Y Creu II I. P. WILLIAMS Damcaniaeth y Llanw YN y math cyntaf o ddamcaniaethau fe grëir y planedau ar ôl i'r haul ddatblygu yn seren normal allan o fater a gafwyd un ai allan o'r haul ei hun ynteu allan o seren gyfagos. Yn gyffredinol fe elwir y math yma o ddamcaniaeth yn Ddamcaniaeth y Llanw a gwnaed hwy yn enwog gan waith Syr James Jeans a Syr Harold Jeffreys. Buffon oedd y cyntaf i gyhoeddi damcaniaeth o'r math yma yn 1745. Credai ef fod comed wedi taro'r haul drwy ddamwain pan oedd yn symud drwy y gwagle. Effaith y ddamwain yma oedd bod mater wedi cael ei dallu allan o'r haul fel rhuban hir. Datblygodd y planedau allan o'r rhuban drwy iddo dorri yn dameidiau ag yna gyddwyso. Wrth gwrs, erbyn hyn fe wyddom wir natur comed a bod ei mas tua mil gwaith yn llai nag asteroid sydd yn fìl gwaith yn llai na'r lleuad ag felly gwyddom pa mor anhygoel oedd syniad Buffon. Er hyn mae rhywbeth digon atyniadol yn namcaniaeth Buffon a felly cyn hir bu newid ychydig ar y ddamcaniaeth gan gysidro damwain rhwng seren arall a'r haul yn lIe damwain rhwng yr haul a chomed. Daeth yr enw Damcaniaeth y Llanw i fodolaeth pan ddangosodd Jeans nad oedd yn rhaid i'r seren arall daro'r haul i achosi i fater gael ei dallu allan. Profodd y gallai y llanw a godid ar yr haul gan rym disgyrchiant y seren arall fod mor uchel nes y caed rhuban o fater yn torri'n rhydd o'r haul ac yn cael ei dynnu beth ffordd tuag at y seren. Fel y symudai'r seren ar draws y nenfwd, byddai y rhuban hwn yn cael ei dynnu o amgylch ac yn y ffordd yma roedd y rhuban yn cael y momentwm onglog sydd yn y planedau heddiw. Astudiodd Jeans a Jeffreys y rhuban yn fanwl gan geisio penderfynu sut siâp fyddai arno. Daethant i'r casgliad mae siâp fel sigâr fyddai ganddo, hynny yw, byddai yn denau yn ei ddau ben ac yn dewach yn y canol. Penderfynasant bod hwn yn siâp ffafriol iawn os mai'r amcan oedd ffurfio planedau, gan fod y planedau sydd yng nghanol y system yn wir yn uwch eu mas na'r planedau eraill. Edrychodd y ddau wyddonydd yn fanwl ar y broblem o ffurfio'r planedau allan o'r rhuban. Drwy ddefnyddio mathemateg pur gymhleth dangoswyd y byddai'r rhuban yn torri i fyny yn ddarnau o'r un hyd, a gelwir yr hyd yma yn hyd Jeans hyd heddiw. Darganfyddwyd bod hyd y rhuban tuag wyth gwaith hyd Jeans ac felly byddai yn rhesymol i ddisgwyl cael tuag wyth planed yn ffurfio allan o'r rhuban. Hyd yma, edrycha'r ddamcaniaeth yn foddhaol iawn. Mae'n gallu egluro rhif y planedau, pam eu bod i gyd yn symud yn yr un plan, ac o ble y daeth y momentwm onglog. Pan gyhoeddwyd y ddamcaniaeth yma, 'doedd gwyddonwyr yn gwybod dim am wahanol gyfan- soddiad y gwahanol blanedau ac felly 'doedd hyn ddim yn broblem fel y mae heddiw. Er mor atyniadol oedd y ddamcaniaeth yma, ni fu rhaid aros yn hir cyn bod rhai gwyddonwyr yn ei gwrthod. 'Roedd tri gwrthwynebiad pwysig ganddynt. Yn gyntaf dadleuodd Nolke os oedd yn bosibl i ddisgyrchiant seren arall dynnu mater allan o'r haul yna 'roedd hefyd yn hollol bosibl i ddisgyrchiant yr haul ei hun chwalu'r rhuban drwy godi llanw ynddo. Ar y cychwyn byddai'r effaith yma yn gryf iawn ar y rhuban gan ei fod yn agos iawn at yr haul ar y pryd hwn. Dangosodd Nolke y byddai yn rhaid i'r rhuban fod tua'r un mas â'r haul os oedd i wrthsefyll llanw'r haul. Golyga hyn, wrth gwrs, fod mas y rhuban ac felly, yn y diwedd, fas y planedau tua chan gwaith yn fwy nag a ddylai fod. Yn ail, dangosodd Russell nad oedd yn bosibl rhoi mater ar orbit fel sydd gan y planedau drwy effaith llanw disgyrchiant yn unig. Ar yr un pryd â rhoi momentwm onglog i'r mater rhoir hefyd