Y Ffisig i'r Ysbryd yw Ffidlan Rhaid chwarae cast ar ffrydiau egni-eu troi o sianel gwaith pwysig at waith dibwys digri. Fel tonig i gorff a meddwl y mae hynny lawer ar y blaen i ddiogi YSBRYD dyn, datblyga gramp fel ei gorfî os cedwir yn dynn a dioUwng o hyd. Dawn arbennig-dawn werth- fawr, ac angenrheidiol hefyd — yw'r gallu i ymollwng a llaesu dwylo, o ran corff a meddwl, ar brydiau. Gorffwys ei gwerth yn ei chyfraniad o gytbwysedd ac ystwythder. A daw'r gofyn a'r angen cyson am y ddawn yn daerach bob dydd, fel y trymha pwys ac y cyflyma symudiad bywyd pawb ohonom. Rhaid dysgu ymollwng a rhoi heibio gofalu mor ofnadwy ynghylch pethau­ein hamgylchiadau personol a phroblemau byd ac eglwys o'n cwmpas, neu bydd galw am lawer rhagor o ysbytai a gwallgofdai y blynyddoedd nesaf. Oes nerfus yw hon, a'r peth gwaethaf i nerfau yw eu cadw ar flaenau traed yn ddi-dor. Yr anogaeth wrthgyferbyn a gymheHir arnom fynychaf-i beidio, ar un cyfrif, â llaesu dwylo gyda rhyw achos da neu'i gilydd, hunan-ddiwylliant a llwydd neu ofal am les eraill. Y mae teulu bywyd difrif, er eu bod yn colli tir o ran rhif a dylanwad yn y dyddiau hyn, yn benderfynol o gyfan- nu'r diffyg yn aelodaeth y gymdeithas drwy groch-alw am fwy o ymroad nag erioed. Eithr cymhellwn ymollyngiad yn lle ymroad fel y peth gorau er ein lles ein hunain, a'r paratoad gorau i wneuthur rhyw gymaint o les i eraill hefyd ar brydiau. Safbwynt hunanoL" O bosibl y dywedir mai hunanol yw safbwynt o'r fath, a gwadiad o'r gwirionedd mawr mai gwasanaethu eraill yw unig nod teilwng bywyd dyn. Gwyr pob un a wyr rywbeth am fywyd mai'r cymwynaswr arall-ystyriol a hunan- anghofus yw gwron hanes-o ddyddiau Iesu, a chyn hynny, i lawr at ddynion fel Dr. Schweitzer heddiw. Ond nid y dynion hyn a sieryd beunydd am ddyletswyddau eraill i ymrôi; y maent yn rhy brysur wrth eu cymwynas eu hunain, neu ynteu ymddengys gwasanaeth yn ddeddf gymdeithasol mor amlwg a naturiol iddynt hwy eu hunain fel na welant unrhyw angen ei gwthio ar eraill. Neu, o bosibl, teimlant nad oes unrhyw ddiben ceisio gwthio dynion i waith a gwasanaeth nad oes ystyr na grym ynddo oni wneir ef yn naturiol ac o wirfodd. Am y rhelyw mawr o apostolion yr efengyl o ymroi er lles eraill, sylweddolwn, yn hwyr neu yn hwyrach, fod ganddynt Gan W.D.Davies ryw fwyell fach bersonol i'w hogi, a phan alwont arnom mor daer i ystyriaid lles eraill, mewn gwleidyddiaeth neu fudiadau cymdeithasol a chrefyddol, mai ein budd- iannau ni" yw'r cyfieithiad diwygiedig llythrennol o'u meddwl. Cyfrinach yr anifail a'r plentyn. Ond y mae angen am ymollyngiad hunan- amddiffyngar, yn enwedig mewn dyddiau fel y rhain a fwyty galon a meddwl dyn yn fuan, fuan, oni wrendy ar lais natur a synnwyr i gynhilo'i adnoddau bywyd mewn pryd. Canys gwir ddigon mai ceffyl parod a yrrir nes y cwympo. Dawn y medd pob un ohonom arni yn naturiol yw ymlonyddu ar rybudd natur bod y nerfau wedi eu tynhau ddigon ac y dylid "cymryd hoe." Gwyr yr anifail