Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

TEULU PENMYNYDD* Gan GLYN ROBERTS, M.A. A thro Hanes Cymru yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor. PERTHYN swyn arbennig i hanes teulu Penmynydd. Rhai blyn- yddoedd yn 61, cyhoeddais erthygl ddigon sych yn Nhrafodion Cymdeithas Hanes Môn-ysgrif gymhleth, llawn nodiadau gwaelod- tudalen-yn ceisio datrys rhai o ddirgelion hanes cynnar hynafiaid teulu Penmynydd.1 Canlyniad cyhoeddi ysgrif o'r fath fel arfer yw denu sylw yr ychydig bobl od sy'n ymhel a phynciau yn yr un maes yng ngyflawnder yr amser, hwyrach y caiff linell neu ddwy mewn rhyw gyfrol enfawr ar Lyfryddiaeth, neu "footnote" yn ei chrybwyll mewn llyfr o waith rhywun arall. Ond tipyn yn wahanol oedd yr ymateb y tro hwnnw. Cefais lythyrau wrth y dwsin, gan Gymry, Gwyddyl, Sgotiaid, a Saeson- rhai'n dwrdio, eraill yn canmol, ond pob un yn ymddiddori. Hawdd esbonio'r ffaith. Aelod o'r teulu oedd Owain Tudur, taid y brenin Harri VII. Rywdro yn gynnar yn y bymthegfed ganrif, cafodd Owain Tudur gyfle i'w gysylltu ei hun a Ilys y brenin Harri V. Wedi marw'r brenin yn 1422, bu'n gwasanaethu ei weddw, y frenhines Catherine. Syrthiodd y ddau mewn cariad a'i gilydd a hwyrach iddynt briodi'n ddirgel tua 1428: o leiaf, ganed iddynt bedwar o blant, ac yn eu plith dau fab, sef Edmwnd (1430-1456) a Jasper (1431-1495). Wedi cyfnod o berygl ac ansicrwydd, enillodd Owain a'i feibion ffafr a nodded y brenin Harri VI-yntau'n hanner brawd i Edmwnd a Jasper. Yn y y flwyddyn 1453, dyrchafwyd Edmwnd yn iarll Rismwnt, a Jasper yn iarll Penfro. Y cam nesaf oedd priodas Edmwnd yn 1455 â Margaret Beaufort, merch ac aeres John, dug Somerset, a gorwyres John of Gaunt, un o feibion y brenin Edward III. Bu farw Edmwnd yn 1456, ond ganed ei fab, Harri, ail iarll Rismwnt, yn 1457. Trwy ei fam, felly, perthynai'r baban i gylch y teulu brenhinol, a magwyd ef yng nghanol terfysg rhyfeloedd y Rhos, cyfnod yr ymgiprys am y goron rhwng pleidiau Iorc a Lancastr. Ar 61 marw Harri VI a'i fab, y tywysog Edward, yn 1471, Harri Rismwnt oedd prif obaith y Lancastriaid; yn 1485 gorchfygodd Rhisiart III ym mrwydr Bosworth ac efe oedd y cyntaf o linach enwog y Tuduriaid ar orsedd Lloegr. Dyma'r math ar stori sy'n goglais y dychymyg ymhob oes-hanes bachgen tlawd o'r wlad yn mynd i Lundain i wneud ei ffordd yn y byd, ac yn llwyddo yn wyneb pob rhwystr ac yn groes i bob disgwyl. Ni bu erioed well enghraifft o ddrama "local boy makes good". Anerchiad a draethwyd yng nghyfarfod yr Anrhydeddus Gymdeithas yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Llangefni, 8 Awst 1957. Cadeirydd Mr. William Jones, O.B.E.