lebygwn i Eirwen Gwynn YN rhifyn cyntaf un Y GWYDDONYDD a ym- ddangosodd ym Mawrth 1963, rhoddais fanylion am Atomfa Trawsfynydd a oedd, y pryd hynny, ar fin cychwyn cynhyrchu trydan. Y dydd o'r blaen, mi delais ymweliad arall â'r Atomfa hon a rhaid cydnabod fod yr addewidion cynnar i ofalu nad amharai'r Atomfa ar ei hamgylchedd ym Mharc Cenedlaethol Eryri wedi eu cyflawni. Mae lliw'r meini yn cydweddu â'r creigiau o gwmpas ac y mae rhannau o'r pwerdy wedi eu gosod yn fwriadol mewn pantiau er mwyn bod o'r golwg. At hyn, mae bryniau bach gneud wedi eu gosod yma ac acw a choedwig helaeth wedi ei phlannu. Ar ôl i'r coed dyfu, ni fydd fawr o'r Atomfa yn y golwg. Cafwyd ychydig o drafferthion ynglŷn â gweith- rediad yr orsaf yn y dyddiau cynnar ond, erbyn hyn, mae'r Atomfa yn medru cynhyrchu 580,000 cilowat ac, o hwn, anfonir 500,000 cilowat i gyfundrefn y grid. Yn ôl cyfarwyddwr yr orsaf, Mr. H. G. R. Jones, gall ei hoes fod yn hwy nag a ddisgwylid-yn wir, gall barhau cyhyd â phwerdai confensiynol neu yn hwy hyd yn oed. Os digwydd hynny, bydd cost y trydan a gynhyrchir ganddi yn llai na'r amcan gwreiddiol. Mae cost cynhyrchu mewn atomfa yn llai na'r gost mewn pwerdy confensiynol sy'n llosgi glo neu olew ond y mae cost codi'r orsaf yn y lle cyntaf yn llawer mwy. Felly, os gellir estyn oes atomfa, bydd llai o'r cost gwreiddiol hwn i'w osod yn erbyn pob uned o drydan a gynhyrchir ganddi. Amser a ddengys. Gofynais i Mr. Jones beth a wneir â'r ddau ymweithydd pan ddaw eu hoes i ben. A fydd modd codi ymweithyddion eraill mwy modern i wasan- aethu'r un tyrbeiniau? Na, yn ôl Mr. Jones, bydd y tyrbeiniau wedi darfod eu braint hefyd ac ni fydd dim amdani hi ond claddu'r holl orsaf ac ychwan- egu bryn arall, dipyn mwy sylweddol, at yr olygfa. Ond prif bwrpas yr ymweliad oedd holi ynglŷn â 1iogelwch gorsafau o'r fath yma. Yn dilyn hanes yr ymchwiliad yn Connah's Quay, mae llawer o bobl wedi mynegi pryder am hyn. SAFBWYNT PERSONOL AR WYDDONIAETH HEDDIW Mae Mr. Jones yn gwbl ffyddiog nad oes unrhyw berygl i'r ardal. Ni chafwyd hyd yma unrhyw godiad yn lefel ymbelydredd amgylchedd yr orsaf. Ac yn yr orsaf ei hun, fe gymerir y gofal mwyaf o'r gweithwyr. Rhoddir archwiliad rheolaidd iddynt, a hyd yma, ni chafwyd achos i dynnu neb oddi wrth ei waith. Pan fo'r posibilrwydd lleiaf i ddyn ddod i gysylltiad â deunydd ymbelydrol, rhaid iddo wisgo siwt arbennig ac wedi gorffen, golchir y cyfan mewn golchdy yn perthyn i'r atomfa. Ac ni chaniateir i'r dwr golchi adael yr atomfa heb ei archwilio a'i ddal yn ôl am gyfnod os yw'n dangos lefel arbennig o ymbelydredd. Mae'r orsaf yn defnyddio 35 miliwn galwyn o ddwr bob awr o Lyn Trawsfynydd ar gyfer oeri, a dychwelir y dwr poeth yn ôl i'r llyn. Clywsom fod twymo dwr fel hyn wedi achosi tyfiant annymunol yn y dwr mewn rhai lleoedd ac, yn wir, mae cynnydd mewn algae yn Llyn Trawsfynydd ond nid yw wedi achosi dim trafferth hyd yma. Ond beth am ddamwain a allai ollwng swm o ddeunydd ymbelydrol dros y gymdogaeth? Mae Mr. Jones yn gwbl dawel ei feddwl nad yw'r fath beth yn debyg o ddigwydd. A hyd yn oed pe bai awyren yn disgyn a tharo ymweithydd, mae falfiau'n gweithredu'n awtomatig i gau'r ffliwiau sy'n arwain y nwy oeri i mewn i'r ymweithydd ac allan ohono. Pe digwyddai peth mor anhebygol a chryndod daeargrynfaol, mae'r ddau ymweithydd wedi eu gosod yn ddiogel ar fatiau trwchus o rwber. Yn dilyn fy ymweliad â'r orsaf, mi ysgrifennais at y Bwrdd Canolog Cynhyrchu Trydan i holi ynglyn â diogelwch. Yr ateb a gefais oedd fy nghyfeirio at ddatganiad swyddogol a wnaed yn Connah's Quay. Dyma rydd gyfieithiad o'i hanfodion: Cyrraedd safonau eithriadol uchel o gynllunio, adeiladu a gweithredu y gorsafau nuclear fu ac a fydd prif amddiffynfa'r cyhoedd rhag unrhyw beryglon yn codi o'r gorsafau hyn Mae gan y diwydiant record diogelwch rhagorol ac ni fu erioed ollwng ymbelydredd yn ddam- weiniol o bwerdy masnachol yn y wlad hon a gafodd