Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SYLWADAU DAVID YORWERTH DAVIES* Y Llywodraeth a Gwyddoniaeth MAE'R ymrafael ynglyn â rhan y Llywodraeth ym myd gwyddoniaeth yn parhau, nid bob amser yn agored efallai, ond heb eithriad yn chwerw iawn. Bron na ellir dweud mai yr un hen wrthdaro rhwng rheolaeth ac anturiaeth bersonol sydd yma yn y bôn; a ddylai'r Llywodraeth feddu mwy o reolaeth dros waith ymchwil gwyddonol ? Mewn cinio yn ddiweddar clywais yr Arglwydd Hailsham, y Gweinidog dros Wyddoniaeth ar hyn o bryd, yn datgan gyda balchder fod ei gyfeillion a'i elynion, y naill fel y llall, wedi methu â dylan- wadu arno i greu Gweinyddiaeth Wyddoniaeth 'anferth, gostus, a da-i-ddim'. Wrth gwrs, fe gred rhai nad yw'r arglwydd anrhydeddus yn gwneud fawr mwy na llywyddu dros anhrefn truenus. Dywedodd unwaith ei fod yn gweld ei ran ef yn debyg i un bydwraig: gall bydwraig, wrth gwrs, wneud ei gorau i sicrhau genedigaeth plentyn, ond ni all hi wneud dim ynglyn â'r math o blentyn a enir nac ychwaith am y nifer a genhedlir. Yn wir ni all hi, hyd yn oed ddeddfu fod yn rhaid iddynt fod yn gyfreithlon. Mae llawer yn teimlo'r dyddiau hyn fod gormod o ynni yn cael ei wastraffu yn yr ymrafael rhwng athrawon a'i gilydd am arian at waith ymchwil, fod yr un gwaith ymchwil yn cael ei wneud gan wahanol sefydliadau diwyd- iannol, a bod llawer iawn o ymchwil yn cael ei rwystro'n gyfan gwbl gan y pwyllgorgwn sy'n ei wfftian. Yn wir y mae'n ffaith arwyddocaol, o'r pum sefydliad a ddaw o dan adain yr Arglwydd Hailsham, mai yr Awdurdod Ynni Atomig yn unig sydd yn ddibynnol arno am arian. Y mae'r pedwar arall, Adran Ymchwil Wyddonol a Diwydiannol y Llywodraeth (D.S.I.R.), y Cyngor Ymchwil Medd- ygol (M.R.C.), y Cyngor Ymchwil Amaethyddol, a'r Bwrdd Diogelu Natur, yn gofyn am arian yn annibynnol, ac yn mynd â'u ceisiadau yn union- gyrchol at y Trysorlys. Nid yw'n bosibl felly fod gan y Gweinidog lawer o reolaeth ariannol drostynt, ac wedi'r cyfan dyna'r rheolaeth sy'n cyfrif. Testun damcaniaeth yn awr yw'r cwestiwn a gesglir ynghyd yr holl bwyllgorau, sydd ar hyn o bryd yn ceisio rheoli gwaith ymchwil, o dan yr un awdurdod; unrhyw ddiwrnod 'nawr fe fydd pwyll- gor arall eto yn cyflwyno adroddiad i'r Llywodraeth ar yr un cwestiwn. Yn y cyfamser â'r si ar led fod Gweinyddiaeth Wyddoniaeth i'w ffurfio, ar waethaf protestiadau'r Arglwydd Hailsham, ac mai'r Wein- Gweler td. 44. yddiaeth a fydd yn gyfrifol am holl gyllid sefyd- liadau ymchwil y Llywodraeth ac am lawer agwedd arall yn ogystal. Maen' hw'n dweud (pwy bynnag ydyn' hw'!) mai'r pennaeth fydd Syr Solly Zuckerman, cynghorwr gwyddonol y Weinyddiaeth Amddiffyn ar hyn o bryd; yn wir eir mor bell â dweud mai ef, efallai, fel yr Arglwydd Zuckerman, a fydd Gweinidog Gwyddoniaeth cyntaf Prydain. Ymladd â'r Smog Marwol Go brin y caiff ail ddyfodiad y smog dinasol y gaeaf hwn unrhyw ddylanwad dramatig ar ymchwil i lygriad yr awyr. Tipyn yn amheus yw adrannau ymchwil y Llywodraeth, 0 leiaf, o'r gwahanol gynlluniau i wasgar y niwl naturiol fel y mae'n crynhoi. Ac er nad oedd lefel y budreddi yn ystod smog dechrau Rhagfyr lawer yn wahanol i'r hyn oedd yn smog mawr 1952, mae'n debyg mai dal ati a wneir i gyfeirio pob ymdrech at ehangu-yn raddol ond yn sicr­yr ardaloedd hynny lle llosgir tanwydd di-fwg. Cydnabyddir yn gyffredinol bellach mai ychydig werth sydd i'r dulliau o wasgar niwl naturíol-fe1 y dangosodd arbrofion FIDO yn ystod y rhyfel- a'r rheiny'n annioddefol o gostus. Anelir felly at reoli'r defnyddiau halogedig hynny sydd yn troi niwl meddal yn smog sur ac-yn llawer rhy aml­ marwol. Ond rhydd y gost uchel derfynau hyd yn oed ar yr ymchwil hwn. Derbynnir yn gyffredinol yn awr fod y dull a ddefnyddir mewn dwy orsaf bwer yn Llundain i dynnu'r sylffur deuocsid (sef y nwy peryglus) allan o'r mwg mor ddrud fel na ellir ystyried ei fabwys- iadu'n gyffredinol. Canolbwyntir pob ymchwil felly ar geisio didoli'r gymysgedd sylffur o'r tanwydd, ac yn y cyfamser eir ati i adeiladu cyrn simneiau aruchel i'r pwerdai a'u cyffelyb i wasgaru'r mwg mor uchel ag sydd bosibl i atal y budreddi rhag ymgasglu'n haen dew beryglus ar y ddaear. Mewn achosion eraill hefyd, rhoir y pwyslais ar atal y budreddi yn hytrach nag ar wella'r sefyllfa ar ôl iddynt gyrraedd yr awyr. Er enghraifft, ychwanega mwg ceir a lorïau fwyfwy at lygriad yr awyr, ond methodd Adran Ymchwil Wyddonol a Diwydiannol (D.S.I.R.) â dod o hyd i unrhyw ddull o buro'r mwg. Yn hytrach bu'n rhaid iddynt ganolbwyntio ar ddulliau i ddarganfod bod gormodedd o fwg, gan ddibynnu ar y gyfraith wedyn i bennu dedfryd a fydd yn sicrhau na ddigwydd eto. Ymddengys yn wir na all unrhyw wyrth wydd- onol lanhau'r awyr, ond rhaid dibynnu'n hytrach ar symudiadau araf cyfraith gwlad.