DIM SAESNEG yn yr Ysgolion Gan gloi'r ail bennod a'r olaf o'i ddadl â Mr. D. R. Etans ar y ptcnc ai goratt ytc i Gymru fod yn uniaith Gymraeg, i ddechrau rhoddir dadl Mr. Erans. At Olygydd Y FORD Gkox. ymdrin ag ef, a'm bod yn gosod fy mri ar bethau eithriadol, prin ac arbennig. I hyn-na atebaf nad yw Mr. Bebb yn deall tueddiad neu sylwedd yr hyn a ysgrifennais. Yr wyf i yn bleidiol dros y cynllun i bob plentyn sydd yn siarad Cymraeg gael yr hwylustod i ddysgu Saesneg hefyd, fel na bo ar ôl pan ddechreuo yrfa bywyd o ddifrif. Nid wyf yn gosod hyn-na 'nawr o'r newydd yr oedd yn eglur yn fy ysgrif gyntaf. Y mae'n talu i Gymro a Chymraes bob tro ddysgu Saesneg ochr yn ochr â'r Gymraeg— un iaith i ddehongli'r llall—yn yr ysgol elfennol, hynny yw, fel peth cyffredinol ac nid arbennig. Gwrteithiant y meddwl i bob un a rhoddant gymhwyster i jmaffyd â chyfleusterau bywyd yng ngyrfa pob bachgen a phob geneth. Hebraeg a Groeg a Uadin Y mae Mr. Bebb, wrth osod y gofyniad a wyf dros ddysgu Hebraeg a Groeg a Lladin yn yr ysgol elfennol, yn dangos cyn lleied y mae wedi deall tueddiad neu sylwedd yr hyn a ysgrifennais. Gan i mi sôn am y tair cainc o ddysgeidiaeth sy'n bod yng Nghymru-yr elfennol, yr uwchradd a'r brifathrofaol. yr wyfyn synnu bod y tair iaith farw a grybwyll- wyd wedi eu gosod yn y gainc isaf gan ŵr mor ddysgedig. Soniais am y nifer fawr sy'n gorfod ymadael â Chymru yn barhaus-y maent yn perthyn i bob dosbarth. Cymerais ddau fel enghreifftiau, sef y masnachwyr a'r newydd- iadurwyr. Nid oes angen enwi pob galwedig- aeth. Rhoddais enghreifftiau eraill yn fy ysgrif o'r egwyddorion y ceisiais eu hegluro. Yr wyf yn gobeithio nad yw Mr. Bebb wedi camgymryd yr enghreifftiau am eithriadau. Llafur Syr John Rhys Fe'm synnwyd yn fawr pan welais fod Mr. Bebb yn tynghedu Syr John Rhŷs i ebargofiant fel ysgolhaig ymhen cenhedlaeth neu ddwy. A yw Mr. Bebb yn gwybod yn hollol am lafur mawr ei gydwladwr ynglyn â hanes a llên gynnar Cymru, llafur sy'n peri inni ddeall ein hiaith yn fwy trwyadl, i werthfawrogi yn well ein llên gwreiddiol a choeth ? Llafur o'r fath yr ymgymerwyd ag ef gan yr ysgolheigion mwyaf a fedd ein gwlad, llafur ac athrylith a'i cymhwysodd i fod yn ddysgawdr i Syr John Morris-Jones ? Paham y gosodwyd John Rhŷs, o holl ddysgedigion Cymru yn gadeirydd ar Gym- deithas y Iaith Gymraeg ? Paham y rhodd- wyd y sillaf urddasol o flaen ei enw—gŵr edd yn sy'n sefyll yn ogoneddus yn rhestr ysgrifen- wyr awdurdodol ar bynciau Celtaidd a Chymraeg yma ac ar y cyfandir ? Ond o'r holl bethau syn y mae Mr. Bebb wedi eu gosod o'n blaen, yr hynotaf i mi yw'r rhesymeg fy mod wedi anghofio yn Hwyr mai gŵr uniaith oedd fy Ngwaredwr, pan grybwyllais v modd y trawsffurfiwyd John Rowlands i fod yn Henry Morton Stanley. Nid yn unig nid wyf yn anghofio'r gwir- ionedd yna, ond dymunaf atgofio Mr. Bebb i Athro mawr ein hefengyl gymryd i'w was- anaeth Saul o Darsis a drawsffurfiwyd yn Paul yr Apostol. Ei eiriau am ei was- anaethwr oedd, Y mae hwn vn llestr etholedig i mi." Llestr etholedig. Paham ? Am ei fod yn frwdfrydig o ran ei deimlad at bethau crefydd, ac yn medru dwy iaith—yr Aramaeg—iaith gynhennid ei Arglwydd a'r eiddo ef ei hun, a Groeg y cenhedloedd neu'r byd gwareiddiedig fel y'i gelwid. Dyletswydd i Gymru—gwasanaethu Ie, llestr etholedig i mi, i ddwyn fy enw ger bron y Cenhedloedd." Fe fyddai Aramaeg ar ei phen ei hun yn torri'r cynllun. Ac er ei fod yn ysgrifennu ei lythyrau cyn- hwysfawr, dwfn ac athrylithgar yn iaith ddarluniadol y Groegiaid, ac yn pregethu ar y mwyaf drwy gyfrwng yr un iaith, fe'i geilw'i hun yn i HebrewT o'r Hebreaid." Felly hefyd y mae Cymru am gymryd ei meibion a'i merched dwyieithog i'w gwasanaeth i ddangos i wledydd eraill