Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YMFUDO 0 SIR FRYCHEINIOG I'R AMERIG; 1654-1784 GAN BOB OWEN, M.A., CROESOR Anhawdd ydyw cael allan a oedd rhai o bobl Sir Frycheiniog ymhlith y 45° o Gymry a aeth allan o borthladd Llundain yn y flwyddyn 1635, neu ymhlith y 40 hynny y cyflwynwyd patent i bob un ohonynt ar blanigfeydd yng ngogledd James River, Summer Islands, yn ystod 1626-1679. Tybed a oes rhywun o'r Sir yn gymysg a'r 150 Cymry a wladychodd yn Virginia rhwng 1623 a 1625 ? Pwy wyr nad oedd rhai o Sir Frycheiniog efo'r 60 Cymry a ddedfrydwyd o fod yn derfysgwyr adeg Gwrthryfel Dug Mynwy yn 1685 ac a alltudiwyd i Ynys Barbados a phlanigfeydd eraill ? Yn y flwyddyn 1679, cynhwysai cofrestrau genedigaethau a marwolaethau Barbados tua 250 o Gymry, ond ni wyr yr un dewin a oedd Brycheiniogwyr yn eu plith ai peidio. Crybwyllir a chroniclir am y Cymry uchod yn llyfr diddorol John Camden Hotten, Original Lists of Persons of Quality, Emi- grants, Religious Exiles, Political Rebels, Serving men sold for a Term of Years Apprentices Children stolen, Maidens pressed, and others who went from Great Britain to the American Plantations 1600-1700, (New York edn. 1931). Tawedog a niwlog yw cyfrolau diddorol Navigations, Voyages, and Discoveries of the English Nations gan Richard Hackluyt, parthed lleoliad mannau brodorol yr ugeiniau Cymry dewr hynny a wthiasant eu ffordd drwy beithderoedd a choedwigoedd trwchus Gogledd America yn erbyn gwrthwynebiadau ffyrnig yr Indiaid Cochion, ac ni ellir ychwaith ddethol yr un Cymro o'r Sir hon o blith y degau dynion gwrol a ddarluniwyd mor fyw gan y morwr rhyfedd ac athrylithagar hwnnw, Capten John Smith, yn nechrau'r ail ganrif ar bymtheg. Beth bynnag, yr oedd llawer ohonynt yn Gymry. Ni wn ychwaith a oedd rhai o Gymru ymhlith y 90 merched dibriod a anfonwyd gan y Cwmni Anturiaethus i Virginia yn 1618 i geisio cael y planhigwyr anesmwyth a hiraethus hynny i ymsefydlu'n dawel drwy eu priodi. Rhyw ddeugain mlynedd neu lai yn 61, cyhoeddwyd un o'r cyfrolau mwyaf diddrorol a thoreithiog ei chynnwys a gyhoeddwyd erioed ynghylch sefydlwyr cyntefig y trefedigaethau yng Ngogledd America o dan y teitl, Bristol and America A Record of the First Settlers in the Colonies of North America, 1654-1685, including the Names with places of Origin of more than 10,000 Servants to Foreign Plantations who sailed from the Port of Bristol to Virginia, Maryland, etc.