Genesis Peirianneg Trydan Darlith Agoriadol yr Athro WILLIAM GOSLING (Adran Peirianneg Drydanol, Coleg y Brifysgol, Abertawè) Paratoi dynion ar gyfer gwasanaeth yn yr urddau Eglwysig, y Gyfraith a Meddygaeth ydoedd prif swydd prifysgol y Canol Oesoedd. Bellach nid ydyw'r Brifysgol yn ei chyfyngu ei hun i'r math hwn o hyfforddiant ar gyfer galwedigaeth er na osodwyd mo'r elfen honno o'r neilltu o bell ffordd. Y mae paratoi myfyrwyr ar gyfer swyddi proffesiynol yn rhan bwysig o'n gwaith, a thros amser fe ychwanegwyd galwedigaethau eraill at y tair a nodwyd, ymysg y rhai y mae Peirianneg. Nid un alwedigaeth, na thestun arbennig, ydyw Peirianneg wrth reswm ond cymhleth o elfennau ac ymysg y rhain y mae fy maes i, sef Peirianneg Drydanol, hytrach yn newyddian. Ond er mor amlochrog ydyw credaf fod unoliaeth pendant yn perthyn i'r hyn a adwaenwn fel Peirianneg. Peirianneg ydyw gweithgarwch y sawl sy'n ceisio diwallu anghenion materol dynoliaeth, ac y mae'n llawer mwy na diddordeb gwyddonol mewn gwybodaeth er ei mwyn ei hun. Amlygwyd diddordeb o'r fath mewn trydan, trydan electrostatig, yn yr Oesoedd Cynnar ond ni wnaed ymdrech i ddefnyddio'r grym hwn er budd dynol hyd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Yn 1816 gwnaed ymdrech i ddefnyddio trydan i ddatrys problem ymarferol bwysig a chredaf y gellir nodi'r flwyddyn honno fel dechreuad peirianneg trydan. Cefndir a hynt y datblygiad hwnnw ydyw pwnc y ddarlith hon. Un o brif nodweddion gwareiddiad ydyw cadw cysylltiad â chyd-ddyn tros bellter. Ar un adeg rhaid oedd dibynnu ar redegwyr neu farchogion i gario negeseuon, neu ar ddulliau gweladwy megis yr heliograff a'r semaffôr. Uchafbwynt y datblygiadau hyn oedd semaffôr Chappe a ddaeth i fri tua diwedd y ddeunawfed ganrif ac a fu ar waith am gryn amser yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Yn y ddyfais hon yr oedd breichiau pren, tebyg i arwyddion rheilffordd, y gellid eu symud yn fecanyddol, a gwahanol gyfuniadau o'r breichiau yn cyfleu llythrennau'r wyddor. Gosodid y semaffôr ar ben twr, a chyda nifer o'r tyrrau hyn wedi eu gosod ar dir uchel o fewn gwelediad telescop i'w gilydd gellid trosglwyddo neges tros rai cannoedd o filltiroedd o fewn awr. Yr oedd hyn yn rhagori llawer ar y dulliau cario cyffredin, ond yn naturiol ni ellid trosglwyddo neges mewn niwl nac mewn glaw trwm. Yr oedd hyn yn wendid sylfaenol, ac i oresgyn yr anhawster cynlluniwyd y telegraff trydan ymarferol cyntaf yn 1816 gan Francis Ronalds, mab i fasnachwr yn ninas Llundain. Nid Ronalds oedd y cyntaf i feddwl am gynllun o'r fath. Rhydd y llyfr gwerthfawr History of the E/ectric Telegraph to 1837 gan J. J. Fahie (1884) restr faith o arloeswyr. Y cyntaf, fe ymddengys, oedd un C.M. yn ysgrifennu yn y Scot's Magaiine yn 1753. Ei gynllun ef oedd cael un wifren gogyfer â phob llythyren yn yr wyddor. Byàdai'r negeseuwr yn cysylltu peiriant trydan electrostatig â gwifren arbennig, ac ym mhen pellaf y wifren byddai darn ysgafn o bapur yn cael ei dynnu at y wifren honno (fel y bydd crib wedi ei rhwbio yn codi darnau mân o bapur) ac yn nodi'r llythyren ddewisol. Ni wyddwn pwy oedd C.M. ac nid ymddengys fod y telegraff hwn erioed wedi ei adeiladu er y gallai fod yn un hollol ymarferol. Y mae'r un peth yn wir am yr arloeswyr eraill. Wedi 1800 yr oedd cyflenwad newydd o drydan, sef batri Volta, at wasanaeth y dyfeisiwr. Un o nodweddion y trydan batri oedd y gallu i ddadelfennu dwr-pan lifai'r trydan trwy ddwy wifren a thrwy ddwr gwelid ffrwd o hidrogen ac o ocsigen yn codi oddi wrthynt, ac fe ellid defnyddio hyn i ddangos fod trydan yn llifo mewn gwifren. Cynlluniwyd nifer o delegraffau electrolytig ar yr egwyddor yma, gyda gwifren eto ar gyfer pob llythyren. Nifer y gwifrau, ac anhawster eu hynysu (neu eu cadw arwahân fel na fyddai cyswllt trydanol rhyngddynt) oedd gwendid pennaf y telegraff ac ni wnaethpwyd unrhyw ddefnydd ymarferol ohonynt. Diffyg arall oedd fod y telegraff electrolytig yn araf ei weithrediad.