Skip to main content

Elfennau Rhifyddiaeth Tamaid Anorffenedig YN ystod y cyfnod 1831-32, ymddangosodd tri rhifyn o werslyfr mathemateg Cymraeg, Elfennau Rhifyddiaeth gan John William Thomas (Arfon- wyson). Mae'n ymddangos erbyn hyn nad oes ond un copi cyfan ohono ar gael, yn Llyfrgell Salesbury yng Nghaerdydd*. Mae'r ymdriniaeth yn anhygoel bron, ac ystyried y cyfnod, ac mae'n werth dod â'r llyfr a'i gynnwys unwaith eto i'r golwg. Cyn trafod y llyfr, beth bynnag, mae'n werth rhoi rhywfaint o sylw i fywyd yr awdur.1 Ganwyd John William Thomas yn yr Allt Isaf, Pentir, ger Bangor yn 1805. Yr oedd ei deulu yn dlawd, ond cafodd y bachgen ychydig o addysg rhwng saith a deg oed mewn ysgol leol. Ar ôl hyn, yr oedd yn rhaid iddo fynd allan i weithio gan weini ar ffermydd a gweithio yn y chwareli. Treuliodd ei oriau hamdden, a'r amser a dreuliai yn cerdded yn ôl ac ymlaen at ei waith, yn gweithio problemau rhifyddol ar lechi. Yn ddwy ar bymtheg oed, daeth yn bacmon dros lyfrwerthwr o Fiw- maris, Joseph Jones. Er bod y cyflog yn isel, yr oedd yn gallu mynd ymlaen gyda'i addysg trwy ddarllen y llyfrau. Ar ôl blwyddyn, aeth i Gaergybi i ysgol Robert Roberts yr Almanaciwr, ac ar ôl tri mis teimlodd ei fod wedi dysgu'r cwbl a oedd ar gael yno. Agorodd ysgol yn Nhregarth, a dechreu- odd ysgrifennu Elfennau Rhifyddiaeth. Yn 1828, cafodd swydd prifathro yn ysgol Pen yr Allt Goch yn Ffestiniog,2 ond collodd y swydd yn fuan oherwydd rhywbeth a ysgrifenasai yn erbyn rhyw glerigwr. Dychwelodd i Fangor, agorodd ysgol, a bu am gyfnod3 yn golygu'r misolyn Tywysog Cymrit. Yn ystod y cyfnod yma, cyhoeddodd Elfennau Rhifyddiaeth, Geiriadur Cymraeg, ac Athraw i'r Cymro Ieuanc. Mae'n ymddangos nad oedd yn llwyddo'n ariannol a bu'n rhaid iddo ef a'i deulu fynd i fyw gyda'i rieni. Yn 1834, fel llawer iawn o Gymry eraill, aeth i Lundain. Penodwyd ef yn ysgrifennydd i William Cobbett, er fod ei Saesneg llafar, yn ôl pob tystiolaeth, yn glogyrnaidd iawn. Bu farw Cobbett mewn dyled, a bu Arfonwyson unwaith eto ar y clwt, gan orfod byw ar drugaredd ei ffrindiau o Gymru. *Erbyn hyn daeth un copi arall heb gloriau i feddiant Coleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor. Ll. G. CHAMBERS Yr oedd wedi bod, ers blynyddoedd, â diddordcb mewn Seryddiaeth (o bosibl oherwydd ei gysylltiad â Robert Roberts), ac ysgrifennodd lythyr, sydd ar goll ers dros ganrif, i gyfaill yn ymwneud â chomed Halley. Trwy Griffith Davies,4 a oedd fel ef yn hannu o dyddyn yn Arfon ond oedd erbyn hyn yn arifydd cwmni yswiriant y Guardian, dangoswyd y llythyr i Airy, y Seryddwr Brenhinol, a rhoddodd hwnnw waith iddo yn Greenwich. Er ei fod wedi ei ddisgrifio ei hun ar ei Almanacau fel 'Arolygydd yn Arsyllfa Greenwich', ni fu erioed ar staff yr Arsyllfa5, ac mae'n ymddangos fod Airy yn ei gyflogi'n breifat.6 Ni bu'n hapus yno, gan fod ei gydweithwyr yn gwneud sbort o'i acen Gymraeg, ond yn ystod y pedair blynedd y bu yno, cyhoedd- odd almanacau a oedd yn eithriadol gan fod eu hawdur wedi gwrthod gwneud y daroganau arferol (mynnodd y cyhoeddwyr gael rhai gan rywun arall !). Hefyd cyhoeddodd werslyfr ysgrythurol, Trysorfa'r Athrawon, a,than y ffug enw Arfonwyson, dadleuodd lawer yn y wasg ar orgraff a gramadeg yr iaith Gymraeg. Bu farw o'r dicáu yn bymtheg ar hugain oed ar 12 Mawrth, 1840, ac fe'i claddwyd mewn bedd anhysbys ym Mynwent St. Alphege yn Greenwich. (Mae hysbysiad ei farwolaeth yn y Caernarvon and Denbigh Herald yn cyfeirio ato fel 'Student at Greenwich Observatory'.) Symudwn yn awr o'r awdur i'w lyfr. Bu tri rhifyn, wedi eu dyddio 1831, a 1832, 0 28 tudalen 8vo yr un. Yr argraffydd oedd William Evans o Gaerfyrddin a dywedir bod y gwaith wedi ei gofrestru yn Stationers Hall (yn rhyfedd, nid oes copi ar gael yn yr un o'r llyfrgelloedd hawlfraint). Pris y gwaith oedd chwe cheiniog y rhifyn. Y mae'r wyneb dudalen o'r unig gopi gyda'r datganiad (mewn Saesneg am ryw reswm!): 'The whole of the work which appeared through the press is composed of three Parts of Eighty-Four pages in all, and is but a fragment of the intended publication'. Ar glawr y rhifyn cyntaf, mae Arfonwyson yn gosod allan gynnwys ei waith. Heblaw'r testunau