ADDYSG Un on Gelynion "Yn Ffrainc, trosglwyddo diwylliant y fro deg honno a wneir." DAU brif amcan sydd i addysg. Yn gyntaf, trosglwyddo diwylliant; yn ail, gwneuthur dinasyddion da. Dan y ddau ben hwn gellir dwyn holl amcanion honedig addysg ym mhob gwlad. Gan mai gwahanol ydyw diwylliant y gwledydd, yna gwahanol hefyd ydyw dulliau ac amodau addysg ym mhob gwlad, a'r swm o wybodaeth a gyfrennir. Yn Lloegr, diwylìiant y Saeson a drosglwyddir, a chynhyrchu dinasyddion 0 Saeson a ddv- munir. Yn Ffrainc, trosglwyddo diwylliant y fro deg honno a wneir. a Ffrangwyr o ddinasvddion yw'r ffrwyth. Amlhaer yr enghreifftiau, a gwelir mai felly y llafurir bob tro. Y mae rhywbeth o'i le ar ein haddysg ni. Nid yw ein Prifysgol ni ond math o ail- argraffiad o Brifysgolion talaith Lloegr, gydag un gwahaniaeth-eu bod yn dysgu Cymraeg, a thipyn o hanes Cymru. Y mae ein Colegau Normal yr un ffunud â'r Colegau Normal yn Lloegr, ag eithrio'r un gwahaniaeth eto. Yr un fath yn gymwys am ein hysgolion sir hwythau, a'n hysgolion elfennol. Addysg Seisnig sydd yma ym mhobman, o fôn ein cyfundrefn addysg hyd ei brig a'i blodau. Ein daear wahanol ni. Addysg a gododd yn Lloegr, a darddodd yno ac a dyfodd, yw'r addysg a blannwyd yn ein daear gwbl wahanol ni; addysg a'n try ni yn Saeson bob un, ac a'n diwreiddia o'r pridd y gosododd Duw ni ynddo. Addysg, a ddylai fod y gymwynas loywaf i genedl, yw un o'n gelynion pennaf ni yng Nghymru heddiw. Fe ddylai fod yn deg inni gasglu mai tros- glwyddo diwylliant Cymru sydd weddus inni, mai cynhyrchu dinasyddion da o Gymry a dâl yn nod. Dyna a ddylai fod yn waith ein holl athrawon. I hynny y galwyd hwynt gan y llais oddi mewn-er nad gan y llais croch oddi allan. Y mae'r athrawon mor bwysig fel dosbarth a'r un sydd ym meddiant cenedl. Yn wir, Ue ni bo na byddin na lljnges, hwy yw'r dosbarth pwysicaf i gyd. Ceidwaid dysg cenedl ydynt, ceidwaid ei henaid hi, a'i hetifeddiaeth sydd yn eu dwylo hwy. Fel yr oedd Eseciel yn wylied- ydd i dŷ Israel ym Mabilon, felly y maent hwythau i'r genedl a wasanaethir ganddynt. Yr ysgol yw ei gartref, ei gaer, a'i am- ddiffynfa. Yr ysgolion hyn-yr ysgolion cyntaf-ydyw'r rhai pwysicaf yn yr holl gyfundrefn addysg. Hwynt hwy ydyw sail a sylfaen y gweddill i gyd. Pam hynny ? Am ddau neu dri o resymau. I'r ysgol elfennol y daw pob un o blant yr ardal. Ni wrthodir neb yno. Y mae ei drysau yn agored o led y pen i bob plentyn. Yno y daw pob un am gyfnod o chwech neu saith neu ragor o flynyddoedd, yn yr adeg y mae ei feddwl bychan yn ymagor fel blodeuyn. Y mae'r ysgol elfennol yn fath o aelwyd y fro, — ail gartref y plentyn yn ei ardal ei hun. Yno y bwyty ei docyn bara ar awr ginio. W. A. BEBB Yno y teimla o wres tân yn y gaeaf. Oddi amgylch y mae ei gwrt chwarae, a'r cloddiau a'r caeau lle y rhed, y cuddia, ac y neidia. Ail argraffiad o'r cartref. A thra fo'r ysgol yn ymyl ei gartref, ni theimla ddieithrwch a hiraeth yno, ar ôl y diwrnod cyntaf. Yn wir, mi wn am ardal- oedd Ue mae'r hiraeth yn codi pan gaeo'r ysgol am y gwyliau, a phan ddelo'r dydd i'w gadael am byth. Gan mor bwysig ydyw lle'r ysgol elfennol ym mywyd y plentyn, dylid gwneuthur ym- drech deg i'w pharatoi'n gymwys ar ei gyfer. Pa beth a ddylai ei gael yno ? Gellir ateb mewn un gair — Cymru. Wrth Gymru, golygaf awyrgylch gwbl Gymreig i ddechrau, ail-argrafnad o'i gartref. Dylai glywed Cymraeg yno byth a hefyd. Dylai glywed ei athrawon yn siarad Cymraeg â'i gilydd yn wastad. Felly y megir ynddo barch tuag at yr iaith, a serch a chariad. Felly y datblygir ei hunan-hyder yntau, ac y megir glew praff ohono. Pan gerydder ef, cerydder yn ei iaith ei hun. Pan rybuddier ef, neu pan wobrwyer a'i ganmol, gwneler hynny eto yn ei fam-iaith, yr iaith a ddaeth o'i galon, ac a gyrhaedda yno bob cynnig. Coroner y Gymraeg yn ben ar bopeth yn yr ysgol. Pan geisier ganddo ateb ei enw yn y bore, gofynner ganddo ei ateb mewn Cym- raeg. Pan ddyger ef allan i ymarfer ei gorff, gadawer i'w glustiau wrando ar Gymraeg. Dysger ei bynciau oll iddo yn ei iaith ei hun. Agor ffenestri ar yr ardal. Pwysig hefyd ydyw agor ffenestri'r ysgol fel y gwelo'r plentyn ei ardal ei hun, a'i gartref os oes modd. Canys yno y mae'r caeau a adwaen bob un wrth ei enw, ei liw a'i lun, ei dda a'i dwf. Dylid, ar bob cyfrif, ddyfnhau eu diddordeb ynddynt, a magu ynddynt gariad-gwir gariad golau a deallus­}tuag at y wlad sydd o'u cwmpas. Ynddi hi y mae eu gwreiddiau hwy, a chryfder y gwreiddiau hyn a fydd cryfder eu cymeriadau hwythau maes o law. Gwn am rai ysgolion Ue y dysga'r plant arddio'n dda yn yr ysgol, ac y mae gerddi tirion yn eu cartrefi. Y mae'r plant hynny yn caru cu hardal fel carreg y drws. Ym mhob ysgol elfennol. dysgir rhyw gymaint o hanes. Ond hyd yn ddiweddar iawn-a hyd heddiw yn y mwyafrif mawr ohonynt-ni ddysgir dim o hanes Cymru. Hen ffolineb gwirion. Pa synnwyr sydd mewn dysgu i blentyn o Gymro am Alfred, am Harri VIII a'i wrag edd, am Robert Clive, Wolfe, Wellington,