ei gwir gymeriad, ei henaid cerdd. Yn y fan yna y mae dylet- swydd fawr y Cymry. Nid yw Cymro yn anwybyddu ei wlad drwy wasanaethu'r byd. Yn hytrach y mae'n taflu clod ar y wlad a'i magodd. Cymerer fel enghraifft un o'r miloedd lawer sydd wedi byw allan o'r Hen Wlad, sef Henry William Preece, a baratôdd y ffordd i ddwyn i ben un o ddarganfyddiadau mwya'n hoes-a phob oes o ran hynny, sef y radio. Estyn llaw A ydyw ef, trwy wasanaethu'r byd, wedi anwybyddu Cymru ? Y mae gan bob gwlad le i ddiolch i'n gwlad fach a gynhyrchodd y fath ddyn mawr. A dynion mawr sy'n eisiau ar y byd, dynion sy'n fawr yn eu hath- rylith a'u gwasanaethgarwch ac nid yn eu hymhoniadau, nid dynion bach cul. Dar- llener unwaith eto y bennod Bychander yn llyfr yr hybarch Syr Owen M. Edwards, Er Mwyn Cymru." Gyda'r geiriau yna dymunaf derfynu ar ymosod a hunan-amddiffyn. Rhaid rhoi i bob un ei haeddiant, ac felly dymunaf gyd- nabod yn ddiffuant yr hyn a gyflawnodd Mr. Bebb dros ddysg yng Nghymru. Er nad wyf, efallai, yn ymddangos felly, y mae gennyf deimlad dwys tuag at y gwrth- rychau y mae Mr. Bebb yn bleidiol iddynt, sef codi Cymru a'r iaith sy'n sefyll fel craig yn y gorlifoedd a ymdaenodd dros Ynys Prydain. Felly estynnaf iddo yn wresbg fy llaw mewn brawdgarwch. D. R. EYANS. ATEB MR. W. A. BEBB. At Olygydd Y FORD GRON. YMAE dadleuon Mr. Evans yn ein denu ni ymhellach bob tro o'r fan He cychwynnwyd. Gan hynny, efaUai mai da, cyn ateb y waith hon, fydd atgofio Mr. Evans a'r neb sy'n dilyn y ddadl, beth oedd safbwynt fy ysgrif gyntaf i. Yn fyr, dyma fe Mai Cymru Uniaith oedd y delfryd i gyrraedd ato, gan nad oes genedl ddwyieithog yn bod o gwbl. Mai un ffordd i amcanu at y delfryd hwnnw yw cadw'r Ysgolion Elfennol yn yr ardaloedd svdd fwy neu lai yn hollol Gym- reig, yn ysgoUon trwyadl Gymreig heb ddysgu dim Saesneg o gwbl ynddynt. Byddai gennym felly yng Nghymru ryw gymaint o leiaf o gefndir uniaith Cymreig- peth sy'n anhepgor er mwyn diogelu'r briod- ddull Gymreig yn ei phurdeb cynhenid, a chadw ffynnon yr iaith yn ddi-lwgr, ac i fyrlymn bywyd newydd. Cymraeg i bawb yng Nghymru Am ysgolion y rhannau eraill o Gymru, He mae pawb oll yn gwybod Saesneg, dysgu Cymraeg yno yn effeithiol wrth ochr y Saesneg, fel y geHid, gan bwyll bach, ddysgu i bawb yng Nghymru fwy ac eto fwy o iaith y wlad-Cymraeg. Wedi dyfod i'r ysgolion uwch-yr ysgolion canol a'r ysgolion sir-gellid yno yn ddiau ar hyn o bryd ddysgu Saesneg, yr un fath â Ffrangeg, hyd yn oed yn yr ardaloedd Cymreig. Yn olaf, yn yr ysgolion elfennol mewn ardaloedd Cymreigi dysgu Hanes, Daearydd- iaeth, Ymarfer Corff-pob pwnc—drwy gyfrwng y Gymraeg. Yn awr, ateb Mr. Evans y tro o'r blaen i hyn ydoedd bod ymenydd Cymro yn ddigon cryf i feistroli dwy iaith, a mwy, pe bai raid bod meddyliau cryfaf pob cenedl yn dysgu ail iaith, a thrydydd bod Cymro dwyiaith yn drech dyn" na Sais neu Ffrancwr uniaith na buasai sôn am Syr John Rhys a Stanley oni bai iddynt ddysgu Saesneg ac ysgrifennu ynddi. Safbwynt anaddysgol Ceisiais innau ddangos iddo fod ei saf- bwynt ef yn an-addysgol, am iddo'i seilio ar y Cymro sydd â chanddo ymenydd i ddysgu dwy iaith, ar feddyliau mwyaf y cenhedloedd sydd yn dysgu ail iaith, ac ar yr ychydig, mewn cymhariaeth, sy'n gadael Cymru, neu'n llwyddo fel Saeson yn LIoegr. Ni sylweddola Mr. Evans nad yw'r meddyliau cryfaf" chwedl yntau, yn Ffrainc a'r Ahnaen yn cael dysgu dim un ail iaith yn yr Ysgol Elfennol. Mi gefais i brofiad o fyw yn Ffrainc am bum mlynedd, ac un o'r pethau pwysicaf a ddysgais yno ydoedd Ue a phwys a gwerth yr iaith, Ffrangeg yn y gyfundrefn addysg. Yr oedd sylwi ar y modd y dysgid hi ynddo'i hun yn wir addysg. Hi a hi'n unig a ddysgid, wrth gwrs, yn yr holl ysgolion elfennol, a chyda