Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

íynt yn hwylus. Ond efallai mai'r anhawster ennaf sy'n wynebu'r athro ydyw gwybod sut gyflwyno'r pwnc, sut i godi a chynnal sgwrs thrafodaeth, a sut i ennyn brwdfrydedd ymysg .•u ddisgyblion. Gan mai ychydig o athrawon ^wyddoniaeth sy'n arbenigwyr ar hanes gwyddon- iaeth nid yw'r sgwrs neu'r ddarlith fawr amgenach nag aralleiriad o werslyfr, a hwnnw ynddo'i hun yn ddetholiad o faes eang iawn; onid gwell fyddai gadael i'r disgybl ddarllen y llyfr ei hun ? Rhennir y gyfrol yn dair rhan, sydd yn cyfateb yn fras i'r tri llyfr y cyfeiriwyd atynt eisoes: Natur y Bydysawd, Damcaniaeth Mater, a Syniadau Gwyddonol Mewn Bywydeg. Ymhob rhan ceir is- benodau a phob un ohonynt, yn ôl y cyfarwyddyd, yn addas ar gyfer rhyw chwe gwers. Ni ellir osgoi'r casgliad mai rhyw synopsis o hanes gwyddoniaeth a geir yma, rhyw nodiadau bras ar gyfer gwersi. Nid oes yma ddigon o ddeunydd i gynnal gwers ond ceir cyfeiriadau digonol at y tair cyfrol arall ac at nifer bychan o lyfrau eraill y gellid eu casglu yn hwylus, ynghyd â llyfryddiaeth fwy cynhwysfawr ond heb fod yn rhy drwm. Felly mae yma fframwaith y gall yr athro osod cwrs digon sylweddol arno, dim ond iddo fod â digon o amser ac o frwdfrydedd i ddilyn yr awgrymiadau. Yn anffodus nid yw'r gyfrol yn dweud llawer am ddull dysgu. Mae'n amlwg mai dull sgwrs gan yr athro a thrafodaeth yn dilyn a fwriedir ond ni cheir fawr o gyfarwyddyd ar gychwyn a chynnal trafodaeth. Nid yw'r awduron yn sicr a ddylid cynnwys gwaith ymarferol mewn cwrs o'r fath ac y mae'r awgrymiadau ar yr ochr yma yn rhai digon tila. Hoffwn weld llawer mwy o drafod ar ddeunydd darllen ymlaen llaw i osod y sefyllfa, ar drafod gwahanol bosibiliadau mewn grwpiau bychain, ac ar sicrhau fod pob disgybl a myfyriwr yn cymeryd rhan yn y gwaith. Byddai'r dull a awgrymir yn A Strategy for Education a adolygir isod yn briodol iawn ar gyfer gwaith o'r fath. I gloi felly, dyma amlinelliad da o hanes rhai syniadau gwyddonol, gyda chyfeiriadau rhagorol i alluogi'r athro i lunio cwrs cyflawn o wersi, ond rwy'n siomedig yn y sylw a roddwyd i ddulliau dysgu. A Strategy for Education, gan Herman T. Epstein. Gwasg Prifysgol Rhydychen, 1970. Pris: £ 1.75. Athro Bioffiseg ym Mhrifysgol Brandeis yn yr Unol Daleithiau ydyw'r awdur ac fe ellid tybied yn ôl teitl y gyfrol hon mai rhyw druth athronyddol hir wyntog fyddai ond mewn gwirionedd mae'n disgrifio yn fanwl ac yn ymarferol ddull newydd a ddatblygodd yr athro o gyflwyno gwyddoniaeth i ddosbarthiadau nad ydynt yn arbenigo mewn gwyddoniaeth. Mae hon yn sefyllfa ddigon cyfar- wydd ym mhrifysgolion yr Unol Daleithiau wrth gwrs ac yr oedd yr Athro yn ymwybodol o ddau beth wrth gychwyn y gwaith, sef fod y dulliau cyffredin o gyflwyno cyrsiau arolwg yn arwynebol iawn ac yn anfoddhaol i fyfyrwyr galluog yn eu priod feysydd gan nad oeddent yn cyfleu dim o wir natur ymchwil wyddonol, ac yn ail beth fod angen denu athrawon i ddysgu dosbarthiadau fel hyn gan fod y rhan fwyaf o'r gwyddonwyr disgleiriaf yn anwybyddu eu cyfrifoldeb yn llwyr ac yn canol- bwyntio eu sylw yn unig ar fyfyrwyr gradd. Hanfod y dull ydyw trafod nifer bychan o bapurau neu gyhoeddiadau gwyddonol gwreiddiol gyda dosbarth o fyfyrwyr nad oes ganddynt gefndir yn y pwnc o gwbl yn hytrach na dechrau yn y mannau mwyaf elfennol a gosod seiliau i astudio gwaith ymchwil rai blynyddoedd yn ddiweddarach, dyma ddechrau gyda'r gwaith ymchwil ei hun. Rhaid seilio'r drafodaeth ar weithgarwch yr awdur, beth oedd e'n ei wneud a pham, yn hytrach nag ar gynnwys ffeithiol y papur ei hun. Wedi cael y papur cyntaf i'w ddar- llen ymlaen llaw disgwylir i'r myfyrwyr holi'r darlithydd, yn wir ni cheir darlith ar y pwnc o gwbl onibai fod y dosbarth yn gofyn am eglurhad ar bwynt arbennig. Nid fy mwriad i yw argyhoeddi'r darllenydd fod y dull hwn yn ymarferol, mae'r llyfr yn gwneud hynny nid yn unig trwy fanylu ar y dull ond trwy drafod amgylchiadau pan fo'r dull yn methu hefyd. Apêl y dull at y gwyddonwyr disglair ydyw fod llai o waith paratoi ar gyfer trafod deunydd sy'n perthyn yn agos at eu gwaith ymchwil, er fod hyn yn golygu fod yn rhaid i rywun arall ddewis y deunydd trafod yn ofalus yn y lle cyntaf. Pa mor berthnasol ydyw'r dull hwn mewn sefyllfa wahanol ni wn. Mae lle i gredu fod absen- oldeb mathemateg yn y papurau dan sylw yn bwysig ond pe byddai gan y myfyrwyr gefndir o fathemateg hwyrach na fyddai hynny o bwys. Dywed yr awdur fod rhai myfyrwyr yn arbenigo mewn gwyddoniaeth wedi dilyn cwrs o'r fath ac wedi dangos gallu anarferol yn ddiweddarach i ymgodymu â gwaith newydd yn eu pwnc. Mae'r llyfr hwn yn sicr o ennyn diddordeb ac y mae'n werth i unrhyw athro mewn ysgol neu goleg ei ddarllen. I.W.W.