effeithiau arwyddocaol y tu allan i ffiniau'r orsaf. Pa fodd bynnag, er fod y fath ddamwain yn eithriadol o anhebygol, mae'r llywodraeth yn tybio mai doeth yw manteisio ar yr amddiffyniad ychwanegol i ddiogelwch y cyhoedd a geir trwy leoliad y gorsafau Dylai'r boblogaeth yn agos i orsaf fod yn ddigon tenau fel y gellir yn effeithiol wacau'r ardal pe digwyddai'r ddamwain hynod anhebygol o ymbelydredd yn cael ei ollwng y tu hwnt i ffiniau'r orsaf. Pryder y cyhoedd Mae'r awdurdodau'n rhoi'r argraff beth bynnag o fod yn gwbl ffyddiog. Ond nid felly'r cyhoedd. Mae'n wir fod record diogelwch y diwydiant yn ardderchog oherwydd y mynnir safonau uchel o ofal. Ond gwyr y cyhoedd am y gofal a gymerir mewn meysydd eraill megis teithio'r gofod a bod damweiniau wedi digwydd yn y maes hwnnw. Creadur ffaeledig yw dyn ar y gorau ac yn hwyr neu'n hwyrach mae damwain yn digwydd ym mhob un o'i weithgareddau. Dyna, beth bynnag, ymateb greddfol llawer o bobl at bendantrwydd awdur- dodau'r Bwrdd Canolog Cynhyrchu Trydan. Fe achosir cryn anesmwythyd wrth sôn am y posibilrwydd, tra anhebygol, o orfod symud pawb o ardal atomfa a rhoi pils iddynt i wrth weithio effeithiau ymbelydredd. Diau y cynyddai'r anes- mwythyd pe gwyddai pobl mai pils o ïodin yw'r rhain i drwytho'r theiroid cyn i ïodin ymbelydrol gyrraedd yno ac nad oes fawr o werth mewn triniaeth proffylactig o'r fath ar ôl y digwyddiad. Anghytuno yn yr U.D. Fe gynyddai'r anesmwythyd yn fwy wedyn pe gwyddai pobl am y ffraeo sy'n mynd ymlaen yn yr Unol Daleithiau ar y pwnc o bwerdai nuclear. Fe gychwynodd hyn mae'n debyg gyda datganiadau brawychus y Dr. Ernest J. Sternglass, Athro yn Adran Pelydreg Prifysgol Pittsburgh, tua dwy flynedd yn ôl, fod profi arfau nuclear wedi achosi marwolaeth plant dirifedi yn yr Unol Daleithiau. (Gweler New Scientist, Gorffennaf 24, 1969.) Ym mis Mai eleni, mewn ymchwiliad i'r priodoldeb o sefydlu pwerdy nuclear o fewn 50 milltir i ddinas Efrog Newydd, fe haerodd Dr. Sternglass fod gan unrhyw faban a enir o fewn y pellter hwnnw i ymweithydd, yn enwedig un o'r math dwr berwedig, lai o siawns na'r cyffredin o oroesi mwy na blwyddyn. Yr oedd ei farn, fel gyda'r haeriad blaenorol, yn seiliedig ar dystiolaeth ystadegol. Mae'r gwrthwynebiad iddo'n ddidostur. Yn 1969, fe apwyntiodd Awdurdod Ynni Atomig yr Unol Daleithiau ddau wyddonydd, Dr. John Gofman a Dr. Arthur Tamplin, i ymchwilio i haeriada Dr. Sternglass. Daethant i'r casgliad bod effait i'w ganfod ond fod Dr. Sternglass yn eu tyb hw yn gorliwio'r perygl. Ar yr un pryd cafwy i datganiad ganddynt fod y safon lefel diogelwc oddi wrth belydredd yn yr Unol Daleithiau ddeng ngwaith yn uwch nag a ddylai fod; heb ei Ieihal1, gallai miloedd yn ychwanegol farw yno bob blwyddyn o ganser neu Iwcemia. Dioddef oherwydd eu safiad Mae'r Awdurdod Ynni Atomig wedi gwrthod yr adroddiad hwn ond mae Dr. Gofman a Dr. Tamplin erbyn hyn wedi cychwyn ar ymgyrch i oleuo'r cyhoedd ynglŷn â pheryglon ymbelydredd. Fe gyhoeddir llyfr ganddynt-Population Control through Nuclear Pollution. Y mae'r ddau yn argyhoeddedig fod y rheiny sy'n siarad dros dechnoleg nuclear yn gwadu eu cyfrifoldeb i'r cyhoedd wrth ddilyn yn ddiwyro ddatblygiad technolegol. Er gwaethaf pob gwrthwynebiad, y maent yn argymell (1) Rhoi'r gorau i godi ymweithyddion hollti arbrofol. (2) Y dylid lleihau'n sylweddol y llygredd a achosir gan bwerdai'n defnyddio tanwydd ffosilaidd. (3) Y dylid rhoi llawer mwy o gefnogaeth ariannol i ymchwil i gael ynni o asiad atomau. Yn ôl New Scientist, Mai 27, 1971, mae Dr. Gofman a Dr. Tamplin wedi dioddef oherwydd eu safiad trwy golli eu gweithwyr a thrwy gael atal eu tâl eu hunain dros gyfnodau a hynny am resymau cwbl annigonol. Mae llawer yn credu fod y ddau yn gorddweud y peryglon ond ar y llaw arall yn cytuno bod angen adolygu'r sefyllfa, yn enwedig ynglŷn â safonau diogelwch. Beth am Brydain? Ond America yw hyn; ym Mhrydain, mae pethau braidd yn wahanol. Fe ddywedir fod yr awdurdodau yma yn mynnu safonau llawer uwch o ofal rhag llygru'r amgylchedd wrth weithredu pwerdai nuclear a hefyd rhag damweiniau. Ac nid yr un math o bwerdai a ddatblygir yma. 'Magnox' oedd y genhedlaeth gyntaf-yn defnyddio iwran- iwm naturiol mewn caniau o aloi magnesiwm ac yr cael eu hoeri gan garbon deuocsid. Yr Wylfa yw olaf o'r gyfres o wyth.