O'r foment honno (sef y ddarlith a'r pamffledyn) y gwnaeth Henry Richard ei farc fel llefarydd dros ei gydwladwyr, ac fel amddiffynnydd iddynt.36 Roedd Henry Richard wedi profi cynhesrwydd ei gyd Ymneilltuwyr tuag ato yng Nghynadledd Cymdeithas Rhyddhad Crefydd yn Aberaeron yn 1865. Yn y Cynhadledd honno galwodd Edward Miall sylw ar aneffeithlonrwydd yr Aelod Seneddol Syr Thomas Lloyd.37 Yr oedd yn wlanen o ddyn, a theimlai Miall y dylid ei ddisodli a rhoddi cyfle i un o fechgyn Tregaron cynrychioli yn Nhy'r Cyffredin.38 Cymeradwyodd y dorf y syniad a phlesiwyd Henry Richard yn fawr. Disgwyliai am y gwahoddiad. Ni ddaeth ac yr oedd yn ddigon call i dynnu ei enw yn 61 rhag i'r ymgeisydd Rhyddfrydol golli'r sedd.39 Dyna fyddai wedi digwydd. Ond ni fu'r mawrfrydigrwydd hyn yn golled o gwbl i'r Gweinidog Ymneilltuol. A phan gafodd Bwrdeistref Merthyr Tudful gyfle i gael Aelod Seneddol arall oherwydd i'r etholwyr gynyddu o 1,387 i 14,477, fe gafodd ef ei enwebu gan ei gyd Ymneilltuwyr. Daeth ef a'i briod Augusta Matilda Richard i wleidydda yn yr etholaeth gan aros ar aelwyd David Davies (1821-1884), Maesffynnon, Aberdar, gwr a elwid yn ddiweddarach yn Gladstone Cymru.40 Bu cyfarfodydd llawn tan trwy bentrefi'r etholaeth, a chafodd Henry Richard fuddugoliaeth ysgubol.41 36 Ibid. 37 Carey Jones, 1988, 21. 38 Am Syr Thomas Lloyd, gweler John Bateman, The Great Landowners of Great Britain and Ireland (pedwerydd argraffiad, Llundain, 1993), Yr oedd Syr Thomas Lloyd Bronwydd yn perchen dwy fil o aceri yng Ngheredigion a pum mil, saith cant o aceri yn y siroedd cyfagos. Ef oedd Aelod Seneddol Bwrdeistrefi Ceredigion yn 1868. 39 Mae'n amlwg na fyddai y Rhydfrydwr Evan Matthew Richards wedi ennill Ceredigion yn 1868 onibai am nawdd teulu Prysiaid Gogerddan. Yn wir yn Etholiad Cyffredinol, 1874 collodd y sedd i'r ymgeisydd Toriaidd, T. E. Lloyd, Coedmor. Ieuan Gwynedd Jones, 'Cardiganshire Politics in the Mid-Nineteenth Century', Ceredigion, V (1964), 31-6. Am y Prysiaid, gweler David Jenkins, 'The Pryse Family of Gogerddan', Cylchgrawn y Uyfrgell Genedlaethol, 111 (1953-4). 40 W. R. Lambert, Drink and Sobriety in Victorian Wales cl820-cl895, (Caerdydd, 1983), 182. 41 Ceir dau baragraff gwirioneddol ddiddorol gan un o blant y fro, Gwyn A. Williams, am gefndir Etholiad 1868. Oherwydd fod Dr Thomas Price, prif 'fixer' y Blaid Rhyddfrydol yn cefnogi Richard Fothergill, a phwysau cynyddol mudiad Siartiaeth yn galw am fwy o hawliau, dywed yr Athro Gwyn A. Williams fel hyn; 'Dechreuodd pwyllgor etholiad y Rhyddfrydwyr ym Merthyr boeni'n wirioneddol. Pedwar gweinidog oedd ei ysgrifenyddion, un yn fedyddiwr a'r gweddill yn Undodwyr Undodwyr a oedd yn adfer eu hen dradoddiad radicalaidd. Roedd dim llai na phedwar ugain ac un o gapeli anghydffurfiol yn gysylltiedig a'r pwyllgor ac, ar 61 trafodaeth unigol, penderfynwyd mai mentro fyddai raid. Dyma ddanfon am ddieithryn llwyr, dyn o'r tu allan heb nag arian na phrofiad seneddol, dyn a oedd ar y pryd yn ddiarhebol am ei Cymreictod a'i eithafiaeth Anghydffurfiol, dyn o fri tebyg i eiddo Keir Hardie neu Niclas y Glais, Aneurin Bevan, Tony Benn neu Ken Livingstone blynyddoedd diweddar. Henry Richard oedd y dyn hwnnw.' Gwyn A. Williams, Heddwch a Grym: Henry Richard Radical I'n Hamser Ni (Caerdydd, 1988), 2; Ieuan Gwynedd Jones, 'The Election of 1865 and 1868 in Wales with special reference to Cardiganshire and Merthyr Tydfil', Trafodion Anrhydeddus Cymdeithas y Cymmrodorion, 1964.