Creigiau Cymru DOUGLAS A. BASSETT ODDI AR YR unfed ganrif ar bymtheg, bu'n agos i dair mil o ddaearegwyr yn astudio ac ymchwilio dirgelion creigiau a mwynau Cymru. Ysgrifennwyd dros bum mil o erthyglau, llyfrau, a chyfrolau, a pharatowyd yn agos i ddwy fi1 o fapiau ar Gymru a'i rhanbarthau. Y mae dau reswm dros y diddor- deb eang yma yng nghreigiau ein gwlad: yn gyntaf, oherwydd bod Cymru yn gyfoethog iawn mewn adnoddau naturiol, ac yn ail, am fod ynddi rai o greigiau hynaf y byd sydd yn cynnwys gweddillion anifeiliaid a phlanhigion cyntefig, sef ffosiliaid neu gloddolion. Yng Nghymru yr astudiwyd y rhain o ddifrif am y tro cyntaf, gan ddysgu llawer i ni am fywyd cyntefig. Ystyriwn yn awr y ddau reswm yn fanylach. Cyfoeth naturiol Y mae dyn wedi defnyddio glo yng Nghymru oddi ar amser y Rhufeiniaid, ond John Leland oedd y cyntaf i gofnodi ffeithiau ynglýn â'i nodweddion a'i ddosbarthiad, a hynny yn ystod ei daith drwy Gymru yn y blynyddoedd 1536-39. Yn nechrau'r ail ganrif ar bymtheg yr oedd gwybodaeth gyffred- inol am ddosbarthiad glo a chalchfaen yn brin iawn, ac oherwydd hynny penderfynodd George Owen, yr hynafiaethydd enwog o Sir Benfro, ddilyn brig y calchfaen drwy ddeheudir Cymru o Sir Benfro i Sir Fynwy. Dangosodd ei fod yn gorwedd yn drefnus mewn haen, ac uwch ei phen haen o lo. Pwrpas pennaf Owen ydoedd: To guide partes to seake the lymestone, whereas yett it lyeth hid, and save labours to others in seakinge it where there is no possibilitie to finde it. Yr oedd mwy na dwy ganrif o flaen ei amser, oherwydd dyma'n union bwrpas y Geological Survey a ffurfiwyd gan y Llywodraeth yn 1835- i wneud archwiliad cyfundrefnol o holl greigiau ein gwlad er mwyn cynorthwyo y diwydiant mwyn- gloddio, amaethyddiaeth, a'r gwaith o wneud ffyrdd a chamlesi hefyd. Dechreuwyd y gwaith yn ardaloedd glo Cymru yn 1840 gan bedwar swyddog yn unig. Erbyn 1866, pwysleisiodd Comisiwn Brenhinol bwysigrwydd gwaith o'r fath i sefyllfa economaidd y wlad, ac oherwydd hynny ehangwyd y gwaith. 'R oedd yn bosibl felly i'r Geological Survey, ar gais yr Arglwydd Abertawe, ddod yn ôl i ardaloedd glo Cymru i wneud adolygiad cynhwysfawr ac i gyhoeddi cyfres o draethodau a mapiau daearegol addas i'r diwydiannau a oedd y pryd hwnnw yn datblygu'n gyflym. Yr oedd gwybodaeth am osodiad y creigiau yn bwysig er mwyn darganfod y glo, ond dysgwyd llawer hefyd am ei ansawdd. Dadansoddwyd glo yn gemegol am y tro cyntaf gan un o swyddogion y Geological Survey yn nechrau'r ganrif, ond, oherwydd pwysigrwydd y gwaith, sefydlwyd corff- oraeth arbennig at y pwrpas yn 1930, sef y Fuel Research Coal Survey. Gellir cymryd enghreifftiau tebyg o bwysigrwydd y math hwn o archwiliad gyda diwydiannau eraill; er enghraifft, gyda mwynau plwm a chopor, a llechi, ond mae patrwm eu datblygiad yn debyg. Pan âi dyn ati gyntaf i drin defnydd naturiol, yr oedd ei gamau yn ddamweiniol ac anwyddonol; ond fel y tyfai anturiaeth fach deuluol yn ddiwyd- iant mwy, a'r adnoddau arwynebol yn cael eu dihysbyddu, rhaid oedd wrth ragor o wybodaeth am y cronfeydd anweledig. Yr unig ffordd i broffwydo maint a lleoliad y cronfeydd yw drwy astudiaeth gyfundrefnol gynhwysfawr wyddonol. Er mwyn chwilio yn llwyddiannus am wythiennau o fwyn yn y ddaear, rhaid cael darlun cyflawn o'r creigiau o dan y tir, a deall meintoniaeth neu ffurfiad yr haenau. Yn nyddiau cynnar gweithio mwynau yr oedd y daearegwr yn dibynnu yn fawr iawn ar ei forthwyl a'i gwmpas llaw, ond erbyn heddiw, i gael gwybodaeth sicr o rediad y creigiau tanddaearol, rhaid tyllu yn ddwfn gyda dril diemwnt. Rhaid hefyd ddyfeisio offerynnau sydd yn mesur nodweddion y gwahanol greigiau, fel y magnetometer, y seismograff, a'r cyfrifydd geiger. Y mae y rhain yn galluogi'r daearegwyr i 'weld' i berfeddion y ddaear. Ond nid creigiau â gwerth masnachol iddynt yn unig yw creigiau Cymru, ac nid daearegwyr econ- omaidd yn unig sydd wedi eu hastudio. Mae llu o arbenigwyr wedi ymddiddori ym mwynau, creigiau, a ffosiliaid Cymru oherwydd eu diddordeb cyn- henid. Ond mewn gwirionedd mae yn amhosibl gwahaniaethu rhwng daeareg economaidd a daeareg academaidd. Fel mewn meysydd gwyddonol eraill, mae rhai o'r darganfyddiadau mwyaf academaidd wedi bod o'r defnydd ymarferol mwyaf i'r arbenig- wyr economaidd. Trown felly at reswm hanesyddol ac academaidd dros boblogrwydd creigiau Cambria. Hanes creigiau Cymru Yr ail reswm yw fod rhai o greigiau hynaf y byd i gynnwys ffosiliaid wedi eu hastudio yn gyfun-