Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Damcaniaeth y Tamaid Bach D. T. LEWIS MAE'N debyg mai maes ymchwil pur ddiffrwyth fyddai ceisio olrhain y geiriau Cymraeg sydd wedi ennill eu plwy fel termau safonol mewn llenyddiaeth wyddonol Seisnig. Fel pob gwyddonydd arall y mae'r gwyddonydd o Gymro am osod ei ddamcan- iaethau gerbron y byd er mwyn cael beirniadaeth ryngwladol a rydd iddo linyn mesur ar safon ei waith a chymer yr iaith Saesneg fel cyfrwng i gyfathrebu. Felly gyda chryn dipyn o chwilfrydedd rhyw ddwy flynedd yn ôl y gwelais gyfeiriad at ysgrif ar 'The Tamaid Bach Theory of Subnuclear Particle Structure', ac er fod maes ffiseg niwcliar yn un dieithr a thywyll i mi fe'm gogleisiwyd ddigon i ddarllen ymhellach yn y maes cyfoes a dadleuol hwn sy'n datblygu mor gyflym fel na wyr neb beth i w ddisgwyl nesaf. Yn naturiol ddigon yr oeddwn am wybod pwy oedd awdur y ddamcaniaeth a pham y rhoes enw Cymraeg ar y ddamcaniaeth ac ar y gronynnau JOHN S. DAVIES elfennol a nodir ynddi. Cefais mai Dr. D. T. Lewis, C.B., D.Sc., Cemegydd y Llywodraeth, ydyw, gwr a chanddo gefndir trwyadl Gymreig. Brodor o Gefn Coed y Cymmer ydyw ac addysgwyd ef yn ysgol Brynmawr, Sir Frycheiniog, a Choleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, lle y graddiodd gydag anrhydedd yn y dosbarth cyntaf mewn Cemeg ym 1930. Manteisiodd ar dair blynedd pellach o awyr iach Bae Ceredigion a chafodd Ph.D. yn yr un pwnc cyn myned yn athro ysgol yn Quaker's Yard, Merthyr, ac yna'n ddarlithydd yng ngholegau Aberystwyth a Chaerdydd. Ym 1940 symudodd i'r Adran Ymchwil Arfogaeth ac wedi'r rhyfel i'r sefydliad ymchwil Arfau Niwcliar. Ym 1960 penodwyd ef yn Gemegydd y Llywodraeth gyda chyfrifoldeb darparu gwasanaeth dadansoddol i holl adrannau'r Llywodraeth. Ef yw'r Cymro cyntaf i ddal y swydd honno, ac fel y soniwyd eisoes yn Y GWYDDONYDD (1970, t. 128) ef hefyd fydd y cyntaf i lenwi Cymrodoriaeth Athrofaol adran Gemeg Coleg Prifysgol Cymru, Aber- ystwyth. Derbyniodd radd Doethor mewn Gwydd- oniaeth gan Brifysgol Cymru ym 1958 ac anrhydeddwyd ef â'r C.B. ym 1963. Ac yn awr at y Tamaid-Bach. Damcaniaeth wreiddiol am gyfansoddiad sylfaenol y gronynnau isniwcliar ydyw hon ac y mae hynny ynddo'i hun yn gyfiawnhad tros ddefnyddio termau gwreiddiol a Chymraeg; nid yw'r iaith yn fwy dyrys na'r pwnc ei hun. Ac y mae safle'r awdur yn ddigon uchel i sicrhau derbyniad i'r termau, os derbynir y ddamcaniaeth ei hun. Mae'n wir nad yw pawb yn ei derbyn, ond dyma ffawd pob damcaniaeth newydd mewn maes dyrys, ac y mae'r Dr. Lewis wedi newid ychydig arni ei hun o bryd i'w gilydd. Dywed ef: 'Mae newid yn bur aml ar ddamcan- iaethau newydd; nid oes ond rhaid meddwl am syniadau cyntaf Mendeleef ynglyn â dosbarthiad rheolaidd yr elfennau yn ôl eu pwysau atomig ac wedyn am esboniad rhagorach Moseley yn ôl y rhifatomig'. Maes cymhleth iawn ydyw maes y gronynnau isniwcliar ac ni allwn ymgymeryd â thriniaeth fanwl ohono, nac yn wir o ddamcaniaeth y Tamaid- Bach ei hun, ond dyma grynodeb o ysgrif gan yr awdur ar ei ddamcaniaeth.