yn erbyn y staff. Fe'u cyhuddwyd o wastraffu amser ar ymchwil ac anwybyddu eu priod waith ) hyfforddi'r myfyrwyr. Yn y fath awyrgylch, nid yw yn bosibl magu traddodiad at ymchwil o ddifri Nid yw'r sefyllfa hanner mor ddrwg yn yr Almaen, wrth gwrs, a datblygodd ei hymchwil y gyson ers y rhyfel. Er hynny, nid ydyw eto wedi gwneud i fyny'r golled mewn pobl a sefydliada j a ddilynodd y rhyfel. Bellach i gyfeiriad yr Almaen mae'r Brain Drain yn mynd, a mae gennyf yno ar hyn o bryd bedwar o'm myfyrwyr ymchwil a raddiodd gyda Ph.D. yn Salford yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf. Maent yn benderfynol o ddyfnhau eu gwreiddiau gwyddonol yn yr Almaen ac yn ymwybodol iawn yno o allu Prydain i'w cynorthwyo yn hyn o beth. Mae llawer iawn o ddiwydianwyr ystyriol Ewrop felly yn edrych tuag at Brydain am arweiniad mewn amryw faes ymchwil, ac yn arbennig gyda thrafnidiaeth yr ymchwil. Nid oes amheuaeth gennyf fod hyn yn ffactor sylweddol yng ngolwg y Chwech wrth ystyried cais Prydain am fynediad i'r Gymdeithas Ewropeaidd. Mae ymchwil sylfaenol yn mynd yn fwy costus bob blwyddyn, ac i raddau helaeth mae dydd y grwp bach dethol wedi diflannu. Mae'n rhaid wrth adnoddau, mewn offer a phobl, sydd bellach tu hwnt i allu un gwlad i'w gyfrannu yn gyfangwbl. Nid yw y Chwech, hyd yma, wedi dangos unrhyw arwydd y gallant grynhoi eu hadnoddau gwyddonol ar gyfer anghenion yr oes. Credaf fod gan Brydain gyfraniad arbennig yn hyn o beth, a chymaint yw'r parch tuag at ein gwyddonwyr ar y cyfandir, mae'n bosibl y bydd y gweddill o Ewrop yn fodlon derbyn yr arweiniad oddi yma, a diwygio'u Prifysgolion a'u sefydliadau ymchwil, fel y gwnaethant mor llwyddiannus eisoes gyda'u busnes. Dyma, efallai, fydd cyfraniad mwyaf arbennig Prydain i'r Gymdeithas Ewropeaidd ac sydd, yn y pen draw, wedi sicrhau ein mynediad i'r Clwb. GLYN O. PHILLIPS w. ians Jones, G.B.t., Ph.D., D.Sc. Uvuu— 1^71) TRIst iawn yw gorfod cofnodi marwolaeth y Dr. Idris Jones. Bu yn gyfaill da i Y Gwyddonydd a testun llawenydd yw fod cymaint o'i wybodaeth am Gymry a wnaeth gyfraniad arbennig i wyddoniaeth wedi ei ddiogelu yn y gyfres Gwyddonwyr o Gymry. 'Roedd yn nodweddiadol ohono i fynnu parhau gyda'i gyfraniadau, er yn wael iawn ei iechyd yn ystod y misoedd olaf, oherwydd ei fod mor awyddus i blant Cymru gael gwybod am y gwyr mawr hyn a oedd ef yn eu hadnabod mor dda. Bellach y mae yntau yn cael ei osod yn anrhydeddus iawn yn eu plith ar gyfrif ei gyfraniad aruthrol i Gymru ac i wyddoniaeth. 'Roedd y Dr. Idris yn ymgorfforiad o bopeth y gellid ei edmygu mewn person, anwyldeb personoliaeth, osgo urddasol fel y gweddai i un a fu'n Gapten ar dîm rygbi Cymru, egni corfforol dihysbydd a'i gyrrodd i ddringo pob wyneb creigiog yng Nghymru, Lloegr a'r Alban, a llawer o fynyddoedd yr Alpau yn ogystal. Dringodd hefyd yn ei yrfa wyddonol. Wedi addysg yn Aberystwyth a Chaergrawnt cyrhaeddodd y pinacl gyda'i benodiad yn 1946 i'w swydd olaf, sef Rheolwr Cyffredinol Ymchwil i'r Bwrdd Glo. Yn y swydd hon, blodeuodd i'r eithaf ei ddawn i ysbrydoli datblygiadau newydd a sefydlu'r peirianwaith trefnyddol angenrheidiol i'w llwyddiant. Rydym eisioes wedi cofnodi ei gyfraniad arbennig i wyddoniaeth yn Y Gwyddonydd mewn Portread ohono (Y Gwyddonydd, Cyfrol II, 1964, tud. 32). Ni allaf wneud yn rhagorach yn awr na dyfynnu o'r deyrnged honno. "Pleser ac anrhydedd yw cael cyflwyno i'n darllenwyr y gwr annwyl hwn, y bu ei bersonoliaeth hyfryd a didwyll yn goleuo a chynhesu pob cymdeithas y bu'n rhan ohoni, o'i ddyddiau ysgol hyd heddiw." Un o blant y werin ydoedd, y bu ei yrfa o'i febyd i'w fedd yn enghraifft dda o ramant addysg. Nid pendefigaeth wedi ei seilio ar dras-a-bonedd oedd ei eiddo ef, ond pendefigaeth bid siwr yn deillio o'i arweinyddiaeth ddiwylliedig a'i bersonoliaeth hardd. Estynnwn ein cydymdeimlad i'r teulu, ac yn arbennig i'w unig frawd, y cyfreithiwr adnabyddus, y Gwir Anrhydeddus Elwyr Jones, Q.C., A.S., yn ei golled, sy'n dilyn mor agos farwolaeth ei chwaer y diweddar Mrs. WinifreC Evans. G.O.P.