Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ANWYL GYFAILL, Mynegodd Mr Evans yr argraphydd imi fel y bu rhyngox y dydd arall mewn Eisteddfod ar Iaith a Threfn y Bibl Cymraeg; a'ch bod wedi barnu yn oreu Fibl mawr Esgob Llwyd 1690, ac i rywun ddywedyd fod yr Esgob hwnnw'n amgenach Gymreig- iwr na'r Doctor Davies: awdwr y Gramadeg a'r Geirlyfr, a sefydlwr iawn sgrifenyddiaeth yr Iaith, drwy brofiadau allan o Waith y Beirdd, y rhai yn unig a'i cadwasant rhag ei xolli. Wfft ixwi oil! Gwendid mawr hwn yma ysywaeth! Fy nghymydog Mr Pyrs Lewis o Goleg yr Iesu, gwedyn person Llanfaxreth ym Mon, oedd coleddwr yr argraphiad hwnnw, (nid Esgob Llwyd) drwy'r hyn y cafodd yr Enw Welsh Rabbi yn Rhydyxen, mi welais yn ei dy ef yn Llanfihangel tre'r bardd yr holl ddalenau prawf a ddaethant o'r Wasg yn y Gwaith hwnnw. Yr oedd Tad Esgob Llwyd o dylwyth yr Henblas ym Mon, ond Sais oedd yr Esgob wedi ei eni yn Berkshire, ac ni wyddai fwy oddiwrth y Gymraeg, er ei fod unwaith yn Esgob Elwy, na'r Esgob Newcome y sydd yno'r awron yn ymdrexu hyd y geill am ddeol yr Iaith oddiar wyneb y ddaear; felly tra anghymwys i hyfforddi iawn ysgrifen y Bibl. Erxwn arnox gymeryd trugaredd ar Iaith eix Mam, a pheidio torri ei hesgyrn eilwaith, y rhai sydd yn awr wedi eu gosod yn eu lie priodol: dan boen ysgymundod Cymdeithas y Cymro- dorion, y rhai ydynt ei hamddiffynwyr yn erbyn pawb a'i drylliant, o'r Esgob i'r Cardottyn. Fe weddai wrth y xwedl 1 Aelodau'r Eisteddfod oeddynt Dr Worthington, Dr Owen, Mr Jno. Evans. yn un galon ei'n Gwilief hir nos nawdd yn Nheyrnas nef. John Prichard nis gwn o ble a'i cant yscolhaig da iawn a Duwiol Ei oed pan fu farw ynghylch 28, ychydig wedi 1600. RICHARD MORRIS AT JOHN EVANS Diben 376 (draft) TWR GWYN, 2 Chwefror 1768.