml. 'Roedd hyn yn bleser arbennig wrth gwrs-nid oedd llawer o lorïau i'w cael yn y dyddiau hynny. Bachgen tawel oedd Gwynfor, ac yn ysgolor da. 'Roeddem i gyd yn disgwyl ei weld, fel cymaint o fyfyrwyr y gyfraith y pryd hynny, yn troi'n fargyfreithiwr wedi iddo raddio. Mae'n anodd iawn dweud beth yn union a drodd Gwynfor tua Chymru. Gwn beth a'm trodd i at Loegr­-rhaid oedd i'r gwyddonydd adael Cymru y pryd hynny, ond 'roedd hyn yn wir am y cyfreithiwr hefyd; efallai ei fod ynddo yn barod, ond 'rwy'n sicr y byddai 'nhad yn fwy balch ohono fo nag y byddai ohonof fi pe byddai'n fyw heddiw. A.E. A oedd gennych awydd am yrfa academ- aidd y pryd hynny? E.R. Na-nid oeddwn yn uchelgeisiol o gwbl, ond yn Ne Cymru y pryd hwnnw 'roedd digon i atgoffa unrhywun beth oedd canlyniad diffyg cyflawnhad. 'Rwy'n cofio mynd i lawr i'r dociau ac yn gweld torf o bobl yno. Tybiais mai arddangosiad o ryw fath ydoedd, ond ciw dôl oedd yno ac yr oedd yn amlwg o'r dechrau eich bod un ai'n astudio'n galed ac yn llwyddo neu'n ymuno â'r ciw. A.L Aethoch i Goleg y Brifysgol o'r Barri; oedd yna gysylltiad traddodiadol rhwng yr ysgol â Choleg Aberystwyth ? F.R. Bu Edgar Jones a 'nhad (un o'm athrawon yn Ysgol Y Barri, gyda llaw) yn Aberystwyth. 'Rwy'n sicr eu bod yno ond ryw bymtheng mlynedd wedi'r dechrau. 'Roedd yna deimlad arbennig eich bod yn perthyn i'r Ue yr adeg hynny nad yw i'w gael yn y prifysgolion y dyddiau yma. A.E. Ac o Aberystwyth i Gaergrawnt? E.R. Ie. Cefais radd mewn mathemateg yn Aberystwyth, ac 'roeddwn wedi ennill ysgoloriaeth i Gaergrawnt cyn hynny. Es i Goleg Sant Ioan i wneud 'Associate Degree' ac astudiais fathemateg yno ar y lefel uchaf. Mae'n ddiddorol fod gallu'r bobl yno'n ffantastig-ymhell tu hwnt i 'ddynol ryw' Aberystwyth. Ond 'does dim amheuaeth wrth edrych yn ôl. Rhoddaf 10/10 i Aberystwyth a 5/10 i Gaergrawnt, am ddatblygiad personoliaeth beth bynnag.