Debygwn i Eirwen Gwynn FFLWORIDEIDDIO DWR YFED Bu dadlau chwerw ers blynyddoedd parthed y priodoldeb o fflworideiddio dwr yfed y cyhoedd er mwyn lleihau pydredd yn nannedd plant. Mae'r cynghorwyr sy'n gorfod penderfynu ein tynged yn y mater yma yn dibynnu'n llwyr ar farn arbenigwyr ac nid yw'r rheini'n gytun. O ganlyniad, mae'r dadlau fel rheol ar lefel wleidyddol yn unig. Mae angen mawr am ymchwiliad annibynnol i wyntyllu'r maes yn drwyadl wyddonol. Nid oes amau'r angen am achub dannedd plant. Dyma'r afiechyd mwyaf cyffredin heddiw ac y mae'n gwaethygu ym Mhrydain er gwaetha'r gwasanaeth deintyddol rhad. Dywedir fod 85 y cant o blant dan 5 oed efo un neu ragor o ddannedd drwg a 99-5 y cant o blant dan 12 oed efo tri dant afiach ar gyfartaledd. Bob dydd gosodir dannedd gosod yng nghegau 100 o blant. Ac nid dyma'r sylfaen gorau i iechyd dannedd oedolion. Mae cost y Gwasanaeth Deintyddol ym Mhrydain dros f40,000,000 y flwyddyn-heb sôn am golli tua 1,500,000 o ddyddiau gwaith bob blwyddyn, yn ôl amcangyfrif gan yr Athro Alex MacGregor o Brifysgol Birmingham. Y cwestiwn mawr yw ai trwy fflworideiddio dwr yfed pawb y mae gwella'r sefyllfa ? Ni honnir bod fflworeid yn lles i ddannedd neb ond plant a dim ond 0·04 y cant o'r cyflenwad dwr (yn ôl amcan- gyfrif gan Fwrdd Dwr Detroit yn 1962) y mae'r rheini yn ei yfed. A ellir cyfiawnhau gorfodi i bawb gymryd rhagor o fflworeid er mwyn y posibil- rwydd o wella cyflwr dannedd plant? A ellir profi'n ddigamsyniol fod y gwenwyn cydnabydd- edig hwn yn ddiniwed i bawb mewn dognau bach? A ellir bod yn sicr mai dognau bach y mae pawb yn eu cael? Mewn ymdrech i geisio ateb y cwestiynau hyn, mae ymchwilwyr wedi cyhoeddi papurau lluosog iawn dros gyfnod o 30 mlynedd gyda'r canlyniad fod barn gynyddol yn y byd gwyddonol erbyn hyn yn gwrthwynebu fflworideiddio dwr yfed. Ond mae'r Weinyddiaeth Iechyd mor ddiwyro ag erioed SAFBWYNT PERSONOL AR WYDDONIAETH HEDDIW yn ei bwriad i orfodi fflworideiddio ar bawb ac y mae ymron pob swyddog meddygol a deintyddol yn mynegi'r farn swyddogol sy'n seiliedig ar y gred fod fflworideiddio wedi ei brofi'n fanteisiol i blant ac yn ddiogel i bawb unwaith ac am byth yn yr Unol Daleithiau yn 1938. Y cefndir Dyma'n fyr yw'r hanes. Yn y tridegau fe sylwyd fod brychni ar ddannedd plant mewn rhai ardal- oedd yn America lle'r oedd cyfran uchel o fflworeid yn naturiol yn y dwr. Ond gwelwyd hefyd fod llai na'r cyffredin o bydredd yn eu dannedd. Parodd hyn ymchwil ystadegol pellach. Yn nyfroedd yr Unol Daleithiau mae'r fflworeid naturiol yn amrywio o fymryn i 14 rhan mewn miliwn. Gyda dwr yn cynnwys rhagor nag 1·5 rhan m.m. y cafwyd tuedd i frychni. Mewn ardaloedd gydag 1 rhan m.m. yn y dwr, nid oedd fawr ddim brychni ond yr oedd 60 y cant yn llai na'r cyffredin o bydredd gyda 30 y cant o blant rhwng 12 a 14 oed heb bydredd o gwbl. Yn 1945 dechreuwyd arbrofi yn yr Unol Daleith- iau gydag ychwanegu hyd at 1 rhan m.m. i ddyfroedd oedd yn brin o fflworeid. Anfonwyd cynrychiolwyr o Brydain i'r Unol Daleithiau i astudio'r gwaith hwn ac yr oedd yr adroddiad1 a gyhoeddwyd ganddynt yn 1953 yn cymeradwyo arbrofi cyffelyb ym Mhrydain. Derbyniwyd bod chwe blynedd o astudiaethau ystadegol yn America yn brawf digonol o ddiogelwch ychwanegu fflworeid ar raddfa gyffelyb i ddwr yfed Prydeinwyr er fod arferion bwyta y rheini o bosibl yn wahanol. (Cofier fod fflworin i'w gael mewn bwydydd megis pysgod-ac mewn te.) Arolwg Bartlett-Cameron O fysg yr ychydig astudiaethau ar oedolion a wnaed yn yr Unol Daleithiau, rhoddir pwyslais gan y cynrychiolwyr o Brydaimar adroddiad yr