Golygyddol AR benrhyn Portmeirion yr ysgrifennaf y nodiadau hyn. Mi fentra i na feddyliodd Clough Williams-Ellis, tra'n cynllunio a chreu y lIe rhyfedd hwn, y byddai'n gartref i gant o wyddonwyr o bedair ar ddeg o wledydd, fel y bu yn ystod y deg diwrnod olaf 'ma. Buom yma yn cynnal Admnced Study Institute dan nawdd NATO, corff sydd fel rheol yn gofalu am arfogaeth a diogelwch y Gorllewin. Ond yn awr NATO a'i gwnaeth yn bosibl i wyddonwyr o'r Gorllewin a'r Dwyrain, naill ochr i'r llen haearn, i gyfarfod a thrafod y datblygiadau diweddaraf mewn bioleg ymbelydrol. Mae cemegwyr, ffisegwyr, biolegwyr a meddygon yn ymhél â'r maes yma, ac yn wir bwriad pennaf y cyd-gyfarfyddiad oedd i geisio cael rhagor o gyfathrebu rhyngddynt. Cred llawer mai rhwng gwyddonwyr a lleygwyr yn unig mae problemau cyfathrebu, ond dyma un arbenigaeth gyfyng lle mae gwahanol ieithwedd yr amrywiol ddosbarthiadau yn ei gwneud yn anodd i'r maes ddatblygu. Fe wyr pawb ohonom fod effeithiau'r pelydrau niwclear yn niweidiol i'r corff, ond hyd yma, ni chafwyd unrhyw ddull o amddiffyn pobl, anifeiliaid na phlanhigion rhagddynt, na dealltwriaeth chwaith o'r union ffordd y trosglwyddant eu hegni i'r corff ac achosi niwed yno. Er hynny, nid oedd prinder geiriau i geisio esbonio'i heffaith. Creodd papur yr Athro R. H. Haynes o California gryn gyffro yn y wasg boblogaidd. Y dybiaeth gyffredinol yw bod yr effaith niweidiol ar y genedau, a drosglwydda nodweddion abnormal i genhedlaethau'r dyfodol, yn broses na ellir ei ddadwneud. Dyma'n wir sail i'r dadleuon moesol newydd yn erbyn y bomiau niwclear. Ni chafwyd erioed o'r blaen erfyn sydd yn lladd plant nas genir am genedlaethau eto. Ond ym marn Haynes mae modd i'r cemegolyn a niweidir ac sydd yn gyfrifol am y niwed etifeddol, sef DNA, i wella ei hun gydag amser. Awgrymodd hefyd bod dulliau o fewn ein cyrraedd i gyflymu'r broses. Efallai felly nad yw'r baich genetegol o'r ffrwydriadau niwclear arbrofol cymaint ag a dybiwyd gennym. Manwe cysylltiol Ond os oedd peth cysur yn narlith Haynes, go dywyll oedd oblygiadau y darlithiau gan Endre Balazs o Boston a M. B. Lamberts o Groningen. Dangosant fel y gall dognau hynod fach o'r pelydrau achosi niwed sylweddol i'r manwe cysylltiol yn y corff. Gwelsom ar unwaith efallai ein bod wedi rhoi gormod o bwyslais ar effeithiau'r pelydrau ar y celloedd ac wedi anghofio bod yr ardaloedd rhyngddynt llawn mor bwysig, os nad yn bwysicach mewn rhai ystyron. Gwelir dirywiad yn y manwe cysylltiol fel y byddwn yn heneiddio. Gwyddom i gyd fel mae'r croen yn colli'i ystwythder ac yn crebachu fel yr heneiddiwn. Dyma hefyd yr union effeithiau a ddilyna ddognau bach iawn o'r pelydrau. Yn wir mae'r broses o heneiddio yn cyflymu yn arw o dan eu dylanwad. Roedd gennyf innau ddiddordeb arbennig yn y pwnc yma, oherwydd trwy gydweithrediad â Balazs a K. S. Dodgson, rydym yng Nghaerdydd yn ceisio datblygu dulliau o amddiffyn y rhannau hyn o'r corff pe deuént i gysylltiad â'r pelydrau. I ryw raddau buom yn llwyddiannus, ond defnydd cyfyngedig sydd, ar hyn o bryd, i'r dull o sianelu'r ynni oddi wrth y manwe, techneg y buom yn ei ddisgrifio am y tro cyntaf yn y cyfarfodydd hyn. Portmeirion Profiad rhyfedd iawn i mi yw cyfarfod yma yng Nghymru â nifer o'r bobl y bûm yn eu gweld droeon mewn rhannau eraill o'r byd. Cymro arall, sef Ronald Mason, gynt o Aberfan, ac sydd yn Sheffield yn awr, sydd yn gyfrifol gyda mi am drefnu'r cyfarfodydd. Nid oedd dim anhawster i'w argyhoeddi mai yma yng Nghymru y dylid cynnal y cyfarfodydd. Ac erbyn hyn, ar ddiwedd y cwrs, gallwn deimlo'n eithriadol o falch mai i Bortmeirion y daethom. Mae yma ddigon o amrywiaeth i