.îyniant materol, y mae datblygiad gwyddoniaeth i thechnoleg hefyd yn llygru'r amgylchedd ac yn �sgor ar beiriannau rhyfel a allai ddifodi pob ffurf ar fywyd. Canlyniad yr angen am gynllunio yw sefydlu clymau o awdurdod biwrocratig sy'n ddinistriol o safbwynt cyfrifoldeb democrataidd a chyfranogaeth yr unigolyn. Ac efallai bod ffram- waith y sistemau cymdeithasol ac economaidd a natur yr amgylchedd ffug a grewyd ganddynt yn gwanhau rhinweddau cynhenid yr hil ddynol. Gwrthdrawiad â'r awdurdod Anochel hefyd yw i'r prifysgolion, yn eu gwaith o ymchwilio am y gwirionedd, ddod i wrthdrawiad â'r awdurdodau seciwlar. Câf yr argraff fod y gwrthdrawiad hwn wedi ei leddfu i raddau gan ddibyniaeth y brifysgol ar gyllid y wlad, ymchwil wedi ei noddi gan y wladwriaeth, a chyfnewid gweithwyr rhwng y prifysgolion a'r wladwriaeth. Popeth yn dda; yn wir, does gen i, o bawb, ddim hawl i siarad yn erbyn yr olaf o'r tri yma. Ond ar y llaw arall, rwy'n gweld peryglon yn niflaniad y gwrthdrawiad arbennig hwn-peryglon nad wyf yn eu gweld i'r un graddau yn ymdoddiad athron- iaethau crefyddol a gwyddonol i'w gilydd. Mae fy nghefndir personol wedi fy ngwneud yn ddrwg- dybus iawn o allu cynhenid llywodraeth i ddelio â'r problemau dros gyfnod hir (o'u cyferbynu â phroblemau dros gyfnod byr), ac o'i pharodrwydd i wynebu problemau sylfaenol o'u cymharu â buddiannau materol y dydd. Mae'n anochel bod llywodraeth yn ymwneud â gwarchod ac ymestyn awdurdod yn anad dim, a'i bod gan hynny'n gweithredu o fewn i'r ffiniau a osodir gan y farn gyhoeddus ar y pryd. Rwy'n credu mai un o brif ddyletswyddau'r prifysgolion yw mynnu rhyddid i astudio'r problemau sylfaenol, ac yna i oleuo'r farn gyhoeddus ar sail yr astudiaethau hyn gyda golwg ar gymell a galluogi'r llywodraethau i ymgodymu â'r problemau sylfaenol. Gwrthryfel ymhlith myfyrwyr Clywn sôn byth a hefyd am gynnwrf a gwrthryfel ymhlith myfyrwyr, ond dylem gofio bod yr anfodd- had a fynegir drwy farn ddeallus myfyrwyr yn tarddu, i raddau helaeth, o'r ymboeni dwys ynghylch problemau sylfaenol dyn, a chlod i'r genhedlaeth iau yw ei bod yn ymglywed â'r problemau hyn. Dyw hyn, wrth gwrs, ddim yn gyfystyr â dweud bod modd cyfiawnhau pob gwrthryfel ymhlith myfyrwyr. Fe gewch, ar unrhyw adeg, rai personau sy'n barod i fanteisio ar achosion dilys er mwyn cyrraedd amcanion llai cymeradwy, a bydd y gorau weithiau'n gwneud camgymeriadau pan fyddant yn ymhél â phrotestio a gweithredu uniongyrchol. Ac nid yw gwrthryfel yn ddigon ynddo'i hun. Nid digon yw dweud fod methiannau'r sefydliadau presennol yn gymaint fel na ellir datrys y broblem heb chwalu'r sefydliadau, gan obeithio y daw'r cynlluniau ar gyfer eu hail- greu i'r wyneb rywbryd yn ystod y cynnwrf sy'n dilyn. Rhaid bod yn barod â chynlluniau adeiladol ar gyfer sefydliad gwell cyn tynnu i lawr yr hyn sydd gennym eisoes, beth bynnag fo'i ddiffygion. Dichon bod y farn ddeallus a ysbrydolwyd gan Rousseau a'i ddilynwyr wedi cael dadrithiad enbyd ar ôl y Chwyldro pan ddisodlwyd prifysgolion mawr Ffrainc gan un brifysgol ymerodrol ag iddi'r nod o gynnal hanfodion y grefydd Gatholig a theyrngarwch i'r Ymerawdwr; prifysgol wedi ei chyfundrefnu ar batrwm milwrol, a phawb mewn lifrai, wedi eu gosod mewn rhengoedd, a swyddog- ion arfog i gadw disgyblaeth arnynt. Dyma un enghraifft o blith llawer mewn hanes i ddangos y perygl o adael i'r newydd dyfu allan o ganol y sgarmes. Rhaid cynnig cynlluniau adeiladol sy'n welliant amlwg ar y trefniadau presennol. Ar y tir hwn y dylem ni roi ein cefnogaeth i'r ieuenctid hynny sy'n ymboeni ynghylch problemau'r ddynol- iaeth, a'r rheswm pam nad yw ysgrifenwyr radicalaidd cyfoes fel Marcuse bob amser yn rhoi arweiniad boddhaol yw nad ynt yn gwneud argymhellion adeiladol (er disgleiried rhai o'u damcaniaethau dinistriol). Ond y maent yn iawn o safbwynt y pwyslais a roddant ar ieuenctid (yn enwedig ieuenctid deallus a meddylgar mewn prifysgolion) fel cenhadon datblygiad. Yn hyn o beth fe geir cytundeb rhwng agwedd Mao-tse-tung at ieuenctid: 'Chwi bobl ieuanc llawn ynni a bywyd sydd ym mlodau eich dyddiau fel yr haul am wyth neu naw o'r gloch y bore. Eich eiddo chwi yw'r byd', a geiriau Disraeli: 'Gan yr ifanc y gwneir bron popeth da'.