Skip to main content

JOHN VAUGHAN, CWRT DERLLYS, A'I WAITH (1663-1722). Gan MARY CLEMENT, M.A. Yr wyf yn ddyledus i G. R. Brigstocke, Ysw., a J. R. Gabriel, Ysw., am rai ffeithiau ynglyn i theulu'r Fychaniaid; i'r Parch. Canon G. L. Gosling, Llundain, am ganiatad i astudio Cofnodion yr S.P.C.K. (1699-1750) i'r diweddar G. Eyre Evans, Ysw. Cofnodion Tref Caerfyrddin (1660-1750) ac i'r Parch. A. W. Jones, Cofrestri Eglwys Merthyr, Caerfyrddin (1678-1758). SAIF Cwrt Derllys ychydig o filltiroedd y tu allan i dref Gaerfyrddin ym mhlwyf Merthyr. Bu'r lie hwn am flynyddoedd lawer yn gartref i un o brif deuluoedd y Sir, ond erbyn hyn y mae'r hen adeilad wedi diflannu, a ffermdy modern yn ei le. Cyfeirir at y lie yn yr unfed ganrif ar bymtheg gan Lewis Glyn Cothi:- "Gorau Hys gerllaw o wydd Es nawoes yw'r Llys newydd Llys Sion, val Derllys neu vwy Lie teyrn gerllaw Tawy."l Y cyntaf o'r Fychaniaid i sefydlu yno oedd Richard Vaughan, pumed mab Walter Vaughan, Gelli Aur (neu chweched yn 61 rhai awdurdodau). Ei fam oedd ail ferch Griffith Rhys o Ddinefwr. Daeth pump o feibion Walter Vaughan a Mary Rhys i awdurdod mawr yn y Sir John Vaughan (Iarll Cyntaf Carbery) Gelli Aur, Uchel Siryf 1605, William Vaughan,2 Terracoed, Bardd ac Arloesydd gwladfaol, Uchel Siryf, 1616, Walter Vaughan, Llanelli, Uchel Siryf, 1626, Richard Vaughan, Derllys, Uchel Siryf, 1631 (tad-cu John Vaughan, Derllys, ar ochr ei dad) Sir Henry Vaughan, Derwydd, Uchel Siryf, 1620 (tad-cu John Vaughan, Derllys, ar ochr ei fam). Priododd Richard Vaughan Elinor, merch James Prydderch, Nant yr Hebog, Uchel Siryf Caerfyrddin 1599, a ganwyd iddynt fab, John Vaughan (1624?-1684) a dderbyniwyd yn aelod o Grey's Inn yn Chwefror, 1642. "John Vaughan, son and heir of Richard Vaughan of Court Deallis, Co. Carm. Admitted Feb. 12, 164 1/2."3 Y mae'n debyg ei-fod-oddeutu deunaw oed ar y pryd, felly ganwyd ef tua 1624. Priododd ei gefnither, Rachel, merch Syr Henry Vaughan, Derwydd. Bu'n aelod o gyngor tref Caerfyrddin o 1658 hyd 1684, blwyddyn ei farwolaeth. Efo oedd maer tref Gaerfyrddin yn 1668, ond nid oes gofnodion o'r cyngor am y :flwyddyn honno ar gael. Claddwyd ef yn Eglwys Merthyr. 1 The Works of Lewis Glyn Cothi, Oxford, 1837, Vol. IV, XXXVII. 2 Llyfryddiaeth y Cynpy, 1600-2. 4 Register of Admission to Gray's Inn (Foster).