Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Felly disgwylir system o blanedau rhywbeth fel hyn felly bydd y tymheredd yn uwch, bydd effaith llanw arno yn ceisio ei chwalu, a hefyd bydd gwynt yr haul (solar wind-gwynt sydd yn chwythu o'r haul yn barhaol; profwyd ei fodolaeth pan ehedodd lloerennau ond damcanwyd ei fodolaeth cyn hyn i egluro cynffonnau comedau). Cyfanswm y tair effaith yma yw y bydd y cyddwysiad yn cael ei chwalu gan adael ar ôl y canol yn unig. Bydd mas y canol yma tua chan gwaith yn llai na mas y cyddwysiad, hynny yw tua'r un mas â'r planedau daearol. Sylwer hefyd y bydd y cyfansoddiad cemegol yr un fath ag un y planedau daearol gan mai silicon, haearn, carbon ac ocsigen yw'r prif elfennau sydd yn y gronynnau. Yn y ffordd yma gellir egluro cyfansoddiad a mas y planedau yn ôl damcaniaeth Woolfson. Mae'n ymddangos felly bod y ddamcaniaeth yma yn gallu egluro y rhan fwyaf o brif briodoleddau'r system o blanedau a phe na byddai damcaniaethau eraill mewn bodolaeth, mae'n siwr y byddai'r ddamcaniaeth yma yn cael ei derbyn gan bawb. Ond mae damcaniaethau eraill yn bod, rhai sydd yn dechrau o sefyllfa wahanol i Woolfson ond sydd er hynny yn llwyddo i egluro yr un nifer o elfennau'r system o blanedau. Wrth farnu cydrhwng gwahanol ddamcaniaethau rhaid felly fydd penderfynu pa un sydd â'r sefyllfa ddechreuol fwyaf naturiol a pha un sydd â'r nifer lleiaf 0 honiadau na ellir eu profi. Cyn y gallwn wneud hyn, wrth gwrs, rhaid disgrifio'r damcaniaethau eraill hyn a gwnawn hyn yn yr erthyglau sydd i ganlyn. Felly, gadawn ddamcaniaeth y llanw yma gan nodi fod un ddamcaniaeth, damcaniaeth Woolfson, yn ymddangos ei bod yn gallu egluro y rhan fwyaf o briodoleddau'r system o blanedau. GWASG PRIFYSGOL CYMRU CHWILOTA (Llythyren A-C) gan D. GWYN JONES Tt. 156 Pris £ 2.75 sef encyclopedia Cymraeg i blant (ond a fydd o ddiddordeb hefyd i oedolion). Dyma'r tro cyntaf i lyfr o'r fath gael ei gyhoeddi yn Gymraeg a cheir ynddo nifer helaeth o luniau a mapiau lliwgar. Bwriedir cyhoeddi chwe chyfrol i gyd. MERTHYR HOUSE, JAMES STREET, CAERDYDD