a'r plentyn y gyfrinach i'r dim ymroant yn llwyr, ymlonyddant yn sydyn a'r un mor Uwyr. Diffyg ynom ni ddynion-at ei gilydd-yw methu cadw'r reddf hon. Daw ystyriaethau gwrth-natur-syníad cymhleth a gor-gymdeithasol o ddyletswydd a chyfrifoldeb ymdeimlad eithafol o hunan- bwys a chredu y cwymp y byd oddi ar ei echel os peidiwn ni â gweithio am funud y pleser, hunanol yn y gwaelod, o fod yn ferthyron-daw'r rhai hyn oU, ac eraill o glymau annaturiol gwareiddiad, rhyngom â'r reddf iach i feddwl amdanom ein hunain, ac arfer darbodaeth gyda'r un cynnig ar fyw — yn y corff hwn, 0 leiaf-a rydd Natur inni. Ond, meddai rhywun, os yw gwaith yn dda, ni ellir cael gormod o beth da. Tybed ? Beth am ddoethineb yr hen ddihareb Gwaith i gyd a dim chware, ni bydd Jac ar ei ore." Difa aidd bywyd. Dyna berygl methu ymollwng a llaesu dwylo ar brydiau-difa aidd bywyd ag undonedd digymeriad. Deddf ysbryd y bywyd sydd ynom yw bod rhaid i gorff a meddwl wrth egwyl, onid e llifa ffrwd ei adnoddau yn feinach, feinach, nes o'r diwedd sychu i fyny yn llwyr. Y ffisig yw ffidlan er casglu o'r gair liwiau o arwyddocâd Fy ffordd i yw rhoi ymborth i'r pysgod. anfuddiol yng ngolwg apostolion bywyd difrif," perthyn iddo ei le hanfodol yng nghynllun bywyd. Nid diogi yw ffidlan, ond chwarae cast diniwaid a buddiol ar ffrydiau egni bywyd- eu troi o sianel gwaith pwysig at ryw waith bach dibwys, digri. Fel tonig i gorff a meddwl y mae ffidlan lawer ar y blaen i ddiogi, yn yr ystyr o gau'r ddôr ar y ffrydiau yn gyfangwbl. Tuedd hynny yw gadael iddynt gronni a thyfu pob math ar chwyn a 'nialwch, nes mynd o'r diwedd yn ddifywyd ac aflan. Egwyddor yw ffidlan ag iddi ffurfiau mor ddiderfyn â thueddiadau amryfal dynion. Y mae gan bob un ei ffordd wreiddiol-a buddiol iddo ef-o liniaru rhediad ei egni. Gall fy ffordd i fod yn waith caled i chwi, yn dreth drom ar eich tuedd naturiol; bydd eich seibiant priodol chwithau yn faich ar fy adnoddau i. Rhaid felly i bob un ddargan- fod ei ddawn briod i ffidlan mor wir â chael gafael ar waith cydnaws ei fywyd. Fy ffyrdd i o ffidlan. Fy ffyrdd i yw golchi llestri Uestri te nid wyf mor hapus gyda llestri cinio- gwneuthur bwyd y ci, tynnu chwyn, rhoi ymborth i'r pysgod, pastio darluniau mewn llyfr, gwylio wyneb bae Ceredigion, a siarad lol. Ffordd athro cydwybodol a adwaen yw tynnu car modur yn ddarnau a chael lleoedd" ar y di-wifr. Bûm droeon gydag ef a chlywed llef- ac nid un ddistaw, fain, ychwaith-o ddwsin neu ragor o orsafoedd, ond ni chaed cyfle i wneuthur pen na chynffon o'r hyn a leferid. — pe gallwn. Beth am Toledo ? fyddai'r cwestiwn mor fuan ag y caem Konigsberg a phwy oeddwn i i godi gwrthwyneb i hawliau Toledo ? Ei beiriant ef ydoedd, a chyfrwng ei ffidlan. Dyn annynol, meddir, yw'r dyn na pherthyn iddo ryw bechod. Creadur poenus hefyd — iddo'i hun a phawb o'i gwmpas- yw'r dyn na ddysgodd erioed ymlaesu a throi oddi wrth ddifrifwch ei waith at ryw ffurf ar ffidlan a stwna. [I'r tudalen nesaf.