iodd am y ffurf a fabwysiadwyd. Atebodd Fairbairn bod y ffurf wedi'i phenderfynu cyn iddo ofyn am gymorth Hodgkinson. Aeth dadlau plentynnaidd fel hyn ymlaen, a'r diwedd fu i Fairbairn ym- ddiswyddo. Anodd rhoi'r clod am adeiladu pont Britannia i un dyn. Er gwaethaf yr hyn a ddywed Fairbairn mae'n weddol sicr mai Stephenson oedd gwir 'dad' y Britannia ac ar ei ysgwyddau ef y dylid rhoi'r rhan helaeth o'r clod. Beth bynnag, heb gymorth Fairbairn a Hodgkinson anodd dychmygu sut ffurf fyddai i'r bont ac a fyddai wedi dal straen 120 mlynedd o drafnidiaeth. I amddiffyn y bont rhag y ddrycin gorchuddiwyd y ddwy diwb gan drawst dur, a gwaith coed a hesian yn llawn tar. Yr oedd yr haearn gyr hefyd wedi ei orchuddio y tu mewn gan gaenen o dar, calch tawdd a thyrpant Ar Fai 28, 1970, aeth pum bachgen o ochr Caernarfon i'r bont i edrych am ystlumod. Yn ystod COLEG PRIFYSGOL GOGLEDD CYMRU, BANGOR UN O GOLEGAU PRIFYSGOL CYMRU Prifathro: SYR CHARLES EVANS, M.A., D.SC., F.R.C.S. Darperir cyrsiau gradd Prifysgol Cymru yng Nghyfadrannau'r Celfyddydau, Gwyddoniaeth, Diwinyddiaeth, a Cherddoriaeth. Mae'r cyfadrannau'n cynnwys testunau arferol curricula prifysgol, a cheir yn ychwanegol, ddarpariaeth arbennig mewn Ieithyddiaeth, Archaeoleg, Seicoleg, Peirianneg Electronig, Technoleg Defnyddiau, Bioleg y Môr, Cefnforeg, Coedwigaeth, ac Amaethyddiaeth. Rhoddir nifer o ysgoloriaethau bob blwyddyn mewn canlyniad i arholiadau a gynhelir yn yr ysgolion ym mis Mawrth. Y mae gan y Coleg bump Neuadd Breswyl â lle i fil o fyfyrwyr. Gellir cael manylion pellach a chopi o Brospectws y Coleg oddi wrth y Cofrestrydd. yr helfa rhoddodd un bachgen dân i dudalen lly; r a'i osod yn ymyl trawst. Hawdd gweld fel yr aeth bont yn wenfflam o fewn ychydig funudau- y cyfan yn cael ei gynorthwyo gan ffurf 'simddai' y bont. Yr oedd y gwres mor fawr nes y torrod y tiwb uwchben y colofnau a phlygasant rhwnj 24 modfedd a 29 modfedd yng nghanol y rhych- want. Barnwyd fod y difrod mor ddrwg fel nad oedd diben ceisio atgyweirio'r bont, a phcnderfynwyd cynllunio pont newydd. Bydd y bont yma yn cario un lein rheilffordd, gyda modd adeiladu ffordd foduron ar lefel uwch. Gan fod Stephenson wedi gwrthod pont grôg fel modd i groesi'r Fenai, diddorol yw gweld i John A. Roebling-gwladychwr o'r Almaen, gynllunio pont grôg bum mlynedd yn ddiweddarach yn 1855, a oedd yn ddigon cryf i wrthsefyll trafnidiaeth rheilffordd. Yr oedd y bont yma ar ddwy lefel- un lefel i'r rheilffordd a lefel arall uwchben i gerbydau