"Un o'r Trefi Mwya'u Diwylliant yn yWlad" Yr Heol Fawr, Merthyr Tydfil, oddi wrth hen ysgythriad. (Parhad o dudalen 220.) Ar ei ôl daeth Anthony Bacon, o swydd Cumberland (mewn cerbyd yn cael ei dynnu gan fulod), a ffurfiodd weithfeydd cvntaf Plymouth a Chyfarthfa. Ef a agorodd y ffordd fawr o Ferthyr i Gaerdydd 168 0 flynyddoedd yn ôl. Canlynwyd ef gan Richard Crawshay, o swydd Efrog. Prynodd Crawshay waith Cyfarthfa yn 1794. Yn 1825 adeUadodd ei fab, William Crawshay, Gastell Cyfarthfa. Erbyn heddiw y mae'r Castell wedi ei droi'n ysgoldy sydd gyda'r harddaf yng Nghymru, bechgyn ar y Ilawr a merched ar y Uofft. Saif yng nghanol parc eang, hardd, a choedwig. A chyda llaw, nid oes dref yn y wlad wedi gwneuthur mwy dros addysg ei phlant na thref Merthyr Tydfil. Dilynwyd y meistri haearn hyn gan Homfray,"Hill, Fothergill, Syr W. T. Lewis, Bessemer, ac eraill. Gweithiau glo a haeam. Yn gysylltiedig â'r gwaith glo yn unig y mae enwau Robert Thomas, a Lady Thomas ei wraig, a werthai lo ym Merthyr, heblaw danfon llwythi ohono ar y gamlas i Gaerdydd. Enillodd iddi'i hun yr enw o i Fam masnach y glo ager yng Nghymru." Yna daw enwau John Nixon, Syr Hussey Vivian, a Uawer ar eu hôl. Ym mhyllau glo Merthyr a'r cylch yn 1913, yr oedd 13,560 yn gweithio heddiw mae tua thri chwarter ohonynt yn segur. Yn nydd eu hanterth, gweithiau haearn Dowlais oedd y mwyaf pwysig yn yr holl fyd. Yma y gwnaed yr arbrofion a'r dargan- fyddiadau a'r dyfeisiau i wneud dur yn rhad, ac o'r math gorau yn yr amser hwnnw. [Cennad y Llyfmell Genedlaethol. Yn nechrau'r ganrif ddiwethaf yr oedd yma bob nwydd a mantais i wneud haearn digon o lo rhagorol, haenau cyfoethog o fwyn haearn yn ei ymyl, ffrydiau cryfion o ddŵr rhedegog i droi'r olwynau, a nifer mawr o weithwyr ym mythynnod Cymru, ac Iwerddon hefyd, yn barod i fynd i unrhyw fan a gwneud unrhyw waith, yn hytrach nag aros i hanner llewygu ar y tir, a llawer un Yn dwyn ei geiniog dan gwynaw, Rhoi angen un rhwng y naw. Cymry'n dysgu'r grefft. Sylwer mai Saeson a gychwynnodd y gweithiau haearn a glo a ddatblygodd i gymaint bri yn y ganrif olaf ond wedi dysgu'r grefft, aeth llawer Cymro o Ferthyr a Dowlais i gychwyn gweithfeydd mewn gwledydd errill, megis yn Hughesoffka yn Rwsia. A Chymry fu'n gyfrifol am rai o'r arbrofion mwyaf llwyddiannus mewn peiriannaeth fwyn. NID sŵn y clychau mawrion, A lili'r dŵr mewn heddwch Na lliwiau'r Jiwbili Yn gwrando ar eu cân, Ar fyrddiwn o faneri A gwynder y petalau Sy'n swyno 'nghalon i. Yn lanach nag o'r blân. Ond gweld yr allt yng Nghenarth A'r bysedd cŵn yn gwrido Uwch ewyn y ffrwd wen, Wrth edrych arni hi; A chlychau'r Gog yn trncial, Mae'n rhaid bod blodau'r meysydd A'r blagur uwch eu pen. Yn dathlu'r Jiwbili. Llanddt.usant, Caerfyrddin. Maggie Owennant Daties. Ym Merthyr y rhedodd yr ager-beiriant cyntaf ar reilffordd, dyfais Richard Trevethick, gŵr o Gernyw, y gwelir cofadail iddo heddiw yn ymyl Pontmorlais. Nid fel canolfan masnach lo a haearn yn unig y bu Merthyr yn enwog, ond fel un o'r trefi mwyaf eu diwylliant yn y wlad. Mewn ystafell gul y tu ôl i siop fferyllydd yn yr Heol Fawr yr ysgrifennodd Thomas Step- hens, y beirniad llenyddol mawr, ei Literature of the Kymry, a llawer o lyfrau a thraethodau eraill. Yn Nowlais, yn agos i gan mlynedd yn ôl, y gwnaeth yr Arglwyddes Charlotte Guest ei chyfieithiad enwog o'r Mabin- ogion, a'u dwyn felly i sylw ysgolheigion pob gwlad wareiddiedig. Mewn heol ddinod yn ymyl Cyfarthfa y ganed Dr. Joseph Parry, y cerddor enwog. Ym Merthyr y bu Tom Price yn treulio'r rhan fwyaf ffrwythlon o oes. Bachgen bach o Ddowlais oedd Harry Evans, yr arweinydd cerddorol mawr. Ac y mae llawer yn cofio clywed llais arian Eos Morlais, a gymerodd ei ffugenw oddi wrth enw'r ffrwd a red wrth draed Dowlais. Yma hefyd y ganed cerflunwyr ac arlunwyr fel Joseph Edwards a Penry WiUiams. Plant Merthyr yw'r Arglwydd Camrose a Syr Gomer Berry, brodyr y diweddar Arglwydd Buckland, i gyd yn fawr eu cymwynasau i'w tref enedigol. Un o fechgyn Merthyr hefyd yw Mr. J. O. Francis, y dramâydd, y Proffeswr H. A. Harris, athro difyniaeth yng Nghaergrawn, y cyn Brifathro D. R. Harris, Bangor, a llu eraill, amlwg mewn byd ac eglwys. Os yw goleuni ei ffwmeisi chwyth wedi darfod am ryw ysbaid, pery Bwrdeisdref Merthyr i anfon i'r byd genadau yn dwyn tân a goleuni diwylliant ac os yw'r pyllau glo gan amlaf yn segur, y mae'r plant yn brysur yn ei hysgolion rhagorol, oblegid, fel y dywaid arwyddion un o'r ysgolion hyn Golud gwlad ei goleuder. Blodau'r Maes