Mapiwyd hefyd y cymylau o hydrogen atomig a geir y tu fewn ac o gwmpas bob galaeth trwy sylwi ar y tonnau radio o donfedd 21 y maent yn ei belydru. Yn ogystal, canfuwyd y cymylau o ddwst cosmig oherwydd iddynt fwrw cysgod ar y goleuni a ddaw drwyddynt. Soniwyd yn yr erthygl flaenorol, 'Dilyniant y Sêr', fod cynnwys galaeth yn sustem ynysig lle mae sêr yn cael eu geni o'r cymylau hydrogen a'r dwst cosmig. Yna datblygant trwy'r Prif Ddilyniant a'r Cewri Coch nes iddynt farw'n ddistaw fel Corachod Gwyn neu ffrwydro i greu supernova gyda Pulsar yn ei chanol. Ail adroddir hyn dro ar ôl tro fel bo cynnwys yr elfennau trymach a grëir yng nghrombil y sêr yn cynyddu'n raddol. Medrir adnabod Galaeth oedrannus fel petai oherwydd fod y goleuni a ddaw oddi wrthi yn cynnwys llofnodau neu spectra arbennig yr elfennau trymion. Mae rhai galaethau yn nodweddiadol oherwydd maent yn pelydru tonfeddi radio yn gryf dros ben. Nid oes dealltwriaeth cyflawn o bell ffordd o'r gal- aethau radio; cawn weld yn nesymlaenbwysigrwydd mawr y dosbarth yma o alaethau. Hefyd dywedir gair am gyrff eraill, rhai dirgel dros ben, a elwir yn Quasars, cyn diwedd yr erthygl. Tywyll heno Mor gyfarwydd yw'r profiad o nosi fel na feddyliwn amdano o gwbl. I bob golwg mae'r galaethau yn ymestyn i bob cyfeiriad ac os tybiwn fod y bydysawd yn statig ac yn ddi-derfyn mae'n hawdd dangos y dylai anfeidredd o oleuni ein cyrraedd ar y ddaear. Ni ddylai nosi ac yn wir dylai'r ddaear fod wedi ei llosgi'n golsyn ers talwm! Dyma'r paradocs enwog a ddarganfu Olbers dros ddwy ganrif yn ôl. Yn fathemategol, rhaid ystyried plisgyn o drwch dr gyda radius r o gwmpas y sylwedydd. Ceir 47rr2drn o alaethau yn y plisgyn os cymerir yn ganiataol fod yna n galaeth ym mhob uned o gyfaint yn y bydysawd. Os L ydyw cyfraniad disgleirdeb absoliwt pob galaeth yna 47rr2drnL ydyw cyfraniad absoliwt y plisgyn cyfan ac o ganlyniad 47rr2drnL=47rdrnL ydyw ei gyfraniad r2 i'r disgleirdeb cymharol a welir gan y sylwedydd. Sylwir nad yw'r cyfraniad yma yn dibynnu ar bellter y plisgyn ac felly mae bob plisgyn yn cyfrannu'n gyfartal i'r disgleirdeb cymharol. Os oes nifer diderfyn ohonynt ceir disgleirdeb anfeidraidd. Hyd yn oed os cymerwn gyfraniadau'r plisgy ı hyd at derfyn y galaethau pellaf y gwyddoi 1 amdanynt (yn lle cyfri'n ddi-derfyn) ceir llawe gormod o ddisgleirdeb iddi nosi o gwbl. Datryswyd y paradocs hwn pan ddarganf Slipher ym 1917 giliad y galaethau ac y dangosodd Hubble ym 1929 fod cyflymder y ciliad (V) mewn cyfrannedd â phellter y galaeth oddi wrthom, h.y. V=Hr lle y gelwir y cysonyn H yn gysonyn Hubble. Sefydlwyd y ddeddf yma a mesurwyd y cysonyn H, trwy ddefnyddio effaith Doppler i fesur cyflymder y galaethau (symudir tonfeddi eu spectra i'r coch gan y ciliad) a rhai o'r sêr cepheid ynddynt i fesur pellter. Erbyn heddiw defnyddir rhai galaethau mewn clystyrau sydd yn weddol gyson eu disgleirdeb absoliwt ac felly yn ganwyllau safonol penigamp, i ymestyn y mesuriadau ym- hellach drwy'r bydysawd. Oherwydd y ciliad yma mae amledd (f) ac felly egni (e) bob cwantwm o oleuni (e=hf) a ddaw o'r galaethau yn lleihau fel bo eu pellter yn cynyddu oddi wrthom ac ni cheir cyfraniad anfeidraidd i'r goleuni o'r bydysawd ar ein daear. Y Glec Fawr neu'r Bydysawd Cyson? Mae'r bydysawd felly yn ymledu ac un dehongliad o'r sylwadaeth yma yw i'r bydysawd gychwyn o 'Glec Fawr' tua 2.0 x 1010 o flynyddoedd yn ôl. Amcangyfrifir hyn trwy wrthdroi cysonyn Hubble; fe welwch fod gan 1 yr un dimensiwn ag H amser. Tybir mai hydrogen oedd prif gynnwys y Glec a bod y galaethau wedi cywasgu ohono ar ôl y ffrwydrad. Y galaethau pellaf a'r cyflymaf yw'r darnau hynny o'r glec fawr a gychwynodd o'r ffrwydrad gyda'r cyflymder mwyaf ac felly wedi trafaelio bellaf yn ystod oes y bydysawd. Damcaniaeth arall yw'r Bydysawd Cyson IIe honnir nad oes iddo ddechreuad na diwedd a bod mater yn cael ei greu yn gyson i gadw ei ddwysedd yr un fath er fod y bydysawd yn ymledu. Gan nad oes rhaid ond creu un atom mewn adeilad o faint neuadd dinas Caerdydd unwaith pob canrif mae canfod y creu hwn yn uniongyrchol yn y labordy yn dasg anodd os nad yn amhosibl. Llawer haws yw ceisio profi prif honiadau'r Bydysawd Cyson. h.y. fod rhif-ddwysedd a disgleirdeb y galaethau yn gyson bob epoc o'r Bydysawd. Fel y gwelwn isod mae tystiolaeth yr arbrofion yn tueddu'n gryf yn erbyn damcaniaeth y Bydysawc Cyson.