Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Yn 1926 trodd ei sylw i broblemau terfysg i baratoi'r cyfrif ymarferol cyntaf o effeithiolrwydd y peiriant gwres awyrol ac effeithiau rhwbiad terfysglyd ar y cylchrediad cyffredinol. Casglodd y byddai'r cylchrediad cyffredinol yn terfynnu mewn ychydig o ddyddiau pe bai'r cyflenwad allanol o'r ynni o'r haul yn cael ei dorri allan ac mai rhyw 2 y cant yn unig o'r ynni sy'n dod i'n daear o'r haul sy'n angenrheidiol i gadw'r cylch- rediad fel y mae am amser amhenodol. Yn 1929 cyhoeddodd David Brunt ei bapur enwog ar y prosesi sylfaenol o gyflwyno gwres yn yr awyr gan symudiad troellog a phelydriad ac effeithiau cywasgedd. Casglodd fod trosglwyddiad gwres yn yr awyr isel yn debyg i'r hyn a geir mewn mater soled. Roedd archwiliad Brunt o'r broblem bwysig o ragfynegi tymheredd isaf y nos yn un o'i ymchwil- iadau mwyaf gwych a boddhaol. Mae tymheredd isaf y nos yn digwydd pan fod yr awyr yn weddol sych, y wybren yn glir (cwmwl uchel tenau) a'r gwynt yn isel neu'n dawel. Gweithiodd allan fformwla i ddangos y berthynas rhwng y tymheredd isaf â gwahanol ffactorau ffisegol y tir. Defnyddiwyd y fformwla yn eang gan y meteorolegwyr. Yn y rhan ddiwethaf o'i waith ymchwil canol- bwyntiodd yn bennaf ar adwaith y corff dynol i'w amgylchedd ffisegol. Ei brif nod oedd diffinio hinsawdd yn nhermau elfennau meteorolegol mesuradwy, yn enwedig tymheredd, lleithder, a chyflymder y gwynt. Darparodd ddosbarthiad arbrofol o hinsawdd a daeth i'r casgliad mae'r hinsawdd ddelfrydol i gynhyrchu bywiogrwydd corfforol a meddyliol yw'r un lle nad yw tymheredd cyfartal y mis twymaf ddim mwy na 75° F. (24° C.) [Carwn atgoffa ein darllenwyr ein bod yn barod i ystyried erthyglau neu rhyw gyfraniad arall i'w cyhoeddi yn Y GWYDDONYDD. Awgrymwn, fodd bynnag, i'r rhai sy'n bwriadu paratoi erthyglau ymgynghori yn gyntaf gyda'r Golygydd neu rhyw aelod arall o'r Bwrdd Golygyddol. — Gol.] a thymheredd canol y mis oeraf ddim llai na 32° F. (0° C.). Cynnwys hyn Ynysoedd Prydain. Ffrainc, Gogledd Spaen, Y Swisdir, yr Almaen. Isalmaen, Denmarc, etc. Yr hinsawdd orau yn y byd yn ôl David Brunt yw hinsawdd Seland Newydd. Bu Brunt yn ymgynghorwr i ni yn Adran Wyddonol y Bwrdd Glo yn y maes hyn ar effeithiau amgylchedd dan ddaear ar y glowr, yn enwedig yn y pyllau dyfnion lle mae'r tymheredd yn uchel, yr awyr yn llaith a'r gwaith yn lluddedig iawn. Y tu allan i'w fywyd teuluol a'i waith fel ysgolor, athro a gweinyddwr, gwyddoniaeth oedd ei holl fryd. Ond cymrodd ddiddordeb yn y maes gwleid- yddol ac mewn darllen hanes. Roedd yn ddyn caredig a chwrtais yn enwedig wrth yr ieuanc ac edrychwyd arno gyda hoffter gan ei gydweithwyr ymhob cyfeiriad. Carodd gefn gwlad a roedd yn sylwedydd craff yno. Cymrodd ddiddordeb mewn hedfan difodur a bu'n gadeirydd Cyngor y British Gliding Association 0 1935 hyd 1946. Yn ystod y ddeng mlynedd ddiwethaf o'i fywyd gwelodd feteoroleg yn trawsffurfio'n wyddor fathemategol ac yn ddiau rhoddodd hyn foddhad mawr iddo. Gwelodd hefyd offerynnau meteorol- egol newydd, e.e. radio-sonde, radar a'r cyfrifiadur yn cael eu defnyddio i ehangu meteoroleg a'n gwybodaeth o'r tywydd presennol a dyfodol. Mae Syr David Brunt yn wir yn un o brif sylfaenwyr gwyddor fodern yr awyrgylch. Carwn ddiolch i'm cyfaill, Syr Graham Sutton, C.B.E., F.R.S., am ganiatâd i wneud defnydd o'i gofiant o Syr David Brunt yng Nghofiannau Bywgraffyddol y Gymdeithas Frenhinol (Tachwedd 1965).