Dysgwch Adnabod eich Ardal meddai Dr. R. Alun Roberts OS ym yn hoff o'n gwlad y mae'n werth inni gofio mai caru ardal yw dechrau caru gwlad. Peth gwael a di-rym yw caru ardal heb ei hadruibod. Drwy holi a chwilio a darllen hanes ei thai a'i diwyd- iannau, ei phobl a'i bywyd gwyllt, y deuir i adnabod pob ardal. GWYDDOR gwiad — i'w dysgu y mae'n rhaid wrth gynllun gwaith ym mhob ysgol. Rhaid hefyd wrth feddwl gwyddono], y meddwl hwnnw nas ceir ond ar ddau amod—bod safon glir i farnu wrthi ac na fernir onid un peth ar unwaith. Y mae llawer i'w ddysgu hefyd drwy sylw- adaeth fanwl-gwybod ym mha le a pha bryd i sylwi ac i chwilio am bethau. Y mae mam yr anwylaf o bawb i'w phlentyn am ei bod yn nes ato nag at neb arall ac felly y mae'r ddau yn eu deall ei gilydd yn well na dim dau arall. Gwyn fyd y plentyn sydd â chanddo serch at natur ail i'w serch at ei fam. Yr oedd y Cymry gynt yn meddu ar serch felly, o orfod, efallai. Gwnaent dduwiau a duwiesau o bethau o'u hamgylch. Ofnent hwy weithiau ond parchent hwy bob amser, ac yr oeddynt yn fodau byw iddynt. Meddylient am fynydd fel dyn yr oedd iddo ben a chorun, ysgwydd a bron a throed, ac fe soniwn ni am bob un o'r aelodau hyn i fynydd o hyd. Yr oedd sawdl i'r bryn, penelin i lwybr a chesail i glawdd. I ddynion oedd wedi byw yn agos at natur yr oedd lloches a balm i'w cael yn encilion natur, oherwydd y ddaear oedd y fam yn y diwedd a phlygiad braich y fam oedd seintwar holltau'r graig. A all pob ysgol ei wneuthur. Dyddiau tywyll fydd dyddiau'r amser i ddyfod os ymserchwn yn ormod mewn pethau marw o waith llaw dyn ac anghofio tueddiadau meddwl y fam fawr. Os peidia'r cwmwl ag wylo pan ddêl cawod ac os peidia'r haul â gwenu pan fo'n tywynnu, bydd ein bywyd ni yn dlotach na bywyd ein tadau. Y mae'r cyfleusterau a'r hwylustod i wahanol fath o waith ysgol y geUir ei wneuthur yn y wlad yn newid yn fawr o ardal i ardal, ac fe wyr yr athro yn well na neb beth sydd briodol i'w ysgol ac i'w ardal. Serch hynny, y mae lliaws o bethau sy'n bosibl i bob ysgol eu gwneuthur. Y peth mawr yw bod yn graff ac yn sylwgar a dibynnu ar brofi peth drwy'n synhwyrau'n hunain; dysgu adnabod y gwahaniaeth rhwng tystiolaeth a thyb. Peth mawr yw bod yn fanwl ac yn gywir yn y pethau. hyn gwyddonw jt ydyni i gyd y pryd hwnnw, ac y mae'n rhaid i ni wrth safonau gwyddonol. Amod cyntaf safon ddinewid. Wedi i'r arbraw fynd heibio, y mae pob croeso inni fod yn farddonol ac mor fyw ein dychymyg ag y mynnom, ac y mae'n rhaid yn wir inni wrth ddychymyg cyn y gallwn wneuthur fawr ohoni yn y gwydd- orau o gwbl. Ond Ue y dychymyg yw rhoddi syniad yn ein pen i ddechrau. yna rhaid i ni brofi'r dychymyg i weled pa faint o wir sydd ynddo Rhaid inni roddi ffrwyn yn ei ben a phan fôm yn profi dychymyg rhaid inni ei gau allan yr un fath ag y byddwn yn peidio â defnyddio gair pan fôm yn diffinio'r gair hwnnw. Amod cyntaf y meddwl gwyddonol yw safon glir ddinewid i farnu wrthi. Bwriwn fod gyrr o ddefaid yn mynd heibio i ni ar y ffordd a ninnau ar frys ac yn cael ein dal ganddynt. Wedi dyfod adref efallai y dywedwn, Yr oedd cannoedd o ddefaid ar y ffordd heddiw — a ninnau ar frys yr oeddynt yn edrych fel cannoedd i ni gan eu bod yn rhwystr inni. Yr amaethwr a'r defaid. Bwriwn ymhellach fod amaethwr yn mynd heibio i'r un yrr o ddefaid ar y ffordd. Teifl ei olwg arnynt yn hamddenol ac meddai gyda'r nos wrth gyfaill iddo, Yr oedd gan Huw Rolant y Braich griw o ddefaid neis yn dyfod o'r Aber heddiw." Ho felly, oedd ganddo griw mawr ? ebe'r