Gwaith i Ddiwaith y Ddaear Ewan wdLjwe» YMAE dros 25 miliwn o'r rhai sy'n ofer chwilio am waith heddiw o dan 25 oed, a rhed y cyfartaledd o 25 i 42 y cant mewn gwahanol wledydd. Bu un o drefniannau mawr Cynghrair y Cenhedloedd sef y Sefydliad Rhyng-genedlaethol er Cyd- weithio Deallus, yn cynnull barn myfyrwyr y byd ar ddiffyg gwaith ymysg yr ieuanc. Os gofynnir am athroniaeth y peth, dyma hi-am na wêl dyn felly byth mohono'i hunan amgylchir ef drwy'r dydd a phob dydd gan lwch ei brysurdeb a choeg- bwysigrwydd ei waith. Ac o bob anifail rhyfedd a luniodd Duw, y mwyaf annioddefol yw dyn pwysig. Y mae'n rhaid wrth ffidlan, fel y mae'n rhaid i gorff a meddwl wrth fwyd a diod a chwsg. Gall dyn geisio gwneuthur heb- ddynt, ond tâl y ddirwy yn hwyr neu'n hwyrach canys hwynthwy yw'r olew ym mheiriant bywyd, a chanlyniad eu hesgeuluso fydd llosgi i'r pen. Pethau bach a phethau mawr. Eto, wrth ddisgyn i wastad y pethau bach, dibwys-fel y tybir-y caiff dyn yr ongl briodol i iawn-weled y pethau mawr. Symud bywyd mewn eyferbyniadau-hwyr a bore, haf a gaeaf, llawenydd a thristwch, daioni ardderchog a phechod cas, mawredd y gorwel hir a chyfyngder y ffenestr fach. Y pethau hyn a fydd holl ddyddiau y ddaear. Cau Uygaid ar ffeithiau bywyd yw siarad am haf o hyd, a bywyd digymylau, a chym- eriad perffaith. Nid yw'r pethau hyn na dymunol na naturiol chwaith. Blinasom ar wres yr haf diwethaf, a gwaeddwn am law eto eleni. Ni byddai lliw nac angerdd mewn bywyd heb ddyrnod i'r llwch yn awr ac yn y man; codi yw hwyl fwyaf bod- codi yn y bore, a chodi ar ôl ambell hergwd galetach na'i gilydd gan Ffawd. Dod i'r lan o'r bedd oedd camp fwyaf Duw ei hun. Dyna pam y mae Mynd i ddod mae'r haf o hyd, Gwell wyf o'i golli hefyd. yn gymaint gwell barddoniaeth na'r sothach O na byddai'n haf o hyd. Y mae'n well barddoniaeth am ei fod yn wir am ffeithiau bywyd. Ac i ddilyn ein mymryn rhesymeg-gån mai ffidlan yw amod iawn-weledigaeth o fywyd, y ddawn i ffidlan yw rhagredegydd gwaith da. Wrth ymlonyddu y caiff dyn y defnyddiau a'r aidd at waith. I ddweud fy mhrofiad am funud-os eisteddaf i lawr a galw pwyllgor fy nhipyn ymenydd a dweud Yn awr, gyfeillion, rhaid cael rhyw syniad newydd sbon heddiw," ni chlywir llais na neb yn ateb, ond gwagle annherfynol colledigaeth syniad a dyohymyg a ymestyn ar bob llaw. Trof i golofn yr hysbysebau i weled a oes alw am ddyn cymhellgar i werthu te. Yna, Adroddiad unfryd y pwyllgor cyfarwydd- iaid o brif swyddogion saith gymdeithas fawr y myfyrwyr (yn cynnwys y rhai Iddewig a Chatholig) fu'n gweithio o dan y Sefydliad oedd un o bynciau sylw'r Swyddfa Lafur Ryng-genedlaethol y mis diwethaf. Fe'i cyfyngodd y pwyllgor ei hun i lanciau a gafodd addysg arbennig, at alwedigaeth, yn gwneuthur bwyd y ci neu'n eiddigeddu wrth y dwsin bechgyn a ddewisodd y llecyn o flaen fy ffenestr i godi pabell Indiaid Cochion, daw rhyw syniad ffres, anferth ei bosibUrwydd, fel bollt o awyr las. Unwaith mewn deg, y mae'n wir, y llwyddaf i'w gwpláu heb golli pob iod o'i ffresni cyntaf, ond bai fy nghrefft drosgl i yw hynny. Saif yr egwyddor yn sicr — i'r meddwl rhydd y daw fflach gweledigaeth, nid i'r meddwl tyn. Bydd eisiau'r tyndra wedi hynny i gorffori'r weledigaeth, ond llacrwydd agored a diofal yw amod ei dyfodiad. Nid yn crafu ei ben wrth y bwrdd y cadd Shakespeare ei ddramâu, ond yn cerdded ei ffordd hwylus drwy fywyd gwridog oes Elisabeth, yn actio'i ddrama ei hun yn yr awyr-agored yn Llundain, yn rhwbio ysgwyddau â chymeriadau a chewri ei ddydd. Yn ffidlan gyda defaid ar fryniau Tecoa y derbyniodd Amos neges gymdeithasol i Israel. I lacrwydd düyffethair y bardd y daw llun gwirionedd, a chyfaredd cainc i'r cerddor. Oddieithr eich troi chwi Onid y pethau bach wedi'r cyfan yw'r pethau