COFFAD ROBERT RICHARDS, M.A., F.S.A., A.S. Gan F. WYNN JONES UN bore hyfryd ym mis Awst 1954, ar y prom yn Aberystwyth, fe lawenychodd fy nghalon o daro yn annisgwyliadwy ar gyfaill y deuthum i'w adnabod gyntaf ddeugain mlynedd union cyn hynny, sef Bob Richards. Yr oedd ei wallt fel baner wen yn cyhwfan yn yr awel a'i wyneb llyfndeg gwritgoch yn disgleirio oddi tano. Ei drem yn Ilym tua'r gorwel nes canfod un a adwaenai yn nesau, ac ar drawiad dyna'r wen odidocaf a welwyd erioed yn ymdaenu dros ei wedd fel heulwen haf. Bum yn ei gwmni am ran helaeth o wythnos, ond bychan a feddyliwn y byddwn cyn diwedd y flwyddyn yn ei hebrwng i'w fedd ym mro ei febyd yn Llangynog. Bob mae rhyw anwyldeb yn y cwtogiad, a thrwy ryw ryfedd arfaeth, dynion hoffus yw llawer o'r rhai sy'n cael yr enw. Un o'r rheini oedd Bob Richards, ymgnawdoliad o'r mwynder hwnnw a gysylltir a'i sir ef ei hun, sef sir Drefaldwyn. Bob ydoedd i'w gyfeillion o bob gradd, ac o holl Fobiaid Cymru ni bu un a gerid ac a berchid yn fwy. Dyma droeon ei yrfa. Fe'i ganed yn Nhan-y-ffordd, Llangynog, yng nghesail y Berwyn, ar y seithfed dydd o Fai yn y flwyddyn 1884. Enwau ei rieni oedd John ac Ellen Richards, ei dad yn chwarelwr mewn chwarel lechi yn yr ardal. Cafodd ei addysg fore yn yr ysgol elfennol yn Llangynog a'r Ysgol Sir yn Llanfyllin, ac oddi yno, yn 1903, aeth i Goleg y Brifysgol yn Aberystwyth. Bu yno am dair blynedd a chwblhaodd gwrs gradd gydag anrhydedd yn y dosbarth cyntaf mewn Political Science. Ei bynciau eraill oedd Lladin, Ffrangeg, Hanes, ac Athroniaeth, ac yfodd yn helaeth o bob un o'r ffynhonnau hynny. Nid aeth trwy seremoni'r graddio, ac am hynny nid yw ei enw ar restr graddedigion Prifysgol Cymru. Am y ddwy flynedd nesaf bu yng Ngholeg St. loan yng Nghaer- grawnt, lie cafodd radd B.A. gydag anrhydedd mewn Economeg. Y cam nesaf oedd cael ei benodi yn ddarlithydd yn adran Economeg Wleidyddol Prifysgol Glasgow, a bu yno hyd fis Medi 1911. Galwodd Cymru ef yn 61 yn y flwyddyn honno i gynnal dosbarthiadau allanol dan Goleg Bangor-efô oedd y darlithydd amser-llawn cyntaf a benodwyd gan y coleg i'r gwaith hwnnw. Rhwng 1911 a 1916 bu ganddo ddosbarthiadau ym Mlaenau Ffestiniog, Llanberis, Bethesda, a Phen-y-groes, a'i bynciau oedd Economeg, Hanes Ewrob, a Gwyddor Llywodraeth Gwlad. Rhoddodd y rhyfel atalfa ar y gwaith yn 1916 ac aeth yntau i swydd yn y Swyddfa Ryfel ac wedi hynny dan y Bwrdd Amaethydd- laeth. Dychwelodd at ei waith ym Mangor yn 1919 a bu'n cynnal