Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

-HEN CHWEDLAU' gan SYR IFOR WILLIAMS, M.A., D.LITT., F.B.A. Mewn llawysgrif yn yr Amgueddfa Brydeinig (Lansdowne 111, f. 10) ceir ysgrifau a berthyn i Gyngor y Gororau, tua diwedd yr unfed ganrif ar bymtheg a dechrau'r nesaf; ac yn eu plith un ar "The state of North Wales towchinge religion". Ar 61 son am y Cymry'n mynd yn droed- noeth ar bererindodau i wahanol fannau cysegredig, ffynhonnau, eglwysi, a'r cyffelyb, dywed yr adroddiad hwnnw:- Upon the Sondaies and hollidaies the multitude of all sortes of men woomen and' childeme of everie parishe doe use to meete in sondrie places either one some hill or one the side of some mountaine where theire harpers and crowthers singe them songs of the doeings of theire auncestors, namelie, of theire warrs againste the kings of this realme and the English nacion, and then doe they ripp upp theire petigres at lenght howe eche of them is discended from those theire ould princs. Here alsoe doe they spende theire time in hearinge some part of the lives of Thalaassyn [Taliessin], Marlin Beno Pybbye [Merddyn pen beirdd], Jeruu [? Iorwerth], and suche other the intended prophetts and saincts of that cuntrie." Felly y dyfynnwyd yn A Catalogue of the Manuscripts Relating to Wales in the British Museum, i. 72: ni fedraf fodd bynnag dderbyn cywiriadau'r golygydd, a chwanegwyd rhwng bachau petryal, ar rai o'r enwau. Yn sicr Taliesin, Myrddin, Beuno, Cybi a Seirioel yw'r proffwydi a'r saint a fwriedir eu coffa yma. Gellir amseru'r cofnod yn niwedd teymasiad Elisabeth (1558-1603) neu ddechrau teymasiad James I (1603-25), dyweder tua 1600. Y rhan o'r wlad y cyfeirir ati yw Arfon, yng ngolwg Caer Gybi, ac Ynys Seirioel, y fro lie saif Clynnog, prif eglwys Beuno: nid oedd enw Taliesin yn ddieithr i bobl Degannwy a Chonwy, na Myrddin Emrys yng nghyffiniau Beddgelert, ac Eryri. Yng ngramadeg Griffith Roberts (Dosparth Byrr, 2-3), a gyhoeddwyd ym Milan yn 1567, portreadir Morys Clynnog, alltud o Gymro yn yr Eidal, yn hiraethu am ei wlad, mewn geiriau a ddyfynnwyd ganwaith:- 1 Traddodwyd y ddarlith yng nghyfarfod Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion yn Llundain, Mawrth 20fed, 1946, Syr Idris Bell yn y gadair. 2 Nid cedd y llawysgrif yn weladwy pan luniais y ddarlith, ond gwelais hi wedyn. Nid oes amheuaeth o gwbl am y pedwar enw cyntaf; mae Thalaassyn, Marlin, Beno a Kybbye yn glir a diamwys. Nid felly y pumed enw. Darllenaf ef fel Jermo (sef Jermon), yr o gyda'r marc arferol am n uwchben, rhyw dro i'r dde, nes bod yn edrych fel d Roegaidd. Nid oes modd darllen Jertnd, nac ysywaeth Seirioel. Felly tybiaf mai Seisnigiad sydd yma o Germanus, Garmon. Cofier bod Llanarmon yn Eifionydd yn ymyl.