gwir fawr ? Dywedodd un a wyddai gyfrinach bywyd-" Oddieithr eich troi chwi a'ch gwneuthur fel plant bychain, nid ewch i mewn i deyrnas nefoedd." Tybed na siaradai ef yn fwy Uythrennol nag yr es- boniwn ni ei eiriau yn aml, gan eu gwyrdroi i gadarnhau a chefnogi rhyw fympwy moesol neu gymdeithasol o'n dyfais ein hunain ? Nid yw ennill teyrnas mor fawr ag ennill serch un galon nid yw cael clod dynion mor werthfawr â'r ymdeimlad o gyflawni'r gbrau sydd yn eich gallu dros beth bach, disylw-gardd neu gân neu chwarae nid yw eich gweled gan ddynion mor wir gwobr i fywyd â gweled Duw mewn blodyn ac anifail a chardotyn-onid hyn yn syml a feddyliai wedi'r cyfan ? "Sefwch yn dawel ac edrychwch ar weledigaeth fawr bywyd yn llifo heibio. Na fyddwch yn rhy brysur a phwysig a gweithgar, rhag i hir syllu tua'r ddaear bylu eich golwg i ganfod y goron sydd uwch eich pen." Wedi'r cyfan, o bosibl bod gwneuthur bwyd y ci yn fwy gwir nag ambell wledd arall y cefais yr enw o'i rhoi. Tybed ? Un peth a wn — mae'n wir iawn i'r ci, a rhydd beth gwir iawn i minnau. Glynai wrth fy sawdl pe na byddai ceiniog. yn fy mhoced, nac o'r.bobl un gyda mi." neu brifysgol a chydnebydd fod yr anffawd o ddiffyg gwaith, ymysg yr ieuanc, megis pob adran arall i'w briodoli i argyfwng gwaith a masnach byd-eang ac i bydredd trefniannau cymdeithas a masnach ein hamser. Ond y mae ail-achos pwysig, sef diffyg cadw golwg ar alwadau gwahanol rannau o'r byd. Yn y maes hwn y teimlai'r pwyllgor y gallai weithio orau. Sylweddolant fod yn rhaid wrth gynllun mewn addysg at alwed- igaeth er mwyn osgoi drwg-ddosbarthu, er eu bod yn erbyn nacáu addysg ddiwylliant i neb oherwydd ei ddosbarth na'i genedl na'i grefydd. Yn y cyfwng hwn fe soniwyd am gynllun Urdd y Graddedigion Cymreig, sef sefydlu Swyddfa Wybodaeth i hysbysu rhieni plant 14 oed, cyn i'r plant ddechrau mynd dan hyfforddiant arbennig, pa orchwyl y byddai'r plant yn fwyaf tebyg o'i gael. Y mae cynllun cenedl-eang o'r fath-tebyg i'r eiddo Ffrainc a'r Iseldiroedd-yn galw am sylw pob gwlad. Gwaith mewn gwledydd eraill. Pe bai pob gwlad yn cynllunio disgyblaeth ei hieuenctid ymlaen llaw byddai'n bosibl cael gwaith i nifer o bobl ddisgybledig yn rhagor nag y bo ar wlad ei hun eisiau, mewn gwledydd lle y mae angen arbenigwyr hyffordd. Gellid felly addysgu meddygon neu athrawon yng Nghymru ar gyfair gwaith yn China neu Dde Amerig. Ond byddai'n rhaid wrth gyd-drefniant rhwng cenhedloedd. Cynnig y pwyllgor yw Is-swyddfa Wybodaeth barhaol yn y Swyddfa Lafur Ryng-genedlaethol yn Geneva i gymryd Ue ymdrechion Uysgenhadon a'r Gyngres bresennol er Amddiffjn Ymfudwyr sydd â thros 10,000 o aelodau. Gellid dadlau bod hyn yn golygu llawer o gost a Hafur nad yw'n creu dim rhagor o alwadau gwaith. Ond yn ateb i'r ddadl hon dylid cofio bod rhan fawr o'r gwaith eisoes wedi'i wneuthur yn Geneva. Hefyd, oherwydd diffyg cydweithio, y mae parthau lleiaf datblygedig y byd ar hyn o bryd yn, methu cael digon o arbenigwyr. Gwasgar gwybodaeth. Gallai swyddfa felly wasgar gwybodaeth fanwl am gyfle gwaith gwahanol rannau o'r byd. ac amodau pob gwlad o ganiatáu cyflogi. Gallai hefyd gymell safoni cym- wysterau galwedigaeth mewn gwahanol wledydd. Er enghraifft, rhwyddhau'r ffordd i feddyg a addysgwyd yng Nghaerdydd i ddilyn ei alwedigaeth yn Bolivia heb orfod mynd dan ddisgyblaeth yn y wlad honno. Fe weithiai'r swyddfa hon gyda'r Swydd- feydd Cenedlaethol a byddai eu gwaith trwyadl hwy yn anhepgor i'r swyddfa ganol, er y dylid gadael i rieni anfon yn union- gyrch i'r Swyddfa Ganol am wybodaeth i'w cynorthwyo i ddethol addysg eu plant. Datblygai'r swyddfa felly yn fath ar beiriant cael-llafur anferth i weithwyr neilltuol- cyfnewidfa lafur yn nodi croes-gerrynt cyfnewidiol cyflenwad a galwad.