Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Rhai o adeiladau newydd Coleg Prifysgol Cymru Natur Prifysgol II. Ei Pheirianwaith a'i Maint GORONWY H. DANIEL (Prifathro, Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth) AR ôl cymryd peth amser i gyfleu fy argraffiadau am swyddogaeth prifysgol, fe drôf yn awr at y peirianwaith. Erbyn hyn 'rwyf wedi newid fy marn rywfaint ar yr agwedd hon. Fy argraff gyntaf oedd bod peirianwaith mewnol y Coleg a'r Brifysgol wedi ei lethu gan ormodedd o bwyllgorau a gymrai ormod o amser gwerthfawr ysgolheigion a gwein- yddwyr a hynny er mwyn penderfynu ar fân faterion a fyddai'n cael ei setlo'n gyflym, ym myd busnes neu'r llywodraeth ganolog, gan un neu ddau swyddog gweinyddol. Ond fel yr âi'r amser ymlaen, Cyf. Hywel W. Jones. fe ddeuthum i werthfawrogi rhai o fanteision dull y brifysgol o benderfynu ar gymaint ag sy'n bosibl o faterion mewn pwyllgor: mae hyn beth bynnag yn sicrhau bod nifer fawr o bobl yn cael cyfranogi mewn gweinyddiaeth a hefyd bod pob barn a safbwynt yn cael ystyriaeth lawn. Deuthum yma ar adeg o newid yn y peirianwaith gweinyddol— sef adeg rhoi mwy o lais i gynrychiolwyr y myfyr- wyr o fewn i'r peirianwaith hwn. Caf yr argraff fod hyn yn gweithio'n dda. Bu cyfraniadau'r myfyrwyr mewn pwyllgorau yn rhai gwerthfawr. Methais f