Ffìseg Heddiw VIII. Awdl y Bydysawd UN o benodau mwyaf rhyfeddol ein gwareiddiad yw ymgais dyn i fapio'r bydysawd, ac i olrhain ei orffennol a phroffwydo ei ddyfodol. Yma cawn y meidrol yn canfod yr anfeidrol ac un adlewyrchiad o fawredd gwareiddiad yw ei syniad o safle dyn yn y greadigaeth. Er i'r Swmariaid, y Babyloniaid, yr Assyriaid a'r Eifftiaid wneud cyfraniadau mawr, â ein syniadau modern o'r cosmos a'r modd o'i archwilio yn ôl i wareiddiad Groeg. Chwe chanrif cyn Crist 'roedd Thales o Miletus wedi deall bod y ddaear yn gron ac y goleuid y lleuad gan yr haul. Yn wir proffwyd- odd eclips ar yr haul yn 586 c.c. Yna'r drydedd ganrif cyn Crist cymharodd Aristarchus o Samos y pellter o'r ddaear i'r lleuad ac o'r ddaear i'r haul trwy ddefnyddio syniadau geometreg. Sylwedd- olodd bod y ddaear a rhai o'r planedau yn cylch- droi'r haul a bod y sêr eraill bellter maith i ffwrdd. Felly canfu'r gwr rhyfeddol hwn, a oedd ganrifoedd cyn ei amser deyrnas yr haul. Rhai blynyddoedd wedi ei farw, mesurodd Eratosthenes amgylchedd y ddaear a'i ddiamedr a bu Hipparchus tua 150 c.c. yn ddiwyd yn gwneud map o'r sêr na ragorwyd arno hyd yr unfed ganrif ar bymtheg. Ond aeth syniadau a dulliau Groeg yn angof tan y dadeni yn y bymthegfed ganrif. Ail gyhoeddodd Copernicus ddysgeidiaeth Aristarchus fod y plan- edau yn cylchdroi'r haul, darganfu Kepler reolau empirig eu mudiant ac yn fwy pwysig fyth darganfu Galileo y telescob. Ac i goroni'r cyfan sylweddolodd Newton fod ei ddeddfau mudiant a'i ddealltwriaeth o'r grym disgyrchiant yn gyffredinol i fudiant corff yn disgyn i'r ddaear yn ogystal â mudiant y planedau o gwmpas yr haul. Map a chynnwys y bydysawd Cyn y medrwn drafod ein dealltwriaeth cyfoes o'r bydysawd rhaid yn gyntaf ddisgrifio ei gynnwys a'r dulliau a ddefnyddiwyd i'w fapio. Ni ellir defnyddio'r dull cyfarwydd o driongleiddio ond i benderfynu pellter y planedau a'r haul y maent yn ei gylchdroi a rhai sêr cyfagos yn unig. Yn wir ni 'wyddwyd i fesur pellter rhai o'r sêr cyfagos hyd oed, tan 1838 pan wnaeth Bessel hynny yn TEGID WYN JONES Konigsberg. Defnyddiodd ddiamedr orbid y ddaear o gwmpas yr haul fel ei linell bâs a sylwodd ar y gwahaniaeth bychan yn ongl godi'r seren fel yr â'r ddaear o un pen i'r orbid i'r llall mewn hanner blwyddyn. Yn ffodus iawn, sylwodd Miss H. Leavit o Harvard yn 1911, fod goleuni rhai o'r sêr cyfagos ac felly o bellter gwybyddus yn dirgrynu a darganfu ymhellach fod amledd y dirgryniant yn gymesur â disgleirdeb absoliwt y seren. Dyma sêr enwog y Cepheid-sêr sydd wedi datblygu mor bell fel nad ydynt yn gwbl sefydlog o dan ddylanwad atdyniad disgyrchiant a'r gwrthdyniad sy'n deillio o wres yr adweithiau nuclear yn eu crombil. Yn y stad yma o'u datblygiad maent yn llosgi nuclei trymach na'r ddau danwydd cyntaf sef hydrogen a helium, ac mae eu ansefydlogrwydd yn peri dirgryniant yn eu parthau allanol. Felly os gwelir y goleuni o seren bell, sydd â spectrum tebyg i'r cepheidau cyfagos yn dirgrynu, yna medrwn gymeryd yn ganiataol mai cepheid ydyw ac mae ei disgleirdeb absoliwt yn wybyddus. Mesurir ei disgleirdeb cymharol mewn telescob ar ddaear a gellir yn hawdd benderfynu ei phellter o gofio fod disgleirdeb cymharol yn hafal i'r disgleirdeb absoliwt dros sgwâr y pellter. Ehangodd y darganfyddiad yma orwelion y bydysawd o gyfundrefn yr haul a'i phlanedau a'r sêr cyfagos i'r galaeth o sêr yr ydym yn rhan ohoni. Mapiodd Shapley fraslun o freichiau spiral ein galaeth ac yn eu tro canfuwyd y galaethau eraill sydd bellterau enfawr i ffwrdd. Sylwyd hefyd fod yn aml glystyrau crynion o sêr y tu allan i gorff galaeth ac weithiau mae'r galaethau eu hunain yn clystyru gyda'i gilydd. Pwyswyd llawer o'r galaethau trwy sylwi gyda telescob ar fudiant rhai o'r sêr ynddynt. Dewisir sêr sydd â spectrwm arferol eu golwg fel y gellir amcanu eu pwysau. Oherwydd eu bod yn symud o dan ddylanwad disgyrchiant ac felly pwysau'r galaeth mae'n bosib amcanu faint o fater ac o sêr sydd ynddi. Yn aml ceir 1011 o sêr mewn galaeth unigol.