cyfaill. Oedd 'wir," meddai'r Uall, gryn bedwar ugain neu gant." Pe safem a gofyn i Huw Rolant ei hun pa faint o ddefaid oedd ganddo, dywedai, Y mae cant a dwy i fod beth bynnag mi a delais am gymaint â hynny ohonyn hw cyn cychwyn a gobeithio nad oes vr un ar goll." Y mae safon bendant dyn wedi talu am bob un gan yr olaf gwyr yn berffaith pa faint a gostiodd y cwbl iddo. Daliodd y peth yn erbyn profiad a'u cyfrif hwynt wrth safon cadarnaf cyfrif, sef fesul un ac un. Y mae i'r gwyddorau sylfeini gweddol gadarn yn y pen draw i gyd. Dyna'r mesur hyd, hyn-a-hyn o filltiroedd neu o fodfeddi. Y mae ystyr wyddonol fanwl i filltir a modfedd. Y mae mesur llathen safonol yn Llundain i fesur llathenni eraül wrthi os yw'n fater pwysig iawn, ac y mae'r fodfedd yn rhan bendant o'r llathen honno a'r filltir, hithau yn mesur nifer neilltuol 0 lathenni. Yr hen ddulliau'n cael gwneud. Dyna paham y mae braidd yn anodd i blentyn o'r wlad fagu meddwl union a manwl. Y mae'n safonau yn anwyddonol, yn amhendant, ac yn dibynnu'n aml ar amcan-gyfrif. Ychydig o amaethwyr a wyr yn union a manwl fesur eu meysydd. Wrth hau bvddant jn fynych yn rhoddi llawer gormod neu lawer rhy ychydig o had. ac y mae hynny wrth gwrs yn ddrwg. Y mae'r hen ddulliau o feddwi, v ffordd draddodiadol. hen ffasiwn o wneuthur pethau yn cael gwneuthur y tro a rhywsut y mae'n hawdd deall hvnnv. Pa fodd v daeth mesurau i fod i ddechrau ? Diamau iddynt gychwyn cyn bod gan ddyn bren mesur o gwbl na llogell i gadw'r pren ychwaith. Ond yr oedd yn cludo'i draed gydag ef i ba le bynnag yr âi. Beth am fesur pethau yn ôl hyd ei droed ynteu Dyna oedd dechrau'r droedfedd. Y fodfedd a'r droedfedd. Cyn pen hir dyna fesur pethau llai ac eisiau safon i fesur pethau mwy hefyd. Gwelwyd bod y migwrn o hlygiad y fawd i flaen yr ewin yn hwylus, a thyna gychwyn modfedd. Pan ddaeth amser i gysoni'r fodfedd a'r droedfedd, gwelwyd bod deu- ddeng modfedd yn rhywle o gwmpas troedfedd. Yr un fath gyda'r llathen, y mesur o ben y trwyn i flaen y bysedd, a dal y fraich yn syth allan. Mesurau synnwyr y fawd ydynt, hwylus ddigon i fesur pethau'n fras. Bellach y mae pob un ohonynt wedi ei safom; ond y mae'r hen ddiffyg manyi- rwydd yn aros o hyd yn ein dull o feddwl, a dyna lle'r ŷm yn anwyddonol. Y mae'r safon hithau'n anghyson, y pren llathen a phob mesur arall yn newid gyda'r tywydd, y pwysau yn newid yn ôl y pellter o ganol y ddaear. Y mae pwys o ymenyn yn llai o swm ar ben yr Wyddfa na phe pwysid ef yng ngwaelod pwll glo, a thecell yn berwi'n hanner oer ar ben yr Himalaya rhagor nag ar lan y môr. Ond y mae'r pethau yma i gyd yn faterion o hwys mewn gwyddor a rhaid cywiro'n fanwl i gael at y safon eithaf. Deg yn safon cyfrif. Pam y daeth deg yn safon cyfrif ? Deg un, deg deg deg, cant; deg cant, mil. ac felly vmlaen Y mae llawer i'w ddweud dros gyfrif popeth fesul deg fel y gwneir ar y Cyfandir ac yr ydym ni ym Mmydain ymhell ar ôl hynny. Ond nid ydwyf yn siwr mai'r cynllun deg yw'r gorau. Byddai cyfrif fesul deuddeg yn llawer gwell, pe byddem wedi arfer ag ef. Ni ellir rhannu deg ond gyda phump a dau ond gellir rhannu deuddeg â dau, tri, pedwar a chwech, a dyna fantais fawr. Tebyg mai am fod gennym ddwy law a phump o fysedd ar bob un, a bod dau bump yn gwneuthur deg, ac am fod dyn i ddechrau yn cyfrif ar ei fysedd-fe1 y gwna ambell un o hyd yn 1le rhoddi ei ffydd yn ei gof a'i ymenydd­y dewiswyd deg yn safon cyfrif. Ail amod y gwyddonydd hefyd ydyw ceisio profi dim ond un peth ar unwaith. (I dudalen 269.)