Debygwn i D. Tecwyn Lloyd UN o'r pethau sydd bob amser yn fy nghyfareddu i mewn gwyddoniaeth yw'r patrwm, neu batrymau sydd, fe ymddengys, yn dod i'r amlwg fel yr ychwanegir at ein gwybodaeth o'r maes. Byddwn yn sôn am batrymau a ffurfiau mewn llenyddiaeth; patrymau a ffurfiau allanol megis soned, ysgrif, nofel ac ati a phatrymau neu foddau megis clasuraeth neu ramantiaeth. Ar un adeg, tueddid i edrych ar y pethau hyn fel ffurfiau a moddau pur bendant a digyfnewid, yn yr un modd ag yr ystyrrid 'deddfau' ffisegol Newton yr unig ddeddfau cyn dyddiau hafaliadau Maxwell a pherthnasedd Einstein. Bellach, mae holl bwnc ffurf a deddf lenyddol yn beth llawer mwy hylif nag y bu-hyd yn oed mewn beirniadaethau eisteddfodol Y duedd bellach ers tro yw ystyried pob ffenomen llenyddol neu artistig fel cyfundrefn o 'ddeddfau' mewnol ynddo'i hunan. Fe ddichon fod hyn yn gyd- ddatblygiad neu gyfochredd llenyddol i'r hyn a ddigwyddodd mewn ffiseg er, dyweder, 1880. Yr un pryd, credaf fod un gwahaniaeth go bwysig rhwng yr hyn sy'n digwydd mewn llenydd- iaeth rhagor mewn gwyddoniaeth. Yn y naill, yr hyn a geir o gyfnod i gyfnod yw amrywiad ar nifer arbennig o foddau neu themau; rhwng ffurfiolaeth 'glasurol' yn un pen, dyweder, a solipsiaeth unigol- yddol yn y pen arall. Mewn gwyddoniaeth, ar y llaw arall, fe ddigwydd newid esgynnol sydd, yn ei gwrs, yn goleddfu'r proses epistemegol ei hunan. Mater Er enghraifft, dyna'r ddamcaniaeth ynghylch mater. Gan mlynedd yn ôl, ystyrrid mater yn yr un ffordd, i bob pwrpas, ag yr ystyrrid ef gan Democritus, sef fel corff o atomau. Er lleied y rheini, yr oeddynt yn solet anholltadwy a chan- ddynt bwysau. Ni ellid eu creu na'u dinistrio ac, o angenrheidrwydd, yr oedd eu cyfanswm yn y bydysawd canfyddadwy yn sefydlog. Heb ychwanegu at faint y bydysawd hwnnw, ni ellid ychwanegu at eu nifer. Ond o ddiwedd y ganrif ddiwethaf hyd yn awr, am resymau nad oes angen eu nodi i ddarllenwyr Y GWYDDONYDD, bu newid SAFBWYNT PERSONOL AR WYDDONIAETH HEDDIW llwyr yn y syniadau hyn a, bellach, nid peth solet yw'r bwrdd a'r teiper hwn sydd o 'mlaen ond cwmwl dwysach o egnion gronynnol na'r awyr a'r goleuni sydd uwch eu pennau. Ac fe ellir peri i'r egnïon hynny drawsgyweirio, bod a pheidio â bod. Beth bynnag fydd y newid nesaf a ddigwydd yn ein syniad o natur mater, ni allwn fyth, hyd y gwelaf, fynd yn ôl i'r syniad Democtritaidd a Daltonaidd canys ni all syniad o atom felly fod yn ddim mwy, bellach, na phlisg o syniad. Hyn a olygaf wrth alw'r peth yn newid esgynnol yn hytrach nag amrywiad. Yr Un a'r Llawer Yr un pryd eto, fe ymddengys hefyd fod amrywio mewn gwyddoniaeth ac enghraifft o hynny, allwn feddwl, yw pwnc yr Un a'r Llawer. I Thales, yr oedd mater yn beth unrhywiol, dwr oedd popeth yn y pendraw. Lluosogwyd yr elfennau cynseiliol wedyn i bedair, sef dwr, tân, daear ac awyr. Erbyn dyddiau'r alcemyddion, bu lluosogi mwy fyth ac erbyn fy nyddiau ysgol i yr oedd, os iawn y cofiaf, rhyw 92 o elfennau gwahanol yn y bydysawd yn amrywio o hidrogen i wraniwm 238. Gyda darganfod natur egniyddol mater, dychwelwyd i'r syniad Groegaidd fod undod (deudod, yn wir, sef proton ac electron) yn y bydysawd. Ond bellach, nid mater solet oedd mater; bu cyfnewidiad ansoddol gyda'r darganfydd- iad. Eithr ar ôl hyn, drachefn, a hyd yn awr, bu lluosogi unwaith eto ond lluosogi gronynnau y tro hwn. Ar ôl y ddau a enwyd, cafwyd niwtronau, positronau, y neutrino, mesonau, pionau, mwonau ac ati ac erbyn hyn mae tabl y gronynnau sylfaenol yn cynnwys ymhell dros hanner cant ohonynt- rhai od iawn sydd, os deallaf yn iawn, yn awgrymu y bydd yn rhaid inni ail ystyried holl natur y bydysawd yn fframwaith yr hyn a alwn yn amser. Wn i ddim am ba hyd y pery'r lluosogi hwn; dichon fod llawer mwy o ronynnau sylfaenol yn y tabl newydd nag oedd o elfennau atomig yn yr hen un. Fe ddichon hefyd, ar y llaw arall, nad oes llawer eto i'w darganfod tu mewn i'r ffram