Rhagwelwn y gorboblogi yn y byd heddiw yn galw am ddiwydiannau ychwanegol i brysur ddihysbyddu adnoddau naturiol y blaned, i ddifwyno rhagor ar yr amgylchfyd â mwy a mwy o bethau annhreuliedig, i osod concrid lle bu glaswellt. 1,000 miliwn o bobl yn y byd yma ym 1830; 2,000 miliwn ym 1930; 3,000 miliwn ym 1960; 4,000 ymhen tair blynedd eto. Am ba hyd y gellir caniatáu'r fath dyfiant? A ellir ei osgoi? Pwy a fedr ei rwystro? 'Mae'r oll yn gysegredig', meddai Islwyn, a chredwn ninnau bod gan ddyn ddyletswydd at bob math o fywyd. Mae catastroffi'r sefyllfa heddiw nid yn unig yn bygwth ein gwareiddiad ond yn bygwth bywyd ar ein planed. Aeth rhywbeth mawr o'i le. Nid yw cynnydd mewn rheoli natur wedi sicrhau hapusrwydd i ddynion. Yn hytrach cawsom ansicrwydd ac anhrefn. Bu'r gwyddonydd ar bedestal yn hir, ond amheuir ei awdurdod a'i anffaeledigrwydd heddiw. Aeth ei fethiannau yn amlycach yng ngolwg y cyhoedd na'i lwyddiannau ac y mae ei ddyryswch yn eglur. I ymladd difwyno'r amgylchedd mae'n rhaid rhoi arweiniad pendant i'r cyhoedd. Yn rhy aml 0 lawer, ni all y gwyr Pentyrch o arbenigwyr gydweld a 'does ryfedd bod y gweddill ohonom yn petruso rhwng Pihahiroth a Baalseffon. Ychwanegolion mewn Bwydydd ELWYN HUGHES (Athrofa Gwyddoniaeth a Thechnoleg, Caerdydd) Erbyn hyn fe ddefnyddir rhai miloedd o ychwanegolion gan y gwneuthurwyr bwyd. Bron yn ddieithriad nid oes iddynt unrhyw werth ymborthegol ond fe'u defnyddir yn bennaf am bedwar rheswm: (i) i hwyluso dosraniad a storio bwydydd (e.e. sylweddau gwrthocsideiddio); (ii) i hwyluso paratoi bwydydd (e.e. emylsiflyddion); (iii) i roi lliw arbennig i fwydydd (e.e. carotîn, lliwuriau tar-glo, etc.); (iv) i roi blas arbennig i fwydydd (e.e. esterau organig). Profwyd yn y gorffennol fod rhai ychwanegolion yn wenwynig i'r corff ac oherwydd hyn fe waharddwyd eu defnyddio. Y math lleiaf peryglus yw'r un sydd heb gael ei amsugno o'r stumog i'r gwaed. Os aiff i mewn i'r gwaed gall un o dri pheth ddigwydd: (a) gall gael ei ysgubo allan o'r corff yn yr iwrin; (b) gall gael ei ddatwenwyno (h.y. ei droi yn sylwedd llai gwenwynig) gan gelloedd yr afu; (c) gall ymgrynodi yn y cnodweoedd a pheri trafferth. Sylweddau a berthyn i grwp (c) yw'r rhai lleiaf dymunol i'w defnyddio. Cyn cael defnyddio ychwanegolyn rhaid yn gyntaf wneud arbrofion i fesur ei wenwyndra. Yn fras iawn, fe wneir hyn trwy roddi bob dydd i anifeiliaid (llygod Ffrengig, ran amlaf) ganwaith gymaint o'r ychwanegolyn arfaethedig ag y byddai dyn ei hun yn ei fwyta mewn diwrnod (wedi ei gywiro, wrth gwrs, yn ôl y gwahaniaeth ym mhwysau'r corff). Fe archwilir yr anifeiliaid yn fanwl i weld a oes unrhyw effaith ar yr archwaeth am fwyd, y tyfiant, y gallu i genhedlu ac, yn bennaf oll, ar batrwm biocemegol y corff. Os mai negatif ydyw'r profion i gyd, fe ganiateir defnyddio'r ychwanegolyn. Nid yw pob ychwanegolyn 'synthetig' yn wenwynig o bell ffordd-ac nid yw pob ychwanegolyn 'naturiol' yn ddiogel, ychwaith. Disgrifiwyd gwaith a wneir ar hyn o bryd yn Athrofa Gwyddoniaeth a Thechnoleg Prifysgol Cymru gan Mrs. Elonwy Wright i fesur effaith asid sitrig ar y corff. Dyma sylwedd a ddefnyddir ar raddfa eang iawn-ac eto, efallai am eu fod yn ychwanegolyn 'naturiol', ychydig iawn iawn o waith sydd wedi ei wneud i fesur ei effaith ar y corff.