Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Agweddau Cemegol ar Weled R. A. MORTON Y mae yr Athro R. A. Morton, Ph.D., D.Sc. (Liv.), Hon. D.Sc. (Coimbrä), F.R.I.C, F.R.S., yn un o'r biocemegwyr enwocaf yn y byd a chyfrannodd yn helaeth iawn i ddarganfyddiad ac Vn deal! o'r fitaminau A, D, ac E. Ers 1944 bu'n Athro Johnston mewn Biocemeg ym Mhrifysgol Lerpwl, wedi gyrfa eithriadol ddisglair a wobrwywyd yn fuan yn 1930, pan enillodd Fedal Meldola. Cyflwynir hon i'r cemegydd a gyflawnodd yr ymchwil gwreiddiol gorau cyn bod yn 30 mlwydd oed. Nid oes bron yr un swydd yng ngweinyddiaeth biocemeg yn y wlad yma na fu ynglŷn â hi. Bu yn Gadeirydd y Gymdeithas Fiocemeg, Cadeirydd Pwyllgor Ymgynghorol y Bwrdd Marchnata Wyau, Cadeirydd y Pwyllgor sydd yn dedfrydu pa bethau a ellir eu ychwanegu at ein bwydydd, yn aelod o Fwrdd Golygyddol y Gymdeithas Fiocemeg am flynyddoedd lawer, i enwi dim ond rhai o'i ddyletswyddau. Cafodd gydnabydd- iaeth ryngwladol am ei waith hefyd, a Phrifysgolion Ohio, Wisconsin, a St. Louis yw dim ond rhai o'r mannau a'i gwahoddodd i fod yn Brifathro Gwadd. Gellir parhau i restru ei ddiddordebau mewn addysg a gwyddoniaeth, ond croesawn ei gyfraniad i Y GWYDDONYDD, yn arbennig, oherwydd ei fod yn un o Gymry Cymraeg Lerpwl. Cafodd ei eni a'i UN o'r gwyddorau mwyaf cymhleth, ond odid, yw gwyddor y llygad, neu wyddor gweled. Mae i hon nifer o wahanol agweddau—ffisegol, ífìsiolegol, seicolegol-ac oherwydd yr amrywiaeth hwn ni alí nemor neb fod yn drwyadl gyfarwydd â mwy nag un rhan o'r cyfanswm gwybodaeth a enillwyd gan ymchwilwyr yn y gwahanol feysydd hyn. Gellir rhannu'r proses o weled i o leiaf bedair rhan. Yn gyntaf, y proses optegol, sef bod y goleuni a lifa i mewn i'r llygad oddi wrth y gwrth- rych yr edrychir arno yn ffurfio delwedd o'r gwrthrych ar y sgrîn sydd oddi mewn i gefn y llygad, mwy neu lai fel y gwna'r goleuni mewn camera. Yn ail, trawsnewid y ddelwedd hon i gyfres o gryndodau neu ysgogiadau trydanol, sydd yn cerdded yn gyflym ar hyd y nerfau sy'n cydio'r llygaid â'r ymennydd. Yn drydydd, derbyn yr ysgogiadau hyn yn yr ymennydd a'u dehongli fel 'darlun' o'r gwrthrych. Prosesau cyflym yw'r tri hyn, ac nid oes ond cyfran fechan o eiliad rhwng fagu yn Lerpwl ac y mae yn weithgar mewn capel Cymraeg ac ymhlith y Gymdeithas Gymraeg yno. Cafwyd ymateb parod Vn cais am gyfraniad i Y GWYDDONYDD a phrin y gallai neb arall roi i ni ddisgrifiad mor gynhwysfawr o'r wyddor o weled. bod y goleuni yn cyrraedd y llygad a bod yr ymennydd yn dehongli'r darlun. Eithr yn gymysg â'r proses trydanol yn y llygad mae hefyd gyfnewid- iadau cemegol sydd o bwys a diddordeb, ac â'r rhai hyn, sy'n gymharol araf, y bydd â fynnom ni cyn diwedd yr ysgrif hon. Y symlaf o'r prosesau a enwyd yw'r cyntaf, sef ffurfio'r ddelwedd ar gefn y llygad, ac erbyn hyn nid oes fawr dirgelwch ynglyn â hwn. I'r gwrth- wyneb, erys manylion yr ail a'r trydydd yn anghyflawn a dirgel, er bod sylfeini sicr wedi eu gosod ar gyfer gweithwyr y dyfodol. Ond bu'r proses cemegol yn faes ymchwil ysbeidiol am gyfnod maith, ac er ei gymhlethtod daeth prif linellau hwn yn weddol glir erbyn hyn. Ystyriwn i ddechrau rai ffeithiau syml ynglyn â'r llygad, lawer ohonynt yn rhan o'n profiad beunydd- iol. Dywedwyd bod y llygad i'w debygu i gamera. Mae ynddo lens, megis lens camera, ond yn llawer mwy cymhleth na lens yr un camera a wnaed