Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

HEN GAROLAU PLYGAIN Gan ENID P. ROBERTS. "CAROL literature and music are rich in true folk poetry" meddai Percy Dearmer yn ei ragymadrodd i'r Oxford Book of Carols (1942). Cytuna'r rhan fwyaf mai canu gwerin ydyw eithr y mae llawer math o ganu gwerin. Yn ystyr ehangaf yr ymadrodd gellid honni mai canu cyfunol ydyw, a gyfansoddwyd ar y foment gan nifer o bobl gyda'i gilydd. Nid oes i'r math hwn ryw lawer o synnwyr, ond o'i ganu i don a thipyn o fynd ynddi creir effaith arbennig, awgrym o deimladau cynhenid megis gorfoledd neu dristwch. Ceir enghreifft- iau o rywbeth cyffelyb yn Llawysgrif Richard Morris o Gerddi (gol. T. H. Parry-Williams, 1931), y cerddi gwirod "gyda digrifwch dealladwy ac nid jingle disynnwyr" (Rhagymadrodd, xc). Yn sicr ni pherthyn y carolau plygain i'r dosbarth hwn. Yn ail gellid awgrymu mai canu a gadwyd ar gof y werin o genhedlaeth i genhed- laeth ydyw. Dyna yw'r penillion telyn. Nid y werin ddiddysg a'u cyfansoddodd; tebycach mai gwaith rhyw brydydd neu brydyddion ymwybodol o'u crefft ydynt, ond y werin a'u cadwodd a'u llyfnhau a'u coethi am fod ynddynt brofiadau syml, elfennol y gwyddai amdanynt. Ar gof gwlad y cadwyd llawer hen garol plygain hefyd, canys yr oedd amryw ohonynt wedi eu canu'n ddefos- iynol am flynyddoedd cyn i neb eu hargraffu a bu llawer farw i ganlyn hen ddatganwyr. Ac yn drydydd ceir canu gwerin yn yr ystyr bod nifer o feirdd mewn ardal arbennig yn cyfansoddi mewn dull arbennig a nifer o feirdd mewn ardal arall yn cyfansoddi mewn dull arall. Diau y gellid, drwy astudiaeth fanwl o gefndir a diwylliant, cyfathrach a dylanwad, egluro pam y bu hyn, ond digon yma fydd nodi enghreifftiau. Yn y ddeunawfed ganrif yr oedd beirdd gwlad dyffrynnoedd Conwy a Dyfrdwy yn cyfansoddi baledi ac anterliwtiau, a beirdd gwlad Sir Gaerfyrddin a rhannau eraill o'r De yn cyfansoddi emynau. Yn yr un cyfnod, ac ymlaen i ddechrau'r ganrif ddilynol, yr oedd beirdd gwlad dyffrynnoedd Banw ac Efyrnwy, a rhannau uchaf dyffrynnoedd Tanad a Dyfi, yn cyfansoddi carolau, carolau plygain fel rheol gydag ambell enghraifft o garol Basg. Am y carolwyr a'r carolau hyn y bwriedir son yn yr erthygl hon. Nid ydys yn honni bod cyfansoddi a chanu carolau yn perthyn yn arbennig i Sir Drefaldwyn a'r ffiniau, eithr gellid dweud yn weddol bendant i'r arfer fod mewn bri yno ac iddo barhau'n boblogaidd yno'n hwy nag yn unman arall yng Nghymru. Yn wir, y mae'r arfer o gynnal plygeiniau ar adeg y Nadolig yn parhau'n ddifwlch mewn rhai llannau hyd heddiw. Ni cheisir yma olrhain tarddiad y gair a'r gwasanaeth plygain. Gwnaethpwyd hynny eisoes gan Canon Gwynfryn Richards mewn