Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

DAFYDD HUGHES (EOS IAL) EI GYNHYRCHION A'I WASG BREN 0'1 WNEUTHURIAD EI HUNAN. Gan BOB OWEN, M.A. CYNHYRFWYD fi i ysgrifennu hyn o erthygl ar y gwrthrych hynod uchod oherwydd i'r chwilotwr dysgedig Mr. Ifano Jones esgeuluso cofnodi a chrybwyll un dim amdano ef na'i wasg yn y gyfrol ragorol, A History of Printing and Printers in Wales to 1S10 and of successive and related Printers to ig2j ond hwyrach na ddylem fod yn llawdrwm oherwydd mynega yn eglur mai i 1810 y cofnododd ac nad oedd gwasg bren Eos Ial yn dilyn yr un o'r gweisg hynny. Nid wyf yn deall i un dim gael ei ysgrifennu mewn na geiriadur bywgraffyddol na chylchgrawn o fath yn y byd amdano a phrin iawn yw nodion damweiniol yn ei gylch mewn gwahanol lyfrau ar wahan i gyfeiriadau cynnil ato yn ennill a cholli gwobrau mewn eisteddfodau a chymdeithasau Cymreigyddion yng nghylchoedd Edeyrnion, Ial, a Maelor rhwng 1820 ac 1835, a chan ei fod yn gymeriad hynod ar lawer cyfrif fel awdur englynion, caneuon, cerddi, a charolau, y rhai gan mwyaf a feirniadai bydredd cymdeithas yn bur hallt, credaf yr haedda sylw yn Nhrafodion y Cymmrodorion. Parthed ei gyfnod boreol, methasom hyd yn hyn a chael nemor ddim amdano, a phallwyd mewn cael cofrestriad o ddydd ei eni a'i fedyddio a'r fangre y ganed ef o lygaid y ffynnon, ond credaf mai brodor o Fryneglwys yn Ial oedd, a darfod ei eni naill ai yn 1794 neu yn 1795. Mewn nodiad gan Hugh Derfel Hughes ym Mlodau'r Gan (ail argraffiad), 1862, dywaid mai can ar "Yr Adfywiad yn 1859" oedd ei un olaf, ei fod yn wael ers talm o amser, ac i'w anadliad olaf ddigwydd Mawrth 2, 1862, ac efe yn 67 mlwydd oed, a chasglwn oddi wrth farwnad o eiddo Eos Ial i Harried Hughes oedd yn ferch chwaer iddo