Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

LLOFRUDDIAETH LLWYD AP IWAN ADRODDIAD LLYGAD-DYST gan ANN PARRY OWEN, B.A., Ph.D. Cyflwynir yma gopi o lythyr a ysgrifennwyd gan Robert Roberts o Nant y Pysgod yn y Wladfa ym mis Ionawr 1910 at ei fam a'i dad, Mr. David Roberts a Mrs. Ann Roberts, Foelas House, Capel Garmon, yn adrodd hanes llofruddio'r arloeswr mawr Llwyd ap Iwan, mab y Parchedig Michael D. Jones o'r Bala.1 Ymfudodd Robert, neu Bob fel yr adwaenid ef, i'r Wladfa gyda'r Hit ymfud- wyr o'r ardal ar ddechrau'r ganrif. Yno fe'i cyflogwyd fel clerc gan Llwyd ap Iwan a oedd wedi ei benodi yn arolygydd ar 'Cooperative store' yn Nant y Pysgod; yr oedd y st6r hon yn perthyn i'r C.M.C., Cwmni Masnachol y Camwy (Chubut Mercantile Company), y cyfeirir ato ar ddiwedd y Ilythyr. Ar ddiwedd prynhawn Mercher Rhafgyr 29ain, 1909, paratoai Robert a'i bartner D. O. Williams at amser cau; yr oedd Mr. Llwyd ap Iwan eisoes wedi mynd i'r t £ i gael ei swper. Ar 61 iddynt weini ar ambell gwsmer, daeth dyn i mewn a holi yn Saesneg am daclau ceffylau ac ati; yna ymunodd dyn arall ag ef, a dyma'r ddau yn gofyn am gael gweld Mr. ap Iwan. Aeth Robert i'r ty i'w nôl. Ar 61 dychwelyd i'r stor, dyma'r dyn cyntaf, a gyfeiriai ato'i hun fel 'Jones', yn tynnu gwn allan ac yn gofyn i Llwyd ap Iwan drosglwyddo'r agoriadau iddo. Rhybuddiodd hwnnw mai ychydig iawn o bres oedd yno ar y pryd, ond ni chredwyd hynny, ac aeth un ohonynt ag ef i gefn y stôr lie y cedwid y 'safe'. Bu tipyn o ysgarmes yno a saethwyd Llwyd ap Iwan yn farw. Dihangodd y ddau lofrudd wedyn gan fynd â chymaint ag a allent o nwyddau gyda hwy. Fel y dywedir yn y llythyr, anfonwyd adroddiadau o'r hanes i'r 'Y mae'r llythyr gwreiddiol bellach ym meddiant Mr. Eifion Jones, Glan Conwy, gynt Foelas House, Capel Garmon, a diolchir iddo am ei ganiatâd i'w gyhoeddi yma.