Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

adwaith positif gyaag esgyrn byw, ond collwyd y briodwedd hon yn gyflym ar ôl i'r person farw, ac nis gwelwyd ond yn anfynych ar ôl pum mlynedd. Siomedig hefyd oedd amryw dechnegau eraill. Mesurwyd pa faint o fraster a oedd yn bresennol yn yr esgyrn drwy ei dynnu allan â chlorofform mewn tewychydd Soxhlet (proses hir) a phwyso cyfanswm y braster a gafwyd felly. Yr oedd cyfanswm y braster mor isel (ar wahân i'r hyn a gaed o'r esgyrn mwyaf diweddar) fel nad oedd y dull hwn ond o ychydig ddefnydd yn unig. Method arall oedd gweld i ba raddau yr oedd esgyrn yn ymgyplysu â rhai lliwurau arbennig megis Glas Nil a dichloroindophenol, a gymeradwywyd gan weithwyr ymchwil eraill fel mesur o oedran esgyrn. Amhendant iawn oedd y canlyniadau ac nid oeddynt o unrhyw werth ymarferol. Crynhoi Ceisiwyd hefyd ddarganfod pa faint a pha fathau o amino-asidau rhydd a oedd yn yr esgyrn, h.y. y rhai a oedd yn bresennol cyn i'r prodin gael ei ddadelfennu gan hidroleiddio. Unwaith eto, yr oedd y canlyniadau yn ddiwerth. A chrynhoi, cafwyd fod y dulliau a ddisgrifiwyd uchod yn rhagori i ryw raddau o leiaf ar y gymysgedd o ddibynnu ar brofiad personol a gwaith-bwrw-amcan a ddefnyddir yn gyffredin wrth ddyddio gweddillion esgyrn. Fodd bynnag, erys y ffaith mai'r amgylchfyd yw'r ffactor fwyaf dylanwadol sy'n penderfynu cyflymder dadfeilio esgyrn yn hytrach na threigl amser yn unig. Eto i gyd, er bod yr esgyrn a ddefnyddiwyd yn y gyfres arbrofiadau hon wedi dod o lawer amgylchfyd gwahanol, ymddengys o hyd fod patrwm cyfnewid GWASG PRIFYSGOL CYMRU THE ROMAN FRONTIER IN WALES Argraffiad newydd o glasur V. E. NASH WILLIAMS. Golygwyd gan MICHAEL JARRETT. arbennig i'w gael, yn enwedig wrth i'r elfennau nitrogenaidd newid yn gyfansoddau symlach. Ceir crynodeb o'r canlyniadau yn Ffigur 6. Ymddengys mai'r ystyriaeth fwyaf gwerthfawr yw cyfanswm y nitrogen a nifer yr amino-asidau sy'n bresennol, yn enwedig y prolinau. Yn sicr, ymddengys fod cyfartaledd nitrogen o lai na 2-5 gm. y cant yn awgrymu fod yr asgwrn yn fwy na 350 o flynydd- oedd oed. Cynhwysai bron y cyfan o'r enghreifftiau a oedd yn llai na 50 oed fwy na 3-5 gm. y cant o nitrogen. Os oes saith neu ragor o amino-asidau'n bresennol, yna y tebyg yw fod yr asgwrn yn llai na chan mlwydd oed, ac os oes prolin a hidrocsi- prolin yn bresennol, y tebyg yw ei fod yn llai na 50 mlwydd oed. Y mae adwaith positif yn y prawf bensidin ar gyfer gwaed hefyd yn awgrymu oedran o lai na 150 o flynyddoedd. Y mae hyn yn wahanol i'r canlyniadau a gaed gan ymchwilwyr blaenorol na chawsant ganlyniadau positif ond yn anfynych gydag esgyrn hyn na 12 mlwydd oed. Amlwg fod y modd y gweithredir y dechneg hon yn bwysig iawn, a rhaid gofalu'n arbennig rhag cael canlyniadau positif camarweiniol. Y mae'n eglur na ellir byth obeithio medru dyddio'n fanwl-gywir, ond gall defnyddio tech- negau dadansoddol fel y rhain a ddisgrifiwyd uchod (a hwythau i gyd yn gymharol syml o'u cymharu â dulliau cymhleth y labordai archaeoleg) fod yn welliant pendant ar y dulliau anfanwl a arferid gynt. CYDNABOD Diolchaf i'r Dr. W. R. L. James, Darllenydd mewn Meddygaeth Fforensig yn Ysgol Feddygol Cymru, am ei garedigrwydd yn rhoi tri o'r lluniau, ac i Mr. Peter Langham am iddo baratoi'r Iluniau a'r diagramau. Pris 4 gini.