Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

COLEG PRIFYSGOL CYMRU, ABERYSTWYTH UN O GOLEGAU PRIFYSGOL CYMRU Prifathro: THOMAS PARRY, M.A., D.LITT., F.B.A. CYRSIAU GRADD Darperir cyrsiau yng nghyfadrannau'r Celfyddydau, Gwyddoniaeth, Gwyddor Gwlad, y Gyfraith, Cerddoriaeth, a Gwybodau Economaidd a Chymdeithasol. Mae'r rhan fwyaf o'r Adrannau Gwyddoniaeth yn awr mewn adeiladau modern, digonol eu hoffer a'u celfi. CYRSIAU DIPLOMA Diplomâu mewn Addysg, Gwyddor Gwlad, Ystadegau, Ffiseg yr Awyrgylch, Ffiseg Electronig, Mathemateg Bur, Micropalaeontoleg, Palaeograffeg, Cyfraith a Chydberthynas y Gwledydd, Addysg Ddwyieithog. YMCHWIL Darperir ar gyfer graddau uwch ym mhob pwnc. Yn yr holl adrannau Gwyddoniaeth Bur a Gwyddor Gwlad mae ysgolion ymchwil grymus, a gynhelir gan grantiau o ffynonellau cenedlaethol a phreifat. LLYFRGELLOEDD Yn Llyfrgell y Coleg mae dros 175,000 o gyfrolau rhwymedig, gan gynnwys casgliadau arbenigol. Ceir cyfleusterau digymar ar gyfer pob pwnc yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth. YSGOLORIA ETHA U Dyfernir nifer fawr o ysgoloriaethau ar ganlyniadau arholiad a gynhelir ym mis Ionawr. Nid yw dal un o'r ysgoloriaethau hyn yn lleihau dim ar y grant y bo myfyriwr yn ei dderbyn oddi wrth awdurdod addysg lleol. NEUADDAU PRESWYL Mae gan y Coleg bump neuadd i ddynion (yn un ohonynt, a orffennwyd yn 1960, ceir lie i 250) a phump neuadd i ferched (gan gynnwys neuaddau newydd i 400 o ferched). PROSPECTUS Gellir cael Prospectus y Coleg a gwybodaeth bellach oddi wrth y Cofrestrydd. COLEG PRIFYSGOL GOGLEDD CYMRU, BANGOR UN O GOLEGAU PRIFYSGOL CYMRU Prifathro: CHARLES EVANS, M.A., D.SC., f.r.c.s. Darperir cyrsiau gradd Prifysgol Cymru yng Nghyfadrannau'r Celfyddydau, Gwyddon- iaeth, Diwinyddiaeth, a Cherddoriaeth. Mae'r cyfadrannau'n cynnwys testunau arferol curricula prifysgol, a cheir yn ychwanegol, ddarpariaeth arbennig mewn Jeithyddiaeth, Archaeoleg, Seicoleg, Peirianneg Electronig, Technoleg Defnyddiau, Bioleg y Môr, Cefnforeg, Coedwigaeth, ac Amaethyddiaeth. Rhoddir nifer o ysgoloriaethau bob blwyddyn mewn canlyniad i arholiadau a gynhelir yn yr ysgolion ym mis Mawrth. Y mae gan y Coleg dair Neuadd Breswyl â lle i chwe chant o fyfyrwyr; adeiledir neuaddau ychwanegol ar hyn o bryd. Gellir cael manylion pellach a chopi o Brospectws y Coleg oddi wrth y Cofrestrydd.